Pan gewch eich hysbysu o enw a chyfeiriad asiant etholiad, rhaid i chi gyhoeddi hysbysiad yn nodi'r manylion hynny ac enw'r ymgeisydd cyn gynted â phosibl. Rhaid i'r hysbysiad gael ei ddiweddaru os dirymir penodiad asiant, neu os bydd asiant yn marw, a rhaid nodi manylion yr asiant newydd ar y fersiwn ddiwygiedig. Rhaid i chi roi copi o'r hysbysiad i'r holl Swyddogion Canlyniadau Lleol yn eich ardal heddlu er mwyn iddynt eu cyhoeddi'n lleol.1
Dylai eich hysbysiad preifatrwydd nodi'n glir ei bod yn ofynnol i chi, o dan ddeddfwriaeth etholiadol, gyhoeddi enw a chyfeiriad asiant etholiad yn yr hysbysiad o asiantiaid etholiad. Bydd hefyd angen i chi ystyried a yw'n briodol neu'n angenrheidiol i'r hysbysiad barhau i gael ei gyhoeddi, ar eich gwefan neu rywle arall, ar ôl i gyfnod deiseb yr etholiad hwnnw ddod i ben. Mae gan yr hysbysiad ddiben penodol, h.y. nodi pwy fydd asiant etholiad ymgeisydd, felly unwaith y bydd yr etholiad drosodd, a bod y cyfle i gwestiynu'r etholiad hwnnw wedi darfod, ni fydd ganddo unrhyw ddiben pellach mwyach. Felly, dylech naill ai ddileu'r hysbysiad, neu ddileu'r data personol sydd ynddo, pan fydd dyddiad cau deiseb yr etholiad wedi mynd heibio Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar Ddiogelu Data.