Rhaid i chi gyhoeddi'r hysbysiad etholiad heb fod yn hwyrach na 25 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio.1
Rhaid i chi hefyd roi copi o'r hysbysiad i'r Swyddog Canlyniadau Lleol ar gyfer pob ardal bleidleisio sy'n gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn eich ardal heddlu er mwyn iddo gael ei gyhoeddi'n lleol.2
⦁ ble a phryd y gellir cyflwyno'r papurau enwebu, a ble y gellir cael gafael ar bapurau enwebu
⦁ os byddwch wedi penderfynu derbyn taliadau electronig, y trefniadau ar gyfer talu ernesau yn electronig
⦁ dyddiad y bleidlais os caiff yr etholiad ei ymladd
⦁ y dyddiad y mae'n rhaid i geisiadau am bleidleisiau absennol (yn cynnwys pleidleisiau brys drwy ddirprwy) ac unrhyw geisiadau i ganslo neu newid trefniadau pleidleisio absennol gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol er mwyn iddynt fod yn weithredol ar gyfer yr etholiad
Dylai'r hysbysiad hefyd gynnwys y dyddiad y mae'n rhaid i'r ceisiadau ar gyfer cofrestru a Thystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr neu Ddogfennau Etholwyr Dienw gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol er mwyn iddynt fod yn weithredol ar gyfer etholiad.
Dylai'r cyfeiriad a roddir ar gyfer cyflwyno papurau enwebu fod yn union gywir, a dylai gynnwys unrhyw rif ystafell. Bydd hyn yn osgoi unrhyw amheuaeth os caiff enwebiadau eu cyflwyno'n agos at y terfyn amser. Dylid hysbysu pob aelod o staff derbynfa'r adeilad ac adeiladau cysylltiedig eraill na ddylent dderbyn papurau enwebu.
Rydym wedi datblygu templed o hysbysiad etholiad y gallwch ei ddefnyddio ar gyfer etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.