Guidance for the GLRO administering the GLA elections

| Argraffu'r canllawiau llawn

Hysbysiadau gorsafoedd pleidleisio

Lle nad yw'r bleidlais mewn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi'i chyfuno, rhaid i chi baratoi hysbysiadau a'u rhoi i bob Swyddog Canlyniadau Lleol eu harddangos mewn bythau pleidleisio, a'r tu allan a'r tu mewn i orsafoedd pleidleisio.  

Rhaid i'r hysbysiad ‘Sut i bleidleisio yn yr etholiad hwn’ gael ei arddangos y tu allan a'r tu mewn i bob gorsaf bleidleisio.1 Mae'n rhaid arddangos yr hysbysiad â'r geiriau ‘Pleidleisiwch ar gyfer UN YMGEISYDD YN UNIG drwy roi croes [X] yn y blwch wrth ymyl eich dewis’ ym mhob bwth pleidleisio.

Gallwch hefyd ddarparu fersiynau o'r hysbysiadau hyn mewn ieithoedd neu fformatau amgen fel y bo'n briodol yn eich barn chi ac, os bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn cytuno, gellir arddangos y rhain hefyd y tu mewn a'r tu allan i'r orsaf bleidleisio. Dylech gysylltu â Swyddogion Canlyniadau llywodraeth leol a Swyddogion Canlyniadau Lleol er mwyn nodi beth yw'r gofynion o ran ieithoedd neu fformatau amgen yn eich ardal heddlu.2

Dylech gysylltu â Swyddogion Canlyniadau llywodraeth leol a Swyddogion Canlyniadau Lleol (fel y bo'n briodol) yn eich ardal heddlu o ran pa wybodaeth am yr etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (fel y system bleidleisio a rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu) y dylai staff gorsafoedd pleidleisio ei rhoi i etholwyr. Dylai’r broses o ddarparu gwybodaeth mewn gorsafoedd pleidleisio, p'un a yw hynny'n rhagweithiol neu mewn ymateb i gwestiynau gan bleidleiswyr, fod yn gyson ar draws ardal yr heddlu. Felly, dylech ystyried pa un yw'r ffordd orau o sicrhau y caiff yr un wybodaeth ei rhoi i'r holl bleidleiswyr yn ardal yr heddlu, lle bynnag maent yn pleidleisio, a bod y Swyddogion Canlyniadau perthnasol a staff gorsafoedd pleidleisio yn cael canllawiau clir ynghylch pa wybodaeth y dylent neu na ddylent ei rhoi i bleidleiswyr.

Etholiadau cyfun

Pan gaiff etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ei chyfuno â'r bleidlais mewn etholiad llywodraeth leol yn Lloegr, y Swyddog Canlyniadau llywodraeth leol fydd yn gyfrifol am elfennau cyfunol y bleidlais, gan gynnwys darparu'r hysbysiadau i'w harddangos mewn bythau pleidleisio, a'r tu allan a'r tu mewn i orsafoedd pleidleisio. Rhaid i'r hysbysiadau ddilyn y geiriad rhagnodedig yn y rheolau perthnasol ar gyfer etholiad cyfunol a byddant yn cyfeirio at yr holl etholiadau a gynhelir.3
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Tachwedd 2023