Guidance for the GLRO administering the GLA elections

| Argraffu'r canllawiau llawn

Datgan y canlyniad

Rhaid i chi ddatgan enw'r ymgeisydd a gaiff ei ethol.1

Pan fydd ymgeisydd wedi defnyddio ei enw a ddefnyddir yn gyffredin, dylech ddefnyddio ei enw llawn a'i enw a ddefnyddir yn gyffredin wrth ddatgan y canlyniad.


Wrth gynllunio ar gyfer datgan y canlyniad, dylech wneud y canlynol::

  • penderfynu ar yr union fan yn y lleoliad lle y caiff y canlyniad ei ddatgan a phwy fydd ar y llwyfan ar yr adeg hon 
  • sicrhau y gall y rhai y mae angen iddynt gyrraedd y llwyfan wneud hynny'n hawdd 
  • ystyried a allwch ddefnyddio byrddau arddangos yn gefndir i gyhoeddi'r canlyniadau
  • gwirio unrhyw gyfarpar y byddwch yn ei ddefnyddio ar gyfer y cyhoeddiad cyn i'r gweithrediadau ddechrau
  • gwiriwch ddwywaith fod y canlyniad yn gywir, a'i fod wedi'i ysgrifennu ar ffurf geiriau ar gyfer rhoi'r canlyniad ar lafar er mwyn osgoi unrhyw wallau. Efallai y bydd angen i chi ailadrodd y datganiad fel y gall y rhai sy'n bresennol glywed y manylion yn glir, yn enwedig lle mae'r sawl sy'n bresennol yn swnllyd
  • Ystyried sut y byddwch yn rhoi copi ysgrifenedig o'r canlyniadau i gynrychiolwyr y cyfryngau sy'n bresennol ar yr adeg y gwneir y cyhoeddiad oherwydd bydd hyn yn eu helpu i sicrhau eu bod yn trosglwyddo'r ffigurau yn gywir

Unwaith y bydd y canlyniad wedi'i ddatgan, bydd yn derfynol ac ni ellir ei newid. Dylech felly sicrhau mai'r canlyniad cywir rydych yn ei ddatgan.

Fodd bynnag, os byddwch yn gwneud camgymeriad wrth gyhoeddi'r canlyniad ar lafar gallwch gywiro hyn, ar yr amod y'i gwneir ar unwaith.

Am ragor o wybodaeth am yr hysbysiadau ar ôl y canlyniad ac unrhyw weithdrefnau eraill ar ôl yr etholiad gweler ein canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu ar Ar ôl yr etholiad

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Mai 2025