Guidance for the GLRO administering the GLA elections
Rôl a chyfrifoldebau'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu
Fel Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu, chi sy'n gyfrifol am drefn cynnal etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu neu Gomisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu yn gyffredinol ar gyfer ardal yr heddlu lle y cawsoch eich penodi.
Yn ogystal â'ch dyletswyddau cyfreithiol, chi hefyd sy'n gyfrifol am roi arweiniad a chyd-drefnu gwaith Swyddogion Canlyniadau Lleol er mwyn sicrhau y caiff yr etholiad ei drefnu'n dda a bod pleidleiswyr a'r rhai sy'n sefyll etholiad yn cael gwasanaeth o safon gyson uchel drwy'r ardal heddlu gyfan.
Fel Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu, rydych yn gyfrifol yn bersonol am yr agweddau penodol canlynol ar etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:
- cyhoeddi hysbysiad etholiad1
- y gweithdrefnau enwebu2
- annog cyfranogiad3
- sicrhau y cydymffurfir â'r gofynion ynglŷn â chynnwys anerchiadau etholiadol ymgeiswyr a'r gweithdrefnau ar gyfer cyflwyno'r anerchiadau hynny4
- coladu cyfansymiau lleol a chyfrifo'r canlyniad5
- datgan y canlyniad6
Rhoi cyfarwyddiadau
Efallai y byddwch hefyd yn gyfrifol am ddyletswyddau canlynol Swyddog Canlyniadau Lleol drwy roi cyfarwyddyd i'r Swyddog(ion) Canlyniadau Lleol perthnasol:
- argraffu papurau pleidleisio ar gyfer etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
- dilysu (er lle mae etholiadau wedi'u cyfuno, y Swyddog Canlyniadau dros yr etholiad arall fydd yn gyfrifol am ddilysu)
- cyfrif pleidleisiau etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu7
Dylai unrhyw benderfyniad i roi cyfarwyddyd o'r fath gael ei wneud gennych ar gam cynnar yn y broses, ar ôl ymgynghori â'r Swyddogion Canlyniadau Lleol perthnasol, er mwyn sicrhau eglurder i bawb dan sylw a'i gwneud yn bosibl i gynllunio ar gyfer y gweithgareddau hyn a bwrw ymlaen â hwy fel y bo'n briodol. Dylech roi cynllun cyfathrebu ar waith ar gyfer cyfleu unrhyw gyfarwyddiadau a chanllawiau.
Fel rhan o'ch ystyriaethau dylech ystyried nifer yr ardaloedd pleidleisio yn eich ardal heddlu a faint o weithgareddau y bydd angen i chi ymgymryd â hwy. Os penderfynwch ymgymryd ag unrhyw un o ddyletswyddau'r Swyddog Canlyniadau Lleol, bydd angen i chi sicrhau bod gennych ddigon o adnoddau i'w cyflawni'n effeithiol.
Mae'n rhaid i chi wneud beth bynnag sy'n angenrheidiol i gynnal etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn eich ardal heddlu. Gallwch roi cyfarwyddiadau cyffredinol neu benodol i Swyddogion Canlyniadau Lleol dros unrhyw ardal bleidleisio sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn ardal yr heddlu ynglŷn â chyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas ag etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, gan gynnwys cyfarwyddiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i Swyddogion Canlyniadau Lleol gymryd camau penodol wrth baratoi ar gyfer etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a chyfarwyddiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddarparu gwybodaeth y maent wedi'i chael neu y mae ganddynt hawl i'w chael i chi. Mae'n ofynnol i Swyddogion Canlyniadau Lleol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd gennych iddynt. Gallwch roi cyfarwyddiadau sy'n gymwys i bob Swyddog Canlyniadau Lleol, neu dim ond i un neu i rai.8
Etholiadau cyfun
Lle y caiff y bleidlais yn yr etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ei chyfuno â'r bleidlais mewn etholiad arall, ni fydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn gyfrifol am y swyddogaethau cyfun, a fydd yn cyfyngu ar eich pŵer i roi cyfarwyddiadau9 . Dim ond mewn perthynas â'r agweddau hynny ar etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu y maent hwy, fel Swyddogion Canlyniadau Lleol, yn gyfrifol amdanynt y gallwch arfer eich pŵer i gyfarwyddo Swyddogion Canlyniadau Lleol (fel y'i rhestrir yn y pwyntiau bwled uchod). Nid yw'ch pŵer i gyfarwyddo yn gymwys i'r swyddogaethau cyfun hyn y mae Swyddogion Canlyniadau eraill yn ymgymryd â hwy
Fodd bynnag, mae un eithriad a hynny mewn perthynas â dilysu cyfrifon papurau pleidleisio. Fel Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu gallwch gyfarwyddo erbyn pryd y mae'n rhaid i weithdrefnau dilysu ddechrau ac mae'n rhaid i ba Swyddog Canlyniadau bynnag sy'n gyfrifol am gyflawni'r swyddogaeth hon gydymffurfio â'ch cyfarwyddyd.10
Ceir rhagor o ganllawiau ar roi cyfarwyddiadau yn ein hadran ar gynllunio i Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu.
- 1. Paragraff 4, Atodlen 3 i Orchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012. ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Paragraffau 5 - 16, Atodlen 3 i Orchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 7, Rheoliadau Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (Swyddogaethau Swyddogion Canlyniadau) 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 52(2) ac Atodlen 8, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Paragraff 57-61, Atodlen 3 i Orchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Paragraff 62, Atodlen 3 i Orchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Rheoliad 3(4) Rheoliadau Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (Swyddogaethau Swyddogion Canlyniadau) 2012 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Rheoliad 4(1) o Reoliadau Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (Swyddogaethau Swyddogion Canlyniadau) 2012 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Pan fydd y bleidlais mewn etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cael ei chyfuno â'r bleidlais mewn unrhyw etholiad arall, y Swyddog Canlyniadau dros un o'r etholiadau eraill fydd yn cyflawni'r swyddogaethau hyn. Yn achos cyfuno â refferendwm cynllunio cymdogaeth a'r dreth gyngor yn unig, bydd angen i'r Swyddog Canlyniadau Lleol a'r Swyddog Cyfrif gytuno ynglŷn â phwy fydd yn ymgymryd â'r swyddogaethau cyfun ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Rheoliad 4(2) o Reoliadau Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (Swyddogaethau Swyddogion Canlyniadau) 2012 ↩ Back to content at footnote 10