Guidance for the GLRO administering the GLA elections

| Argraffu'r canllawiau llawn

Rolau a chyfrifoldebau Swyddogion Canlyniadau eraill yn yr etholiadau

Wrth gynnal etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu mae'n bosibl y caiff ei gyfuno ag etholiadau eraill sy'n cael eu cynnal mewn rhannau o Gymru a Lloegr. O ganlyniad, mae'n bosibl y byddai nifer o Swyddogion Canlyniadau â chyfrifoldeb am gyflawni elfennau penodol o'r etholiadau.

Mae'n bosibl bod etholiadau llywodraeth leol (gan gynnwys etholiadau cyngor sir, plwyf a lleol ac etholiadau maerol awdurdod cyfun), a refferenda ar y dreth gyngor a refferenda cynllunio cymdogaeth o bosibl, yn cael eu cynnal mewn rhannau o'r wlad ac, fel y cyfryw, efallai y bydd rhai ardaloedd pleidleisio neu bob ardal bleidleisio o fewn ardal yr heddlu lle y caiff y bleidlais yn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ei chyfuno â'r bleidlais mewn etholiad arall neu etholiadau eraill.

Swyddog Canlyniadau Llywodraeth Leol  

Y Swyddog Canlyniadau llywodraeth leol sy'n trefnu etholiadau llywodraeth leol, sydd fel arfer yn uwch swyddog yn yr awdurdod lleol ac yn annibynnol ar yr awdurdod o ran ei swyddogaethau etholiadol.1

Pan fydd etholiadau yn cael eu cyfuno, yn ogystal â bod yn gyfrifol am bob agwedd ar weinyddu etholiadau llywodraeth leol, bydd y Swyddog Canlyniadau llywodraeth leol hefyd yn gyfrifol am yr elfennau cyfun o'r etholiad, gan gynnwys:2

  • darparu gorsafoedd pleidleisio
  • penodi a hyfforddi Swyddogion Llywyddu a Chlercod Pleidleisio
  • cynnal y bleidlais
  • hysbysiad lleoliad gorsafoedd pleidleisio
  • cyfarpar gorsafoedd pleidleisio
  • hysbysiad gofynion cyfrinachedd gorsafoedd pleidleisio
  • llofnodi tystysgrifau cyflogaeth ar gyfer staff gorsafoedd pleidleisio sy'n caniatáu iddynt bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio y maent yn gweithio ynddi, yn hytrach na'r un a ddyrannwyd ar eu cyfer
  • awdurdodi drwy orchymyn bod personau yn cael eu symud o orsafoedd pleidleisio
  • dilysu pob papur pleidleisio  
  • lle y penderfynwyd cyfuno'r broses o anfon pleidleisiau post:                              
    • y rhestr rhifau gyfatebol
    • anfon pleidleisiau post gan gynnwys creu copi o'r rhestr o bleidleiswyr post a'r rhestr o bleidleisiwyr post drwy ddirprwy a'i nodi pan y'i hanfonir      
    • agor pleidleisiau post gan gynnwys nodi'r datganiadau pleidleisiau post a ddychwelwyd ar y rhestrau a chadarnhau'r dynodyddion personol ar y datganiadau pleidleisiau post a ddychwelwyd

Mewn refferendwm maerol, refferendwm cynllunio cymdogaeth neu refferendwm ar y Dreth Gyngor, y Swyddog Cyfrif sy'n gweithredu fel Swyddog Canlyniadau etholiadau prif ardal, sy'n gyfrifol am y refferendwm.3

Os mai dim ond refferendwm ac etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu sy'n cael eu cyfuno, dylech gydgysylltu â'r Swyddog Canlyniadau Lleol a'r Swyddog Cyfrif perthnasol yn gynnar yn ystod y broses gynllunio er mwyn trafod cyfrifoldeb am y swyddogaethau cyfun. 

Swyddogion Canlyniadau Sir 

Mewn ardaloedd lle mae etholiadau cyngor sir yn cael eu cynnal, mae'r Swyddog Canlyniadau Sir yn swyddog i'r cyngor sir4 ac yn gyfrifol am bob agwedd ar weinyddu'r etholiad yn ei ardal. Fodd bynnag, yn ymarferol, mae Swyddogion Canlyniadau Sir yn dynodi dirprwy ym mhob cyngor dosbarth yn ardal y sir i gyflawni ei swyddogaethau. Y dirprwy Swyddog Canlyniadau a benodir fel arfer fydd y Swyddog Canlyniadau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol ar gyfer y dosbarth penodol hwnnw.    

Pan fydd etholiadau yn cael eu cyfuno, y Swyddog Canlyniadau Llywodraeth Leol fydd yn gyfrifol am yr elfennau cyfun o'r etholiad a ddisgrifir yn y rhestr o bwyntiau bwled uchod. 

Nid oes gan y Swyddog Canlyniadau Sir unrhyw bŵer i gyfarwyddo, ac er mwyn cynnal yr etholiad yn effeithiol yn y sir bydd angen meithrin cydberthnasau gwaith cadarnhaol rhwng y Swyddog Canlyniadau Sir a'r Swyddogion Canlyniadau Dosbarth. 
 

Swyddogion Canlyniadau Lleol

Y Swyddog Canlyniadau Lleol dros etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yw'r unigolyn sy'n gweithredu fel y Swyddog Canlyniadau dros etholiadau lleol yn yr ardal honno.5 Mae'n gyfrifol am drefnu etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn lleol. 

Os na chaiff etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ei gyfuno ag unrhyw etholiad arall, y Swyddog Canlyniadau Lleol fydd yn gyfrifol yn bersonol am drefn cynnal yr etholiad, anfon a derbyn papurau pleidleisio post a dilysu a chyfrif y pleidleisiau yn eu hardal bleidleisio (oni fydd Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu wedi rhoi gwybod y bydd yn gyfrifol am ddilysu a chyfrif pleidleisiau etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn yr ardal bleidleisio).

Lle y caiff etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ei gyfuno ag etholiad arall, y Swyddog Canlyniadau Lleol fydd yr un unigolyn â Swyddog Canlyniadau llywodraeth leol a bydd yn gyfrifol yn bersonol am y canlynol yn eu hardal bleidleisio:6

  • cyfrif pleidleisiau etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer eich ardal bleidleisio (oni fydd Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu wedi rhoi gwybod y bydd yn gyfrifol am hyn)
  • trosglwyddo canlyniad yr ardal bleidleisio i Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu
    argraffu'r papurau pleidleisio ar gyfer etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (oni fydd y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu wedi rhoi gwybod y bydd yn gyfrifol am hyn)
  • rheoli proses y pleidleisiau post yn ystod etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (ond dim ond os penderfynwyd peidio â chyfuno'r broses o anfon pleidleisiau post etholiadau lleol ac etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu)

Rhaid i Swyddogion Canlyniadau hefyd ystyried hygyrchedd i bleidleiswyr mewn gorsafoedd pleidleisio. Mae ein canllawiau ar gymorth i bleidleisio ar gyfer pobl anabl yn rhoi rhagor o wybodaeth.

Swyddog Cofrestru Etholiadol

Y Swyddog Cofrestru Etholiadol sy'n gyfrifol am gynnal y gofrestr etholwyr a rhestrau pleidleiswyr absennol ar gyfer ei ardal awdurdod lleol. Yng Nghymru a Lloegr, mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol fel arfer yn uwch swyddog yn yr awdurdod lleol a gall hefyd gyflawni rôl y Swyddog Canlyniadau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Tachwedd 2023