Guidance for the GLRO administering the GLA elections

| Argraffu'r canllawiau llawn

Torri dyletswydd swyddogol a'r pŵer i gywiro gwallau gweithdrefnol

Rydych hefyd yn ddarostyngedig i ddarpariaethau tordyletswydd swyddogol. Mae hyn yn golygu os byddwch chi neu'ch dirprwyon penodedig yn euog o unrhyw weithred neu anweithred sy'n torri dyletswydd swyddogol, heb achos rhesymol, rydych chi (a/neu hwy) yn agored i dalu dirwy anghyfyngedig os cewch eich euogfarnu'n ddiannod.1

Mae gennych y pŵer i gymryd y cyfryw gamau ag sy'n briodol yn eich barn chi i unioni gweithredoedd neu anweithredoedd sy'n codi mewn cysylltiad ag unrhyw un o swyddogaethau'r etholiadau ac nad ydynt yn unol â'r rheolau.2

Mae'r pŵer hwn yn caniatáu i chi gywiro gwallau gweithdrefnol rydych chi, fel Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu, neu Swyddog Canlyniadau Lleol, Swyddog Cofrestru Etholiadol, Swyddog Llywyddu neu berson sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau i chi (neu ddirprwyon unrhyw un o'r rhain) yn eu gwneud. Mae gan Swyddogion Canlyniadau Lleol yr un pŵer i gywiro gwallau gweithdrefnol a dylech sicrhau eu bod yn ymgynghori â chi cyn arfer y pŵer hwn.

Lle rydych chi neu Swyddog Canlyniadau Lleol yn defnyddio'r pŵer hwn i gywiro gwallau gweithdrefnol ar gyfer etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, dylech sicrhau bod y gwall a'r cam unioni a gymerwyd yn cael eu hesbonio i'r rhai yr effeithir arnynt, gan gynnwys pleidleiswyr ac ymgeiswyr ac asiantau, lle y bo'n gymwys. Dylech sicrhau eich bod cadw cofnod o'r canlynol: 

  • unrhyw wallau a nodwyd gan gynnwys beth oedd y gwall a sut y digwyddodd
  • effaith y gwall
  • unrhyw gyngor a gawsoch chi neu'r Swyddog Canlyniadau Lleol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol)
  • pa gamau a gymerwyd i gywiro'r gwall, a sut y rhoddwyd gwybod am y rhain

Lle rydych yn unioni gweithred neu anweithred yn llawn drwy ddefnyddio'r pŵer hwn, ni fyddwch yn euog o drosedd o dorri dyletswydd swyddogol.3 Dylech gofio nad yw'r pŵer i gywiro gwallau gweithdrefnol yn ei gwneud yn bosibl i'r pleidleisiau gael eu hailgyfrif ar ôl i'r canlyniad gael ei ddatgan.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Tachwedd 2025