Sgiliau a gwybodaeth y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu
Yn ogystal â'ch dyletswyddau cyfreithiol, rydych hefyd yn gyfrifol am roi arweiniad a chyd-drefnu gwaith Swyddogion Canlyniadau Lleol er mwyn sicrhau y caiff yr etholiad ei drefnu'n dda a bod pleidleiswyr a'r rhai sy'n sefyll etholiad yn cael gwasanaeth o safon gyson uchel drwy'r ardal heddlu gyfan.
Dylech sicrhau eich bod yn deall eich swyddogaethau statudol yn glir a'ch bod yn gyfarwydd yn ymarferol â'r ddeddfwriaeth berthnasol.
Wrth ymgymryd â'r cyfrifoldebau rheoli sy'n gysylltiedig â'ch rôl, dylech wneud y canlynol:
rhoi arweinyddiaeth i Swyddogion Canlyniadau Lleol yn eich ardal heddlu, a ddylai gael ei hategu gan gyngor, canllawiau a hyfforddiant yn ôl yr angen, a chyfleu'n glir sut y byddwn yn monitro hyn er mwyn sicrhau y gellir trefnu'r etholiad yn dda a bod pleidleiswyr yn cael gwasanaeth o safon uchel lle bynnag maent yn pleidleisio.
cydgysylltu a gweinyddu'r gwaith o gynllunio'r etholiad ar lefel ardal yr heddlu, yn unol â'r ddeddfwriaeth a chanllawiau a safonau perfformiad y Comisiwn Etholiadol
cymryd yr holl gamau sydd eu hangen er mwyn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn darparu'r adnoddau sydd eu hangen arnoch er mwyn cyflawni'ch rôl, fel y mae'n rhaid iddo ei wneud o dan y gyfraith.
gorchwylio'r gwaith cynllunio, rheoli prosiect a rheoli risg ar gyfer yr etholiad ar lefel ardal heddlu
rhoi canllawiau a chymorth i Swyddogion Canlyniadau Lleol wrth baratoi a chynnal cynllun prosiect a dull rheoli risg priodol ar gyfer yr etholiad
ystyried sut rydych yn penodi dirprwyon, gan gynnwys y nifer a benodir ac at ba ddibenion rydych yn eu penodi
sicrhau bod gan Swyddogion Canlyniadau Lleol y cynlluniau a'r trefniadau angenrheidiol ar waith i gynnal yr etholiad yn eu hardal bleidleisio.
rhoi protocol cyfrif ar waith ynglŷn â sut y bydd gwybodaeth am y broses dilysu a'r cyfrif yn cael ei throsglwyddo rhyngoch chi a'r Swyddogion Canlyniadau Lleol.
rhoi arweiniad a chymorth i'ch staff, monitro cynnydd a chael adborth rheolaidd ar weithgareddau
helpu Swyddogion Canlyniadau Lleol i weinyddu'r etholiad a goruchwylio eu gwaith mewn modd priodol, gan gynnwys unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gennych o bosibl
monitro perfformiad Swyddogion Canlyniadau Lleol a nodi a goruchwylio unrhyw gamau sydd eu hangen i liniaru unrhyw faterion sy'n codi
sicrhau bod eich staff, a Swyddogion Canlyniadau Lleol a'u staff hwythau, yn cael hyfforddiant priodol i gyflawni'r rolau y mae angen iddynt eu cyflawni
sicrhau bod cyfrifon etholiadau yn cael eu cwblhau'n amserol
cynnal cydberthynas waith effeithiol â'ch Pwynt Cyswllt Unigol yn yr heddlu