Guidance for Returning Officers administering a Greater London Authority (GLA) election
Dychwelyd a derbyn pleidleisiau post
Er mwyn i becyn pleidleisio drwy'r post fod wedi'i ddychwelyd yn briodol, rhaid eich bod wedi'i dderbyn erbyn diwedd y cyfnod pleidleisio naill ai drwy'r post neu'n bersonol yn un o adeiladau'r cyngor yn yr etholaeth.
Dylech gadarnhau'r trefniadau ar gyfer dychwelyd pleidleisiau post ac unrhyw wiriadau terfynol i'w cynnal ar y diwrnod pleidleisio â'r Post Brenhinol.
Os bydd unigolyn yn mynd â'i bleidlais bost i orsaf bleidleisio a'i fod mewn ciw yn yr orsaf bleidleisio am 10pm ar y diwrnod pleidleisio, rhaid caniatáu iddo ddychwelyd pecyn pleidleisio drwy'r post o hyd.
Storio papurau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd yn ddiogel
Dylid storio papurau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd yn ddiogel bob amser. Mae hyn yn cynnwys pan gânt eu cludo i unrhyw sesiwn agor amlenni pleidleisiau post ac i'r lleoliadau dilysu a chyfrif. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar sicrhau diogelwch papurau pleidleisio .
Rhaid i unrhyw bleidleisiau post a gaiff eu dychwelyd atoch, naill ai yn eich swyddfa neu yn yr orsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio, gael eu cadw mewn blychau priodol. Mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i roi'r mesurau priodol ar waith ar gyfer cadw'r blychau hyn yn ddiogel.
Dylai'r dulliau storio a chludo y byddwch yn eu dewis eich bodloni bod y papurau pleidleisio a ddychwelwyd yn cael eu cadw'n ddiogel ac na ellir ymyrryd â hwy.
Pecynnau a blychau pleidleisio drwy'r post ar gyfer pleidleisiau post a ddychwelwyd
Rhaid bod gennych ddau fath o flychau pleidleisio ar gyfer storio pleidleisiau post a ddychwelwyd yn ddiogel:
- y blwch/blychau i bleidleiswyr post
- y blwch/blychau pleidleisio drwy'r post1
Ym mhob sesiwn agor, rhaid i chi hefyd ddarparu blychau ar gyfer y canlynol:
- pleidleisiau a wrthodwyd
- datganiadau pleidleisio drwy'r post
- amlenni papurau pleidleisio
- amlenni papurau pleidleisio a wrthodwyd
Hefyd, mae'n ofynnol i chi gael copi o'r rhestr pleidleiswyr post a'r rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post fel y gellir marcio cofnodion pan gaiff datganiadau pleidleisio drwy'r post eu dychwelyd.
Y blwch pleidleisio i bleidleiswyr post
Defnyddir y blwch pleidleisio i bleidleiswyr post i storio pleidleisiau post a ddychwelwyd wrth iddynt aros i gael eu hagor.
Dylai unrhyw bapurau pleidleisio drwy'r post, datganiadau pleidleisio drwy'r post neu amlenni papurau pleidleisio na chânt eu derbyn fel pecyn cyflawn hefyd gael eu rhoi yn y blwch pleidleisio i bleidleiswyr post.
Rhaid rhoi'r geiriau ‘blwch pleidleisio i bleidleiswyr post’ ac enw'r etholaeth ar bob blwch pleidleisio i bleidleiswyr post.2
Rhaid i chi gymryd rhagofalon i sicrhau bod y blwch pleidleisio i bleidleiswyr post yn cael ei gadw'n ddiogel3
. Dylech selio'r blwch pleidleisio i bleidleiswyr post a'i storio mewn man diogel, er enghraifft mewn cwpwrdd neu ystafell dan glo, nes yr achlysur agor amlenni pleidleisiau post nesaf sydd wedi'i drefnu. Bydd y rhagofalon hyn yn sicrhau bod cynnwys y blwch pleidleisio i bleidleiswyr post yn ddiogel bob amser.
Blychau pleidleisio drwy'r post
Defnyddir blychau pleidleisio drwy'r post i storio'r papurau pleidleisio drwy'r post sydd wedi mynd drwy'r broses agor ac a gaiff eu cyfrif.
Rhaid rhoi'r geiriau ‘blwch pleidleisio drwy'r post’ ac enw'r etholaeth ar bob blwch pleidleisio drwy'r post2
.
Rhaid storio pob blwch pleidleisio drwy'r post yn ddiogel nes y cynhelir y broses gyfrif. Mae gan unrhyw asiantiaid sy'n bresennol mewn achlysur agor amlenni pleidleisiau post yr hawl i ychwanegu eu seliau at flychau pleidleisio drwy'r post os byddant yn dymuno gwneud hynny.4
Dylech bwysleisio i staff gorsafoedd pleidleisio, gan gynnwys arolygwyr gorsafoedd pleidleisio, pa mor bwysig yw sicrhau bod pleidleisiau post a gyflwynir mewn gorsafoedd pleidleisio ar y diwrnod pleidleisio yn ddiogel bob amser.
Er mwyn helpu i leihau'r tebygolrwydd o gael symiau mawr o bleidleisiau post yn y cyfrif a helpu i leihau'r risg o oedi amser dechrau'r broses gyfrif, dylech drefnu i gasglu pleidleisiau post o orsafoedd pleidleisio ar adegau amrywiol drwy gydol y diwrnod pleidleisio.
Dylech sicrhau bod gan staff gorsafoedd pleidleisio ddigon o becynnau ar gyfer pleidleisiau post a gaiff eu dychwelyd i'r orsaf bleidleisio. Dylai'r pecynnau hyn nodi'n glir eu bod yn cynnwys pleidleisiau post a dylent gynnwys enw'r orsaf bleidleisio a dynodydd yr orsaf bleidleisio.
Rhoddir rhagor o ganllawiau ar ddelio â phleidleisiau post a ddychwelir i orsafoedd pleidleisio yn llawlyfr gorsafoedd pleidleisio y Comisiwn.
- 1. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 rheoliad 81, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 rheoliad 81 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 rheoliad 81(2), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 rheoliad 81(2)↩ Back to content at footnote 2 a b
- 3. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 rheoliad 81(6), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 rheoliad 81(6) ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 rheoliad 81(4) ↩ Back to content at footnote 4