Guidance for Returning Officers administering a Greater London Authority (GLA) election

| Argraffu'r canllawiau llawn

Y broses ar gyfer agor amlenni pleidleisiau post

Darperir ar gyfer y prosesau ar gyfer agor pecynnau pleidleisio drwy'r post mewn deddfwriaeth:

Cam 1: agor y blwch pleidleisio i bleidleiswyr post1

  • cyfrif a chofnodi nifer y pecynnau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd (h.y., nifer yr amlenni ‘B’ yn y blwch pleidleisio i bleidleiswyr post) 
  • agor prif amlen ‘B’ a thynnu'r datganiad pleidleisio drwy'r post a'r amlen papur pleidleisio allan 
  • cadarnhau bod y rhif ar y datganiad pleidleisio drwy'r post yn cyfateb i'r rhif ar yr amlen papur pleidleisio (amlen ‘A’) 
  • rhoi marc yn y rhestr pleidleiswyr post, neu'r rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post fel y bo'n briodol i ddangos bod datganiad pleidleisio drwy'r post wedi'i ddychwelyd   

Cam 2: gwirio'r dynodyddion personol2

  • sicrhau bod yr etholwr wedi llofnodi'r datganiad ac wedi rhoi dyddiad geni
  • cadarnhau bod y llofnod a'r dyddiad geni ar y datganiad pleidleisio drwy'r post yn cyfateb i'r hyn a geir ar y cofnod dynodyddion personol
  • os gwrthodwch ddatganiad pleidleisio drwy'r post, rhaid i chi nodi ‘gwrthodwyd’ ar y datganiad, ei atodi i amlen y papur pleidleisio (os nad oes amlen o'r fath rhaid i chi ei atodi i'r papur pleidleisio) a'i roi yn y blwch ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd. Cyn ei roi yn y blwch, rhaid i chi ei ddangos i'r asiantiaid ac, os bydd unrhyw un yn gwrthwynebu eich penderfyniad, rhaid ychwanegu'r geiriau “gwrthwynebwyd y penderfyniad i wrthod”. Dylech hefyd gofnodi'r rheswm dros ei wrthod

Cam 3: agor amlenni papurau pleidleisio drwy’r post3  

  • agor yr amlen papur pleidleisio (amlen 'A') a thynnu'r papur pleidleisio, gan sicrhau bod y papur pleidleisio yn cael ei gadw wyneb i lawr drwy'r amser
  • cadarnhau bod y rhif ar amlen y papur pleidleisio (amlen ‘A’) yn cyfateb i'r rhif ar gefn y papur pleidleisio
  • rhoi'r papur(au) pleidleisio yn y blwch neu'r blychau pleidleisio drwy'r post)

Cam 4: selio'r blychau pleidleisio drwy'r post4

  • cyfrif a chofnodi nifer y papurau pleidleisio drwy'r post i'w selio ym mhob blwch pleidleisio drwy'r post
  • selio a storio'r blwch neu'r blychau pleidleisio drwy'r post yn ddiogel

Ceir crynodeb o'r broses yn y siart llif agor pleidleisiau post a ganlyn:

Dylech drefnu papurau pleidleisio mewn sypiau mewn ffordd sy'n sicrhau y gallwch gasglu a chanslo unrhyw bapur pleidleisio penodol (er enghraifft, os bu'n rhaid ailanfon yn dilyn gwall gweithdrefnol). 

Am y rheswm hwn, a hefyd oherwydd yr angen i ddilysu cynnwys pob blwch pleidleisio drwy'r post ar y cam dilysu, dylech ystyried sawl papur pleidleisio rydych am ei gadw ym mhob blwch.

Paru datganiadau pleidleisio drwy'r post â phapurau pleidleisio drwy'r post

Rhaid i chi gadw dwy restr o bapurau pleidleisio drwy'r post a wrthodwyd dros dro:5

  • un i gofnodi rhif papur pleidleisio unrhyw bapur pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd heb ddatganiad pleidleisio drwy'r post
  • un i gofnodi rhif papur pleidleisio unrhyw ddatganiad pleidleisio drwy'r post na chafodd ei ddychwelyd gyda'r papur pleidleisio  

Mae templed canlynol o daenlen ar gael i chi ei ddefnyddio at y diben hwn.  

Dylech wirio'r rhestrau hyn yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod modd paru unrhyw ddogfennau nad ydynt yn cyfateb, gan olygu bod modd ailgyflwyno'r pleidleisiau post hynny i'r broses.

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Chwefror 2024