unrhyw etholwr sy'n ymddangos ar y rhestr pleidleiswyr post ar gyfer yr etholiad
unrhyw ddirprwy sy'n ymddangos ar y rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post ar gyfer yr etholiad
Pryd y caiff pleidleisiau post eu hanfon
Rhaid anfon pleidleisiau post cyn gynted ag y bo'n ymarferol.1
Yn ymarferol, mae hyn yn golygu, unwaith y bydd y dyddiad cau ar gyfer tynnu enwau ymgeiswyr yn ôl wedi mynd heibio, dylid anfon papurau pleidleisio drwy'r post at etholwyr presennol sydd wedi gwneud cais am bleidlais bost.
Dylech roi trefniadau ar waith er mwyn sicrhau bod etholwyr yn cael eu papurau pleidleisio drwy'r post cyn gynted â phosibl a blaenoriaethu unrhyw bleidleisiau post y gall fod angen eu hanfon dramor er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr post yn cael cymaint o amser â phosibl i dderbyn, cwblhau a dychwelyd eu pleidlais bost.
Rhaid i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol gyhoeddi dau hysbysiad newid etholiad interim cyn cyhoeddi'r hysbysiad newid etholiad terfynol ar y pumed diwrnod gwaith cyn yr etholiad. Os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, dylech gysylltu ag ef er mwyn cael gwybodaeth am unrhyw etholwyr newydd sydd wedi gwneud cais i bleidleisio drwy'r post cyn gynted â phosibl fel y gallwch drefnu i'r pleidleisiau post ychwanegol angenrheidiol gael eu hanfon ar frys.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hysbysiadau newid interim yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban .
Etholaethau trawsffiniol
Os ydych, fel Swyddog Canlyniadau (Dros Dro), yn gyfrifol am etholaeth sy'n croesi ffiniau awdurdodau lleol, dylech gysylltu â'r Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol yn yr awdurdod lleol arall/awdurdodau lleol eraill cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau eich bod yn cael y data perthnasol ar unrhyw etholwyr newydd sydd wedi gwneud cais i bleidleisio drwy'r post.
Cynllunio ar gyfer anfon pleidleisiau post
I gael rhagor o wybodaeth am amseriadau, gweler ein canllawiau ar yr amserlen pleidleisio absennol
1. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 rheoliad 71, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 rheoliad 71↩ Back to content at footnote 1