Guidance for Returning Officers administering a Greater London Authority (GLA) election

| Argraffu'r canllawiau llawn

Y broses anfon

Nodir y prosesau i'w dilyn wrth anfon pecynnau pleidleisio drwy'r post mewn deddfwriaeth1 .

Y rhestr rhifau cyfatebol 

Mae'n rhaid i chi lunio rhestr rhifau cyfatebol i'w defnyddio mewn sesiynau anfon pleidleisiau post. Pennir y rhestr rhifau cyfatebol a rhaid iddi gynnwys rhif y papur pleidleisio a marc adnabod unigryw pob papur pleidleisio a anfonir at yr etholwr hwnnw2

Rhaid i rif y papur(au) pleidleisio drwy'r post gael ei gynnwys ar y datganiad pleidleisio drwy'r post a anfonir gyda'r papur(au) pleidleisio.3  

Y cyfeiriad y dylid anfon y pecyn pleidleisio drwy'r post iddo yw'r cyfeiriad a nodir yn y rhestr pleidleiswyr post berthnasol. Yn achos dirprwy sy'n pleidleisio drwy'r post, dyma'r cyfeiriad a nodir yn y rhestr dirprwyon sy’n pleidleisio drwy’r post. Yn achos etholwr dienw, gellir dod o hyd i'r cyfeiriad yn y cofnodion o geisiadau a ganiatawyd. 

Er mwyn dangos bod gan etholwr yr hawl i bleidleisio drwy'r post ac na ddylai gael papur pleidleisio arferol mewn gorsaf bleidleisio, rhaid nodi ‘A’ ar gofrestr yr orsaf bleidleisio gan ddefnyddio'r wybodaeth a geir yn y rhestr pleidleiswyr post a'r rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post. 

Rhaid rhoi marc yn y rhestr pleidleiswyr post (neu'r rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post efallai) i nodi bod pecyn pleidleisio drwy'r post wedi'i anfon.

Rhaid selio'r rhestr rhifau cyfatebol sy'n ymwneud â'r papurau pleidleisio a anfonwyd mewn pecyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl anfon pecynnau pleidleisio drwy'r post, a dim ond drwy orchymyn llys y gellir ei agor ac archwilio hwn.4   

Mae rhestrau newydd a phecynnau cysylltiedig yn ofynnol ar gyfer pob swp a anfonir. Gallai'r rhestr gael ei hargraffu ar un ochr a'i thorri yn y man lle y cafodd y papur pleidleisio olaf ei anfon ar gyfer unrhyw swp penodol o becynnau pleidleisio drwy'r post. Gellir wedyn ddefnyddio'r rhestr rhifau cyfatebol sy'n weddill mewn unrhyw sesiynau anfon eraill ac ar gyfer y broses o anfon papurau pleidleisio drwy'r post newydd.

Dylech gadw trywydd archwilio clir ar gyfer anfon pecynnau pleidleisio drwy'r post. Fel rhan o hyn, dylech sicrhau bod nifer y pleidleisiau post a anfonir yn cael ei gofnodi'n gywir ar ddiwedd pob sesiwn anfon ac wrth anfon pecynnau pleidleisio drwy'r post newydd. Bydd angen y rhifau hyn er mwyn cwblhau'r datganiad ar gyfer papurau pleidleisio drwy'r post.   

Mae'r tabl hwn yn crynhoi'r broses anfon:

Trefn Cam i'w gymryd
Cam 1 Darllen enw a chyfeiriad y pleidleisiwr post o'r rhestr pleidleiswyr post/dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post a chadarnhau bod y manylion hynny'n ymddangos ar yr amlen a anfonir at y pleidleisiwr. 
Cam 2 Darllen rhif y papur pleidleisio a restrir.

Cadarnhau bod y rhifau yr un peth as y canlynol:
  • cefn y papur pleidleisio perthnasol
  • y datganiad pleidleisio drwy'r post
  • amlen y papur pleidleisio
Cam 3 Rhoi elfennau gwahanol y pecyn pleidleisio drwy'r post yn yr amlen a anfonir gan gynnwys:
  • y papur(au) pleidleisio
  • amlen ‘A’
  • y datganiad pleidleisio drwy'r post
  • yr amlen ddychwelyd (amlen B)
  • unrhyw gyfarwyddiadau ychwanegol
Cam 4 Marcio'r rhestr pleidleiswyr post / pleidleiswyr sy'n pleidleisio drwy ddirprwy er mwyn dangos eich bod wedi cwblhau'r pecyn pleidleisio drwy'r post. 
Cam 5 Cau'r amlenni fel y gofynnir gan y goruchwyliwr. Ni ddylid eu selio oni bai y ceir cyfarwyddyd i wneud hynny. 

Pwy all fod yn bresennol yn y broses anfon pleidleisiau post?

Yn ogystal â chi a'ch staff, caiff cynrychiolwyr y Comisiwn ac arsylwyr achrededig fod yn bresennol pan anfonir pleidleisiau post.5   

Os ydych wedi gosod y broses o anfon pleidleisiau post ar gontract allanol, dylech sicrhau bod y bobl hyn yn gallu cael mynediad i safle'r cwmni sy'n gyfrifol am hyn. 
Rhaid rhoi copi o'r darpariaethau cyfrinachedd perthnasol i unrhyw un sy'n bresennol mewn sesiwn anfon pleidleisiau post, gan gynnwys eich staff:6  

Gofynion cyfrinachedd – pleidleisio drwy'r post

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Chwefror 2024