Guidance for Returning Officers administering a Greater London Authority (GLA) election

| Argraffu'r canllawiau llawn

Cyfarpar a deunyddiau i'w darparu i orsafoedd pleidleisio

Mae'n ofynnol i chi ddarparu cyfarpar a deunyddiau penodol i orsafoedd pleidleisio, a bydd angen i chi gynllunio hyn ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod popeth yn ei le ar gyfer pleidleisio yn y gorsafoedd pleidleisio. 

Crynodeb o'r eitemau i'w darparu i orsafoedd pleidleisio

Rhaid i chi ddarparu'r canlynol i orsafoedd pleidleisio:1  

  • blwch/blychau pleidleisio
  • papurau pleidleisio (gan gynnwys papurau pleidleisio a gyflwynwyd)
  • pennau ysgrifennu neu bensiliau i bleidleiswyr farcio eu
  • papurau pleidleisio 
  • sgriniau pleidleisio
  • y rhan berthnasol o'r gofrestr etholiadol 
  • rhestrau o bleidleiswyr absennol – pleidleiswyr drwy'r post, pleidleiswyr sy'n pleidleisio drwy ddirprwy a dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post 
  • ffurflenni i gofnodi manylion etholwyr sydd wedi cael papurau pleidleisio ar ôl i wall clercol gael ei gywiro (y gellir eu hatodi i gofrestr yr orsaf bleidleisio)
  • y rhestr rhifau cyfatebol 
  • cyfrifon papurau pleidleisio
  • fersiwn print bras o'r papur pleidleisio, i'w harddangos y tu mewn i'r orsaf bleidleisio
  • copi llaw enghreifftiol wedi'i chwyddo o'r papur pleidleisio i'w roi i etholwyr i fynd gyda nhw i fwth pleidleisio er gwybodaeth
  • dyfais bleidleisio at ddefnydd pobl ddall neu bobl rhannol ddall 
  • hysbysiadau canllawiau i bleidleiswyr (‘Sut i bleidleisio yn yr etholiadau hyn’) (i'w harddangos y tu mewn a'r tu allan i'r orsaf bleidleisio)
  • hysbysiadau cyfarwyddiadau i bleidleiswyr (i'w harddangos y tu mewn i'r bwth pleidleisio)
  • ffurflenni datganiad gan gymdeithion pleidleiswyr ag anableddau
  • rhestr o bleidleisiau a gyflwynwyd
  • rhestr o bleidleisiau a farciwyd gan y Swyddog Llywyddu
  • datganiad o nifer y pleidleisiau a farciwyd gan y Swyddog Llywyddu
  • rhestr o bleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gymdeithion
  • pecynnau, gyda seliau, i osod ynddynt yr eitemau a gaiff eu dychwelyd atoch, megis papurau pleidleisio drwy'r post a ddychwelir i'r orsaf bleidleisio, a deunydd pecynnu ar gyfer dogfennaeth yr etholiad ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio.

At hynny dylech ddarparu'r canlynol:

  • amlenni, gyda seliau, i osod ynddynt unrhyw bapurau pleidleisio a ddosbarthwyd ond nad yw'r etholwr wedi'u gosod yn y blwch pleidleisio
  • ffurflen neu restr i gofnodi etholwyr a farciwyd yn bleidleiswyr post ond sy'n honni nad ydynt wedi gwneud cais am bleidlais bost
  • papur nodiadau at ddefnydd staff yr orsaf bleidleisio
  • eitemau deunydd ysgrifennu fel sy'n ofynnol, e.e. clipiau papur, pinnau bawd, tac glynu, tâp selio
  • sachau plastig ar gyfer dychwelyd deunydd ysgrifennu ac offer i'r lleoliad dilysu
  • amlenni ar gyfer creu pecynnau

Yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i chi wneud y cyfryw drefniadau ag y gwelwch yn briodol i sicrhau bod staff, ymgeiswyr ac asiantiaid a benodir i fynychu'r orsaf yn cael y gofynion perthnasol ynglŷn â chyfrinachedd. 

Dylech gadarnhau bod cyfarpar pob gorsaf bleidleisio yn addas at y diben a bod gennych ddigon ohono, yn enwedig os bydd niferoedd mawr yn pleidleisio. Dylai hyn gynnwys ystyried a ddylech ddarparu blychau pleidleisio ychwanegol i Swyddogion Llywyddu gan na fydd un blwch yn ddigon efallai os bydd nifer mawr o bobl yn dewis pleidleisio. 

Dylech baratoi cyfarpar a deunyddiau eich gorsafoedd pleidleisio mewn da bryd cyn y diwrnod pleidleisio, naill ai i'w dosbarthu i orsafoedd pleidleisio neu i'w casglu gan Swyddogion Llywyddu. 

Dylech sicrhau y caiff unrhyw gyfarpar ychwanegol rydych wedi'i nodi er mwyn gwneud yr orsaf bleidleisio yn hygyrch ei ddosbarthu a'i osod mewn da bryd cyn i'r bleidlais agor.

Os oes dolen sain wedi'i gosod mewn gorsaf bleidleisio, dylid ei defnyddio lle bynnag y bo modd er mwyn gwneud y broses etholiadol yn hygyrch i bleidleiswyr sydd â cholled clyw. Dylid rhoi hyfforddiant i staff gorsafoedd pleidleisio ynglŷn â sut i ddefnyddio'r rhain yn y sesiwn friffio.   

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Mehefin 2024