| Argraffu'r canllawiau llawn

Cofrestrau gorsafoedd pleidleisio a rhestrau pleidleiswyr absennol

Rhaid i chi ddarparu'r rhan briodol o'r gofrestr etholiadol i bob Swyddog Llywyddu ar gyfer ei orsaf bleidleisio a'r rhestrau pleidleisio absennol priodol. 

Dylai staff gorsafoedd pleidleisio gael hyfforddiant ar y marcwyr etholfraint amrywiol a fydd yn ymddangos ar y gofrestr.1 Mae angen iddynt fod yn ymwybodol o bwysigrwydd diogelu manylion personol pleidleiswyr ar y gofrestr etholiadol a'r rhestrau o bleidleiswyr absennol.

Gellir argraffu cofrestrau gorsafoedd pleidleisio pan fydd yr hysbysiad newid etholiad terfynol wedi'i gyhoeddi, sef pum diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio. . 

Dylech sicrhau bod pob cofrestr gorsaf bleidleisio argraffedig:

  • wedi'i gwirio er mwyn sicrhau ei bod yn gyflawn
  • yn adlewyrchu unrhyw beth sydd wedi'i ychwanegu at y gofrestr neu ei ddileu ohoni yn ddiweddar
  • yn cynnwys yr argraffnodau etholfraint priodol

Dylech roi cyfarwyddyd i'ch Swyddogion Llywyddu gadarnhau'r canlynol:

  • eu bod wedi cael y gofrestr gywir ar gyfer eu gorsaf bleidleisio
  • bod y gofrestr yn cynnwys nifer disgwyliedig yr etholwyr a ddyrannwyd i'w gorsaf bleidleisio

Newidiadau i'r gofrestr 

Dylai fod gweithdrefnau ar waith gennych i ymdrin ag unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol a wneir cyn y diwrnod pleidleisio neu ar y diwrnod pleidleisio ei hun. Dylai'r gweithdrefnau hyn gwmpasu eich dull ar gyfer:

  • diwygio cofrestrau gorsafoedd pleidleisio a rhestrau o ddirprwyon ar ôl iddynt gael eu hargraffu, o ganlyniad i wallau clercol neu benderfyniadau i gymeradwyo ceisiadau i benodi dirprwyon mewn argyfwng
  • cyfleu'r wybodaeth berthnasol i Swyddogion Llywyddu. Gellir gwneud hyn ar lafar neu'n ysgrifenedig

Ceir rhagor o wybodaeth am wallau clercol yn ein canllawiau ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Etholaethau trawsffiniol

Dylech gysylltu a chytuno â'r Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol eraill yn eich etholaeth ar ddull o gyfleu newidiadau i'r gofrestr i Swyddogion Llywyddu o ganlyniad i wall clercol, penderfyniadau'r llys neu gymeradwyo dirprwy mewn argyfwng.

Cofrestrau gorsafoedd pleidleisio a rhestrau pleidleiswyr absennol

Os bydd rhywun yn gwneud cwyn i staff gorsaf bleidleisio sy'n awgrymu y dylai fod ar y gofrestr etholiadol, rhaid i'r Swyddog Llywyddu hysbysu'r Swyddog Cofrestru Etholiadol cyn gynted ag sy'n ymarferol. Er mwyn i hyn weithio'n effeithiol, bydd angen i chi sicrhau bod systemau cyfathrebu addas ar waith gennych rhwng Swyddogion Llywyddu a'r Swyddog Cofrestru Etholiadol.

I gael rhagor o wybodaeth am hyfforddi staff, gweler ein canllawiau ar hyfforddi swyddogion llywyddu, clercod pleidleisio ac arolygwyr gorsafoedd pleidleisio

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Chwefror 2024