| Argraffu'r canllawiau llawn

Rhestr gwrthod papurau pleidleisio a ffurflen werthuso adnabod pleidleiswyr

Rhaid i chi ddarparu'r ddogfen Rhestr Gwrthod Papurau Pleidleisio i bob gorsaf bleidleisio er mwyn casglu gwybodaeth yn ymwneud â'r gofynion adnabod pleidleiswyr.

Defnyddir y Rhestr Gwrthod Papurau Pleidleisio drwy gydol y dydd i gasglu a chofnodi gwybodaeth mewn perthynas â’r gofyniad ID pleidleisiwr:

DogfenGwybodaeth a gasglwyd
Rhestr Gwrthod Papurau Pleidleisio

Nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd ar sail:

  • nid oedd yr ID ffotograffig yn debyg iawn
  • credai'r Swyddog Llywyddu mai ffugiad oedd yr ID ffotograffig
  • methodd yr etholwr ag ateb y cwestiynau rhagnodedig yn foddhaol

Byddai’r Rhestr Gwrthod Papurau Pleidleisio yn cael ei diweddaru pe bai etholwr yn dychwelyd yn ddiweddarach gyda ffurf dderbyniol o ID ffotograffig

Mae llawlyfr yr orsaf bleidleisio yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut i lenwi'r ffurflenni hyn.

Rhestr werthuso adnabod pleidleiswyr

Gall Swyddogion Canlyniadau Etholaethol ofyn i Swyddogion Llywyddu gasglu data gan ddefnyddio'r Rhestr Werthuso Adnabod Pleidleiswyr. Er nad yw’n ofyniad statudol i gasglu’r wybodaeth hon, byddem yn argymell ei chasglu er mwyn deall gweithrediad y gofynion ID pleidleisiwr mewn gwahanol fathau o etholiadau. Lle byddwch yn penderfynu casglu gwybodaeth Rhestr Werthuso Adnabod Pleidleiswyr yn yr etholiadau hyn, ni fyddai'n ofynnol i chi goladu'r data a'i gyflwyno i'r Ysgrifennydd Gwladol neu'r Comisiwn ac ni fyddai unrhyw gyfyngiadau ychwaith ar gyhoeddi data Rhestr Werthuso Adnabod Pleidleiswyr.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Tachwedd 2024