Diweddariad misol – ymchwiliadau sydd wedi dod i ben (Chwefror 2021)

Summary

Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn ystod y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn y DU yn dryloyw.

Ymchwiliadau lle cafwyd bod troseddau:

Enw a’r math o endid a reoleiddir Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo Troseddau a gafwyd Penderfyniad a wnaed
Unite the Union (ymgyrchydd di-blaid cofrestredig) Cyflwyno cofnod gwariant ar gyfer Etholiad Senedd Ewrop 2019 yn hwyr; methu â chynnwys datganiad a oedd yn cydymffurfio â’r gofynion gyda’r cofnod gwariant Cyflwyno cofnod gwariant ar gyfer Etholiad Senedd Ewrop 2019 yn hwyr; methu â chynnwys datganiad a oedd yn cydymffurfio â’r gofynion gyda’r cofnod gwariant Rhoddwyd dwy gosb ariannol amrywiol a ddaeth i gyfanswm o £750. Talwyd ar 5 Chwefror 2021
Y Cynghorydd Matt Kerr (derbyniwr a reoleiddir) Methu ac adrodd am roddion o fewn 30 niwrnod Methu ac adrodd am roddion o fewn 30 niwrnod Rhoddwyd cosb ariannol benodedig o £200. Talwyd ar 25 Ionawr 2021

 

Wrth wneud sylw ar yr ymchwiliadau a bennwyd, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio'r Comisiwn: 

"Mae'r gofynion adrodd ar gyfer pleidiau gwleidyddol yn glir, felly mae hi wastad yn siomedig pan na chânt eu bodloni. Mae’n hanfodol bod gan bleidleiswyr gyfle i weld data amserol o ran sut mae ymgyrchwyr yn gwario eu harian, a phwy sy’n cyflwyno rhoddion i swyddogion etholedig. 

"Bydd y Comisiwn yn parhau i orfodi'r gofynion hyn i sicrhau bod gan bleidleiswyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen."


Ymchwiliadau lle na chafwyd bod trosedd:
 

Enw a’r math o endid a reoleiddir Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo Troseddau a gafwyd Penderfyniad a wnaed
Campaign Central Ltd (ymgyrchydd di-blaid cofrestredig) Methu â chyflwyno cofnod gwariant cyflawn ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop 2019 Ni chafwyd bod trosedd Cau'r achos heb gamau pellach
Fair Tax Campaign Ltd  (ymgyrchydd di-blaid cofrestredig) Methu â chyflwyno cofnod gwariant ymgyrchu cywir ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2019 Ni chafwyd bod trosedd Cau'r achos heb gamau pellach
Tactical.vote (ymgyrchydd di-blaid cofrestredig) Methu â chyflwyno cofnod gwariant ymgyrchu cywir ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2019 Ni chafwyd bod trosedd Cau'r achos heb gamau pellach

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414, neu drwy e-bostio [email protected]
 

Notes to editors

Nodiadau i olygyddion

Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:

  • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
  • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
  • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd

Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.

Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o'r misoedd blaenorolhefyd ar gael.

Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.