Diweddariad misol – ymchwiliadau sydd wedi dod i ben (Ebrill 2021)

Summary

Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn y DU yn dryloyw.

Ymchwiliadau lle cafwyd bod trosedd

Enw a’r math o endid a reoleiddir Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo Troseddau a gafwyd Penderfyniad a wnaed
British National Party (plaid wleidyddol gofrestredig) Cyflwyno cofnod gwariant ymgyrchu ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2019 yn hwyr      Cyflwyno cofnod gwariant ymgyrchu ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2019 yn hwyr      Cosb ariannol amrywiol o £300 wedi ei rhoi, i’w thalu erbyn 6 Mai 2021 

Wrth wneud sylw ar yr ymchwiliadau a bennwyd, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio'r Comisiwn: 

"Mae'r gofynion adrodd ar gyfer pleidiau gwleidyddol yn glir, felly mae hi wastad yn siomedig pan na chânt eu bodloni. Mae’n hanfodol bod gan bleidleiswyr y cyfle i weld data amserol ynghylch sut mae pleidiau yn gwario eu harian mewn etholiadau, ac eu bod yn gallu gweld y wybodaeth honno mor fuan â phosib.

"Bydd y Comisiwn yn parhau i orfodi'r gofynion hyn i sicrhau bod gan bleidleiswyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen."

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414, neu drwy e-bostio [email protected]

Notes to editors

Nodiadau i olygyddion

Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:

  • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
  • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
  • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd

Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.

Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o'r misoedd blaenorolhefyd ar gael.

Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.