Diweddariad misol – ymchwiliadau sydd wedi dod i ben (Gorffennaf 2021)
Summary
Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn y DU yn dryloyw.
Ymchwiliadau lle cafwyd bod trosedd:
Enw a’r math o endid a reoleiddir | Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo | Troseddau a gafwyd | Penderfyniad a wnaed |
---|---|---|---|
Keep Our NHS Public (KONP) (ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau heb eu cofrestru) a Solopress Limited (argraffydd) | Methu â chynnwys argraffnod dilys ar ddeunydd ymgyrchu | Methu â chynnwys argraffnod dilys ar ddeunydd ymgyrchu | Ni osodwyd cosb ar yr argraffydd, gosodwyd £500 o gosb ariannol amrywiol ar y cyhoeddwr. Talwyd ar 28 Mehefin 2021 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (plaid wleidyddol gofrestredig) | Adroddiadau statudol gwallus; methu â dychwelyd rhoddion nas caniateir o fewn 30 diwrnod | Adroddiadau statudol gwallus; methu â dychwelyd rhoddion nas caniateir o fewn 30 diwrnod | Ni osodwyd cosb. Rhoddion wedi eu fforffedu yn wirfoddol |
Nid yw'r ymchwiliad i'r Blaid Geidwadol ac Unoliaethol a ddaeth i ben y mis hwn yn ymwneud â chyllido gwaith yn 11 Downing Street.
Wrth wneud sylw ar yr ymchwiliadau a bennwyd, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio'r Comisiwn:
"Mae'r gofynion yn glir, felly mae hi wastad yn siomedig pan na chânt eu bodloni. Mae'n hanfodol bod gan bleidleiswyr wybodaeth amserol a chywir am roddion, a'r cyfle i wybod pwy sy'n eu targedu â deunydd ymgyrchu mewn etholiadau.”
“Pan welwn fod troseddau wedi’u cyflawni, nid ydym yn gosod cosbau yn awtomatig. Rydym yn gweithredu'n gymesur ac yn ystyried ystod o ffactorau wrth ddod i'n penderfyniadau terfynol, fel y nodir yn ein Polisi Gorfodi. "
Ymchwiliadau lle na chafwyd bod trosedd:
Enw a’r math o endid a reoleiddir | Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo | Troseddau a gafwyd | Penderfyniad a wnaed |
---|---|---|---|
Global Justice Now Ltd (ymgyrchydd di-blaid cofrestredig) | Methu â darparu holl anfonebau perthnasol yng nghofnod gwariant etholiad cyffredinol y DU 2019; talu anfoneb yn hwyrach na 30 diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod a reoleiddir | Dim troseddau wedi'u darganfod. | Cau'r achos heb gamau pellach |
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa’r wasg y Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414, neu drwy e-bostio [email protected]
Notes to editors
Nodiadau i olygyddion
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.
Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o'r misoedd blaenorolhefyd ar gael.
Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol, fel y digwyddir gyda rhoddion a gaiff eu fforffedu hefyd. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.