Diweddariad misol – ymchwiliadau sydd wedi dod i ben (Gorffennaf 2022)
Monthly update – concluded investigations
Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn y DU yn dryloyw.
Ymchwiliadau lle cafwyd bod troseddau:
Enw a’r math o endid a reoleiddir | Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo | Troseddau neu dramgwyddau a gafwyd | Penderfyniad a wnaed |
---|---|---|---|
All for Unity (plaid wleidyddol a arferai fod yn gofrestredig) | Methu â danfon ffurflen gwariant ymgyrchu ar gyfer etholiad Senedd yr Alban 2021 | Methu â danfon ffurflen gwariant ymgyrchu ar gyfer etholiad Senedd yr Alban 2021 |
Dim cosbau Cau'r achos heb gamau pellach |
Methu â danfon adroddiadau rhoddion a thrafodion chwarterol | Methu â danfon adroddiadau rhoddion a thrafodion chwarterol |
Dim cosbau Cau'r achos heb gamau pellach
|
|
British Resistance (plaid wleidyddol gofrestredig) | Methu â danfon datganiad blynyddol o gyfrifon | Methu â danfon datganiad blynyddol o gyfrifon |
Dim cosbau Cau'r achos heb gamau pellach |
Hysbysiad hwyr i newid y trysorydd cofrestredig | Hysbysiad hwyr i newid y trysorydd cofrestredig |
Dim cosbau Cau'r achos heb gamau pellach |
Wrth wneud sylw ar yr ymchwiliadau a bennwyd, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio'r Comisiwn:
“Mae cydymffurfio gyda’r gyfraith cyllid gwleidyddol yn bwysig wrth gadw tryloywder yn y system. Pan fod rhesymau rhesymol i ystyried bod trosedd wedi’i chyflawni, mae’n iawn ein bod yn ymchwilio i ganfod p’un a gyflawnwyd un ai peidio.
“Lle canfyddwn fod troseddau wedi’u cyflawni, nid ydym yn rhoi cosbau yn awtomatig. Rydym yn ymddwyn yn gymesur ac yn cymryd i ystyriaeth ystod o ffactorau wrth ddod i’n penderfyniadau terfynol, fel y nodwyd yn ein Polisi Gorfodi.”
Ymchwiliadau lle na chafwyd bod trosedd:
Enw a’r math o endid a reoleiddir | Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo | Troseddau a gafwyd | Penderfyniad a wnaed |
---|---|---|---|
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (uned gyfrifyddu Peterborough) | Methu â dychwelyd rhodd nas caniateir o fewn 30 diwrnod o'i dderbyn | Ni chafwyd bod trosedd | Cau'r achos heb gamau pellach |
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau’r swyddfa. Fel arall gallwch e-bostio [email protected]
Notes to editors
Nodiadau i olygyddion
1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.
2. Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o'r misoedd blaenorol ar gael.
3. Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.