Diweddariad misol – ymchwiliadau sydd wedi dod i ben (Mai 2021)
Summary
Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi manylion yr ymchwiliad a gwblhawyd yn ystod y mis diwethaf heddiw. Mae hyn yn rhan bwysig o sicrhau tryloywder mewn cyllid gwleidyddol yn y DU.
Ymchwiliad lle y canfuwyd bod trosedd wedi'i chyflawni:
Enw a’r math o endid a reoleiddir | Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo | Troseddau a gafwyd | Penderfyniad a wnaed |
---|---|---|---|
Plaid ‘Best for Luton’ | Cyflwyno adroddiadau rhoddion a thrafodion wythnosol ar gyfer Etholiad Cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig 2019 yn hwyr | Cyflwyno adroddiadau rhoddion a thrafodion wythnosol ar gyfer Etholiad Cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig 2019 yn hwyr | Rhoddwyd 2 gosb ariannol benodedig o £200. Talwyd ar 8 Mawrth 2021 |
Wrth sôn am yr ymchwiliad a gwblhawyd, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio:
“Mae'r gofynion adrodd yn glir, felly mae'n siomedig bob amser pan na chaiff y gofynion hynny eu bodloni. Mae'n hanfodol bod pleidleiswyr yn cael y cyfle i weld data amserol ar y ffordd y mae pleidiau yn cael eu harian.
“Bydd y Comisiwn yn parhau i orfodi'r gofynion hyn er mwyn sicrhau bod gan bleidleiswyr y wybodaeth sydd ei hangen arnynt.”
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414, neu drwy e-bostio [email protected]
Notes to editors
Nodiadau i olygyddion
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.
Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o'r misoedd blaenorolhefyd ar gael.
Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.