Diweddariad misol – ymchwiliadau sydd wedi dod i ben (Mehefin 2022)

Diweddariad misol – ymchwiliadau sydd wedi dod i ben

Diweddariad misol – ymchwiliadau sydd wedi dod i ben

Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn y DU yn dryloyw.

Enw a’r math o endid a reoleiddir Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo Troseddau a gafwyd Penderfyniad a wnaed
Kingston Independent Residents Group (plaid wleidyddol gofrestredig) Danfon datganiad blynyddol o gyfrifon yn hwyr Danfon datganiad blynyddol o gyfrifon yn hwyr £200 o gosb ariannol penodol
Let London Live (plaid wleidyddol gofrestredig) Danfon adroddiadau benthyciadau chwarterol a thrafodion yn hwyr Danfon adroddiadau benthyciadau chwarterol a thrafodion yn hwyr

Dim cosb

Cau'r achos heb gamau pellach
Plaid Werdd yr Alban (plaid wleidyddol gofrestredig) Danfon datganiad blynyddol o gyfrifon yn hwyr Danfon datganiad blynyddol o gyfrifon yn hwyr £2,300 o gosb ariannol amrywiol

Wrth wneud sylw ar yr ymchwiliadau a bennwyd, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio'r Comisiwn:

“O ran tryloywder, mae’n bwysig bod gan bleidleiswyr wybodaeth amserol a chywir ynghylch cyllid pleidiau gwleidyddol. Mae'r gofynion yn glir, felly mae hi wastad yn siomedig pan na chânt eu bodloni.

“Lle canfyddwn fod troseddau wedi’u cyflawni, rydym yn cymryd i ystyriaeth ystod o ffactorau wrth benderfynu ar lefel y gosb, fel y nodwyd yn ein Polisi Gorfodi.”

Ymchwiliadau lle na chafwyd bod trosedd

Enw a’r math o endid a reoleiddir Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo Troseddau a gafwyd Penderfyniad a wnaed
Plaid Refferendwm Annibyniaeth yr Alban (plaid gofrestredig) Methu â danfon ei hadroddiad rhoddion chwarterol Ni chafwyd trosedd Cau'r achos heb gamau pellach

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 tu allan i oriau swyddfa. Fel arall gallwch e-bostio [email protected]

Notes to editors

Nodiadau i olygyddion

1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:

  • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
  • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
  • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd

Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.

2. Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o'r misoedd blaenorol ar gael.

3. Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.