Diweddariad misol – ymchwiliadau sydd wedi dod i ben (Rhagfyr 2021)

Monthly update – concluded investigations

Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn y DU yn dryloyw.

Ymchwiliadau lle cafwyd bod trosedd:

Enw a’r math o endid a reoleiddir Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo Troseddau / tramgwyddau a gafwyd Penderfyniad a wnaed
Plaid Annibyniaeth y DU (plaid wleidyddol gofrestredig)

Methiant i gyflwyno hysbysiadau cyflawn a dilys o newidiadau i arweinwyr cofrestredig y blaid ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon

Methiant i gyflwyno hysbysiad o newid i gyfeiriad cofrestredig y blaid

Methiant i gyflwyno hysbysiadau cyflawn a dilys o newidiadau i arweinwyr cofrestredig y blaid ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon Dim cosb. Cau'r achos heb gamau pellach
Democratiaid Lloegr (plaid wleidyddol gofrestredig) Cyflwyno adroddiad trafodion chwarterol Ch4 2020 yn hwyr Cyflwyno adroddiad trafodion chwarterol Ch4 2020 yn hwyr Dim cosb. Cau'r achos heb gamau pellach

Wrth wneud sylw ar yr ymchwiliadau a bennwyd, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio'r Comisiwn:

“O ran tryloywder, mae’n bwysig bod gan bleidleiswyr wybodaeth amserol a chywir ynghylch arweinyddiaeth a chyllid pleidiau gwleidyddol.

“Lle cafwyd bod troseddau wedi’u cyflawni, nid ydym yn gosod cosbau yn awtomatig. Rydym yn cymryd i ystyriaeth ystod o ffactorau wrth ddod i’n penderfyniad terfynol, gan gynnwys ymdrechion plaid i wella’u systemau cydymffurfiaeth er mwyn osgoi torri rheolau yn y dyfodol.”

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414, neu drwy e-bostio  [email protected].

Notes to eds

Nodiadau i olygyddion

1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:

  • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
  • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
  • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd

Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.

2. Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o fisoedd blaenorol hefyd ar gael ar wefan y Comisiwn. Yn gynharach y mis hwn, cwblhaodd y Comisiwn ymchwiliad i’r Blaid Geidwadol, a chyhoeddodd ei ganfyddiadau. Gan ystyried budd y cyhoedd, cyhoeddwyd adroddiad ymchwiliad ar ddydd Iau 9 Rhagfyr.

3. Mae cosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol, yr un fath â rhoddion sydd wedi’u fforffedu. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.