Diweddariad misol – ymchwiliadau sydd wedi dod i ben (Tachwedd 2018)
Diweddariad yr ymchwiliad
YMae manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i ddarparu tryloywder i gyllid gwleidyddol y DU.
Ymchwiliadau lle cafwyd troseddau a rhoddwyd cosbau
| Enw a math o endid a reoleiddir | Beth ymchwiliwyd | Penderfyniad a wnaed | Canlyniad |
|---|---|---|---|
| People's Assembly Against Austerity (ymgyrchydd trydydd parti) |
Methu â chynnwys argraffnod ar ddeunydd etholiadol a methu â darparu cofnod gwariant cywir ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2017. | £900 (cosb ariannol amrywiol) | Taliad yn ddyledus erbyn 30 Tachwedd 2018. Cytunwyd i dderbyn rhandaliadau. |
| Y Blaid Gydweithredol |
Methu â danfon cofnod gwariant cywir ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2017 | £750 (cosb ariannol amrywiol) | Talwyd ar 14 Tachwedd 2018 |
| Ms Delyth Lloyd- Williams |
Methu â chynnwys argraffnod ar ddeunydd etholiadol | £500 (cosb ariannol amrywiol) | Talwyd ar 8 Hydref 2018 |
| Y Blaid Werdd | Methu â danfon cofnod gwariant cywir ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2017 | £500 a £250 (cosbau ariannol amrywiol) | Talwyd ar 15 Tachwedd 2018 |
Wrth wneud sylw ar y dirwyon, dywedodd Bob Posner, Cyfarwyddwr Cyllid Gwleidyddol a Rheoleiddio a Chwnsler Cyfreithiol y Comisiwn Etholiadol:
Mae'r gofynion adrodd ac ar gyfer argraffnodau yn glir, felly mae hi wastad yn siomedig pan fo pleidiau ac ymgyrchwyr yn methu â chydymffurfio. Mae hi'n hanfodol bod pleidleiswyr yn cael cyfle i weld data adroddadwy llawn a chywir ar beth mae pleidiau ac ymgyrchwyr yn gwario eu harian er mwyn dylanwadu arnynt mewn etholiadau; a hefyd pwy sy'n eu targedu gyda deunydd etholiadol i bleidleisio mewn modd penodol. Bydd y Comisiwn yn parhau i orfodi'r gofynion hyn ar bob plaid ac ymgyrchydd i sicrhau bod gan bleidleiswyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen.
Ymchwiliadau lle cafwyd troseddau ond ni roddwyd cosbau
| Enw a math o endid a reoleiddir | Beth ymchwiliwyd | Penderfyniad a wnaed | Canlyniad |
|---|---|---|---|
| Fianna Fail | Danfon datganiad o gyfrifon 2017 yn hwyr | Dim cosb | Cau'r achos heb gamau pellach |
| Aspire | Danfon adroddiad rhoddion chwarterol a benthyciadau chwarterol yn hwyr | Dim cosb | Cau'r achos heb gamau pellach |
| Holland on Sea and Eastcliffe Matters | Danfon datganiad o gyfrifon 2017 yn hwyr | Dim cosb | Cau'r achos heb gamau pellach |
| Greater Manchester Homeless Voice | Danfon adroddiad rhoddion chwarterol a benthyciadau chwarterol yn hwyr | Dim cosb | Cau'r achos heb gamau pellach |
| Legacy | Danfon adroddiad rhoddion chwarterol a benthyciadau chwarterol yn hwyr | Dim cosb | Cau'r achos heb gamau pellach |
| Bournemouth Independent Alliance | Danfon adroddiad rhoddion chwarterol a benthyciadau chwarterol yn hwyr | Dim cosb | Cau'r achos heb gamau pellach |
| Herne Hill Community and Libraries Campaign | Danfon adroddiad rhoddion benthyciadau chwarterol, cyfrifon blynyddol yn hwyr | Dim cosb | Cau'r achos heb gamau pellach |
| Mr Brian Parbutt | Talu am wariant ymgyrchu ar ran y Blaid Lafur yn etholiad cyffredinol Senedd y DU 2017 heb fod yn berson awdurdodedig | Dim cosb | Cau'r achos heb gamau pellach |
| Mr David Page | Incurring campaign expenditure on behalf of the Liberal Democrats at the 2017 UKPGE without the proper authorisation from the party. | Dim cosb | Cau'r achos heb gamau pellach |
| Mr Anthony Harris | Incurring campaign expenditure on behalf of the Liberal Democrats at the 2017 UKPGE without the proper authorisation from the party. | Dim cosb | Cau'r achos heb gamau pellach |
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau y Comisiwn Etholiadol:
- 020 7271 0704 (tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- [email protected]
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.
- Mae'r datganiad yma'n rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn, fel rhan bwysig o'i ymrwymiad i ddarparu tryloywder i gyllid gwleidyddol y DU. Caiff gwybodaeth o'r natur yma ei gyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth bob mis. Mae manylion cosbau misoedd blaenorol ar gael ar ein gwefan.
- Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff ei reoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.