Gwariant yn yr etholiad cyffredinol yn cyrraedd y lefel uchaf erioed
General election spending hits record high
Cyrhaeddodd cyfanswm y gwariant yn etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024 y lefel uchaf erioed - £93.5m, yn ôl dadansoddiad a gyhoeddwyd heddiw gan y Comisiwn Etholiadol.
Gwariodd pleidiau gwleidyddol mawr ac ymgyrchwyr – sef y rheiny sy’n gwario £250,000 neu fwy – gyfanswm o £69.3 miliwn yn y flwyddyn cyn yr etholiad cyffredinol.
Daw’r ffigurau o ddau adroddiad gan y Comisiwn sydd wedi’u cyhoeddi heddiw, sy’n cwblhau darlun y gwariant yn etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024. Mae gwybodaeth ynghylch gwariant gan bleidiau mawr ac ymgyrchwyr wedi’i chyhoeddi, gan ychwanegu at y data gan bleidiau llai ac ymgeiswyr a oedd ar gael yn gynharach yn y flwyddyn. Mae dadansoddiad o’r data hefyd wedi’i gyhoeddi, sy’n dangos cynnydd clir mewn termau real yng ngwariant pleidiau ers 2017.
• Etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024: gwariant gan bleidiau mawr ac ymgyrchwyr
• Etholiad Cyffredinol Senedd y DU 2024: dadansoddiad o wariant ymgyrchu
Ar ôl yr etholiad, mae’n rhaid adrodd i’r Comisiwn am arian a wariwyd ar ymgyrchu. Mae’r Comisiwn yn cyhoeddi’r data hwn fel y gall pleidleiswyr weld faint a wariwyd ar ddylanwadu.
Dywedodd Jackie Killeen, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth a Rheoleiddio Etholiadol:
“Cyrhaeddodd gwariant yn yr etholiad cyffredinol y lefel uchaf erioed wrth i ymgyrchwyr geisio rhannu eu negeseuon gyda phleidleiswyr a llywio eu dewis yn y blwch pleidleisio. Gwnaeth y nifer uchaf erioed o ymgeiswyr a phleidiau gymryd rhan, gan helpu i gynnal dadl gadarn a bywiog.
“Mae lefelau uchel o gyfranogiad ac ymgyrchu’n rhoi gwybodaeth i bleidleiswyr am yr ymgeiswyr sy’n sefyll, ac mae’r cyhoeddiad heddiw yn dangos i bleidleiswyr sut yr ariannwyd y gweithgarwch hwnnw. Mae sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael i bleidleiswyr yn rhan bwysig o system cyllid gwleidyddol y DU, sy’n helpu i fagu ymddiriedaeth a hyder y pleidleiswyr.
“Gall pleidleiswyr hefyd fod yn hyderus bod ymgyrchwyr, ar y cyfan, yn cydymffurfio â chyfreithiau cyllid gwleidyddol ac yn bodloni eu rhwymedigaethau. Gwnaethom weld lefelau uchel o gydymffurfiaeth â chyfreithiau cyllid gwleidyddol yn etholiad cyffredinol 2024.”
Yn ogystal â lefelau’r cyfanswm gwariant, mae data a adroddwyd i’r Comisiwn yn dangos y gweithgareddau gwahanol y mae ymgyrchwyr yn ymgymryd â nhw. Deunyddiau digymell – megis taflenni a phost uniongyrchol at etholwyr – unwaith eto fu’r categori gyda’r gwariant mwyaf.
Mae’r Comisiwn wedi argymell y dylai Llywodraeth y DU ddiweddaru’r categorïau gwariant i roi gwybodaeth fanwl fwy defnyddiol i bleidleiswyr fel eu bod yn gwybod ar beth y gwnaeth ymgyrchwyr wario arian. Gellid diweddaru’r categorïau i adlewyrchu gweithgareddau ymgyrchu modern, fel ymgyrchu digidol.
Pleidiau gwleidyddol
Adroddodd saith plaid eu bod wedi gwario £250,000 neu fwy yn etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024:
| Plaid | Gwariant |
|---|---|
| Y Blaid Lafur | £30,084,081 |
| Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol | £23,874,892 |
| Y Democratiaid Rhyddfrydol | £5,623,336 |
| Reform UK | £5,459,027 |
| Y Blaid Werdd | £1,727,639 |
| Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) | £799,175 |
| Y Blaid Gydweithredol | £298,304 |
Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
Adroddodd tri ymgyrchydd nad ydynt yn bleidiau eu bod wedi gwario £250,000 neu fwy yn etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024:
| Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau | Gwariant |
|---|---|
| Undeb Addysg Cenedlaethol | £617,730 |
| Best for Britain Limited | £423,997 |
| UNISON: Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus | £394,392 |
Mae’n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau hefyd roi gwybod am unrhyw roddion a dderbyniwyd at ddiben bodloni’r gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir sydd hefyd wedi’u cyhoeddi heddiw.
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414 neu drwy e-bostio [email protected].
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei chywirdeb drwy:
o alluogi cynnal etholiadau a refferendwm teg, gan ganolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i’r afael â’r ymgyrched newidiol i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
o rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, cefnogi cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau.
o defnyddio ein harbenigedd dros newidiadau i’n democratiaeth, gan anelu at wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd. - Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.
- Cyhoeddodd y Comisiwn ffurflenni gwariant pleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau a wariodd £250,000 neu lai yn ystod yr etholiad cyffredinol ym mis Chwefror, a’r prif ffigurau ar gyfer gwariant a rhoddion ymgeiswyr ym mis Mawrth 2025.
- Mae gan y Comisiwn ddyletswydd gyfreithiol i gyhoeddi ffurflenni gwariant cyn gynted â phosibl, gan sicrhau bod gan bleidleiswyr fynediad amserol at wybodaeth am wariant etholiadol.
- Mae'n ofynnol i bob plaid wleidyddol a gystadlodd yn yr etholiad cyffredinol gyflwyno ffurflen gwariant ymgyrchu i’r Comisiwn, hyd yn oed os oedd yn ffurflen dim trafodion, yn ogystal ag ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau a wariodd dros y trothwyon cofrestru.
- Mae’n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ledled y DU gofrestru gyda’r Comisiwn os ydynt yn bwriadu gwario mwy na £10,000. Mae’n rhaid iddynt gyflwyno ffurflen gwariant os ydynt yn gwario mwy nag £20,000 yn Lloegr, neu dros £10,000 yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn ystod cyfnod a reoleiddir.
- Mae'r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cofnodion gwariant yn dibynnu ar faint a wariodd plaid neu ymgyrchydd. Roedd gan y rhai a wariodd dros £250,000 tan 4 Ionawr 2025 i gyflwyno eu ffurflenni wedi’u harchwilio.
- Dyma oedd etholiad cyffredinol cyntaf y DU yn dilyn newid i drothwyon adrodd rhoddion, a oedd yn golygu bod yn rhaid i bleidiau adrodd rhoddion dros £11,180 (£7,500 yn flaenorol). Cafodd terfynau gwariant ar gyfer pleidiau gwleidyddol eu huwchraddio hefyd yn unol â chwyddiant.
- Mae'r Comisiwn wedi gweithio i fynd i’r afael ag unrhyw anghywirdebau yn y ffurflenni cyn eu cyhoeddi. Mae'n annog pleidiau ac ymgyrchwyr i fuddsoddi yn eu prosesau cydymffurfio ac i geisio ein cyngor cyn cyflwyno ffurflenni.
- Os canfyddir anghywirdebau ychwanegol ar ôl eu cyhoeddi, bydd y Comisiwn yn cyhoeddi ffurflenni diwygiedig i sicrhau bod gwybodaeth am wariant a gyhoeddwyd mor gywir â phosibl. Lle y bo'n briodol, bydd yn ystyried unrhyw wallau neu wybodaeth anghyflawn yn unol â'i bolisi gorfodi.