Mae anawsterau pleidleiswyr a achosir gan oedi wrth weithredu newidiadau etholiadol, dywed adroddiad newydd ar etholiadau mis Mai
Summary
Mae adroddiad i etholiadau Mai 2019, a gyhoeddwyd heddiw gan y Comisiwn Etholiadol, wedi tynnu sylw at y ffaith bod oedi gan y llywodraeth wrth fwrw ymlaen ag argymhellion sefydledig ar gyfer diwygio etholiadol wedi arwain at anawsterau a brofwyd gan y rhai a oedd am bleidleisio.
Mae'r adroddiad yn nodi dau fater allweddol a gafodd effaith niweidiol ar bleidleiswyr: yr anawsterau a gafodd rhai o ddinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU ac a oedd am bleidleisio yn etholiadau Seneddol Ewrop yn y DU; a'r anawsterau a gafodd pleidleiswyr tramor Prydeinig nad oeddent yn gallu dychwelyd pleidleisiau post mewn pryd i gael eu cyfrif.
Mae'r adroddiad hefyd yn dangos bod lefelau hyder pleidleiswyr yn gyffredinol wrth redeg yr etholiadau hyn yn is nag mewn arolygon barn diweddar eraill. Dangosodd ymchwil barn y cyhoedd a gynhaliwyd ar gyfer y Comisiwn fod hyder bod etholiadau Seneddol Ewrop yn cael eu rhedeg yn dda wedi gostwng mwy na deg pwynt canran ers i’r etholiadau gael eu cynnal ddiwethaf yn 2014, a bod yr hyder wrth redeg yr etholiadau lleol wedi gostwng 12 pwyntiau canran y llynedd.
Quote from the Commission's Chief Executive
Fe ddywedodd Prif Weithredwr, Comisiwn Etholiadol, Bob Posner
“Mae’n annerbyniol bod rhai dinasyddion o’r UE sy’n byw yn y DU a dinasyddion Prydain sy’n byw dramor wedi profi anawsterau a oedd yn eu hatal rhag pleidleisio yn etholiadau Seneddol Ewrop.
“Mae etholiadau mis Mai yn dangos bod oedi wrth weithredu gan y llywodraeth, sydd ei angen i ddiweddaru ein deddfau etholiadol yn iawn, bellach yn peri risgiau sylweddol i ymddiriedaeth a hyder pleidleiswyr.
“Ers cryn amser mae’r Comisiwn ac arbenigwyr etholiadol eraill wedi bod yn argymell newidiadau a fyddai, pe bai’r llywodraeth yn eu gweithredu, wedi sicrhau bod unrhyw un a oedd eisiau pleidleisio ac a oedd yn gymwys i bleidleisio yn gallu gwneud hynny yn rhwydd. Mae'n destun gofid mawr na weithredwyd ar yr argymhellion hyn eto."
Further recommendations
Mae'r Comisiwn Etholiadol, Comisiynau Cyfraith y DU a sawl adroddiad Llywodraethol wedi argymell diwygio cyfraith etholiadol gymhleth a hen ffasiwn y DU. Ers 2016, mae'r Comisiwn wedi annog llywodraethau'r DU i fwrw ymlaen â'r argymhellion hyn cyn gwireddu risgiau pellach a allai arwain at ganlyniadau sylweddol i bleidleiswyr, ymgyrchwyr a gweinyddwyr etholiadol.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod yr anawsterau a gafodd pleidleiswyr a gweinyddwyr etholiadol fel ei gilydd yn cael eu gwaethygu ymhellach gan gadarnhad hwyr y Llywodraeth y byddai etholiadau Seneddol Ewrop yn mynd yn eu blaenau, ac mae'n credydu staff etholiadol am gynnal etholiadau yn wyneb heriau sylweddol.
Adroddiad y Comisiwn Etholiadol ar etholiadau Mai 2019. [insert hyperlink]
Gellir dod o hyd i wybodaeth fanwl am y broses gofrestru pleidleisio ar gyfer dinasyddion yr UE sy'n preswylio yn y DU ar gyfer etholiadau Seneddol Ewropeaidd 2019 mewn adroddiad ymchwiliad penodol, a gyhoeddwyd heddiw, a lywiodd y prif adroddiad statudol. [insert hyperlink]
Diwedd
For further information
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau y Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414 neu drwy e-bostio [email protected].
Nodiadau i olygyddion
1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli newidiadau i ein democratiaeth,
- gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Lywodraethau'r DU.
2. Mae gan y Comisiwn Etholiadol gyfrifoldeb statudol i adrodd ar etholiadau Seneddol Ewropeaidd.