Prif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol i ymddeol yng Ngwanwyn 2022
Prif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol i ymddeol yng Ngwanwyn 2022
Mae Bob Posner, Prif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol, wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o’i swydd yng Ngwanwyn 2022.
Daw penderfyniad Bob i ymddeol ar ôl 15 mlynedd o weithio yn y Comisiwn, cyfnod wnaeth ymestyn ar draws pedair refferendwm a phedwar etholiad cyffredinol. Cafodd ei benodi’n Brif Weithredwr dros dro ym mis Rhagfyr 2018 a chafodd ei benodi’n ffurfiol i’r swydd ym mis Ebrill 2019. Ymunodd â’r Comisiwn yn 2007, a gweithredodd fel Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Chwnsler Cyfreithiol rhwng 2014 a 2018.
Bydd proses recriwtio’n cychwyn yn fuan, er mwyn sicrhau chwiliad cynhwysfawr a phontio rhwydd gwanwyn nesaf.
Dywedodd John Pullinger, Cadeirydd y Comisiwn Etholiadol:
“Mae Bob wedi ymroi 15 mlynedd i’r Comisiwn a’r gwaith pwysig o oruchwylio etholiadau sy’n rhedeg yn dda, a rheoleiddio cyllid gwleidyddol. Mae e wedi bod yn allweddol wrth ddarparu lefelau uchel o gydymffurfio â’r rheolau cyllid gwleidyddol, wrth ffurfioli’r dull cofrestru ar gyfer pleidiau ac ymgyrchwyr, ac wrth alw am ddiwygiad angenrheidiol i’r gyfraith etholiadol er mwyn sicrhau bod gan bleidleiswyr ac ymgyrchwyr hyder yn ein system. Mae ei gyfraniad wedi bod yn ganolog i’r gwaith o gefnogi darpariaeth barhaus etholiadau a refferenda sy’n rhedeg yn dda.
“Mae’r Bwrdd a finnau yn ddiolchgar i Bob am ei gyfraniad ac am ei gefnogaeth a’i arbenigedd. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’n gilydd ar flaenoriaethau a gweithgareddau’r Comisiwn hyd nes y bydd ei ymddeoliad yn dechrau gwanwyn nesaf.”
Ychwanegodd Bob Posner:
“Mae gwaith y Comisiwn yn allweddol i gadw ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn ein systemau democrataidd, ac rwyf yn hynod o falch fy mod wedi gallu arwain y sefydliad dros y dair blynedd ddiwethaf. Diolch i ymrwymiad a sgiliau staff y Comisiwn rydym yn parhau i chwarae rhan hanfodol yng nghalon prosesau democrataidd y DU, gan roi cefnogaeth hanfodol i weinyddwyr etholiadol, pleidiau ac ymgyrchwyr, a phleidleiswyr. Byddaf yn parhau i arwain ar y gwaith hwn yn y misoedd nesaf, cyn i’m holynydd gael ei benodi.”
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414 neu drwy e-bostio [email protected]
Nodiadau i olygyddion
1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
2. Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU, a Senedd yr Alban.