Y Comisiwn Etholiadol yn cau ymchwiliadau i bedair plaid wleidyddol (Mai 2023)
Y Comisiwn Etholiadol yn cau ymchwiliadau i bedair plaid wleidyddol
Mae ymchwiliadau i bedair plaid wleidyddol wedi’u cau dros y mis diwethaf gyda’r Comisiwn Etholiadol yn gosod cosbau ar un blaid.
Ymchwiliadau lle cafwyd bod trosedd
| Pwy y gwnaethom ymchwilio iddynt | Yr hyn y gwnaethom ei ymchwilio | Yr hyn y gwnaethom ganfod | Canlyniad |
|---|---|---|---|
| Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Prydain Fawr) (plaid wleidyddol) | Methu ag adrodd am ddau rodd erbyn y dyddiad cau | Troseddau a gafwyd | Dim cosb |
| Y Blaid Werdd Gogledd Iwerddon (plaid wleidyddol) | Adrodd am roddion yn hwyr ac yn anghywir | Troseddau a gafwyd | Dim cosb |
| Plaid Sosialaidd Weriniaethol Iwerddon (plaid wleidyddol) | Methu â darparu ffurflen gwariant ar gyfer etholiad Cynulliad Gogledd Iwerddon 2022 | Cafwyd bod trosedd | Dim cosb |
| Y Blaid Lafur (plaid wleidyddol) | Adrodd yn hwyr am roddion | Troseddau a gafwyd | Tair dirwy o £200 yr un Dirwyon wedi’u talu |
Dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Thrawsnewid Digidol:
“Mae’r cyfreithiau cyllid gwleidyddol yn sicrhau bod y system yn dryloyw ac yn gywir. At ddibenion tryloywder, mae’n rhaid i bleidiau adrodd am roddion mawr yn chwarterol i ni, felly mae’n bwysig bod yr wybodaeth maent yn ei rhoi yn gywir. Mae'r gofynion ar gyfer pleidiau gwleidyddol yn glir, felly mae hi’n siomedig pan na chydymffurfir â hwy.”
“Lle canfyddwn troseddau, ystyriwn yn ofalus yr amgylchiadau wrth benderfynu p’un a ddylid gosod cosb, ac os felly, lefel y gosb honno. Rydym yn cymryd i ystyriaeth cymesuredd ac ystod o ffactorau, fel y nodwyd yn ein Polisi Gorfodi, cyn dod i’n penderfyniad terfynol. Mae cyhoeddi achosion wedi’u cau yn rhan bwysig o ddarparu tryloywder o ran cyllid gwleidyddol yn y DU.”
“Yn achos y Blaid Lafur, gwnaeth ein hymchwiliadau ganfod saith trosedd oedd yn gysylltiedig ag adrodd am roddion yn hwyr yn un o’u hadroddiadau ariannol chwarterol, ac y mae tair ohonynt wedi arwain at godi cosb.”
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414, neu drwy e-bostio [email protected]
Nodiadau i olygyddion
1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.
2. Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o fisoedd blaenorol ar gael.
3. Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EF ac nid y Comisiwn Etholiadol.