Newidiadau i'r gofynion cyfreithiol ar gyfer pleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
Summary
Mae gofynion cyfreithiol newydd i bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Newidiadau
Pleidiau gwleidyddol
Mae yna ofyniad newydd o ran cofrestru i bleidiau gwleidyddol erbyn hyn. Mae'n ofynnol i bleidiau sy'n dymuno cofrestru â ni ddatgan a oes ganddynt asedau neu rwymedigaethau sy'n werth dros £500 ac, os felly, rhaid iddynt ddarparu cofnod o'r asedau a'r rhwymedigaethau hyn. Caiff y datganiadau a'r cofnodion eu cyhoeddi ar ein cofrestrau. Ceir rhagor o wybodaeth am y gofyniad newydd hwn yn ein canllawiau.
Nid yw pleidiau yn gallu cofrestru â ni mwyach os ydynt eisoes wedi'u cofrestru fel ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Ar gyfer pleidiau sy'n bwriadu cystadlu mewn etholiadau ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon, mae angen iddynt nawr gofrestru dwy blaid wleidyddol ar wahân, un ar bob cofrestr. Bydd y rhain wedyn yn cael eu hystyried fel dwy blaid ar wahân at ddibenion Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
Mae trothwy cofrestru newydd erbyn hyn i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU.
Mae'n ofynnol i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau gofrestru â ni os byddant yn gwario dros £10,000 naill ai yn Lloegr neu ledled y DU. Yna bydd angen i'r ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau hyn ddarparu ffurflenni ariannol pan fyddant yn cyrraedd y trothwyon adrodd presennol. £10,000 yw'r trothwy adrodd yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban, ac £20,000 yn Lloegr.
Yn ystod cyfnod a reoleiddir, caiff rhai categorïau o ymgyrchwyr eu gwahardd rhag gwario mwy na £700. Er enghraifft, mae hyn yn cynnwys grwpiau tramor sy'n ymgyrchu mewn etholiad yn y DU.
Nid yw ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn gallu cofrestru â ni mwyach os ydynt eisoes wedi'u cofrestru fel plaid wleidyddol.
Ein rôl
Mae ein cofrestr gyhoeddus wedi cael ei diweddaru i adlewyrchu'r newidiadau o ran asedau a rhwymedigaethau i bleidiau gwleidyddol, a'r newidiadau i drothwyon cofrestru ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. Rydym hefyd wedi diweddaru'r wefan y mae pleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn ei defnyddio i gyflwyno ceisiadau (CPE Ar-lein) yn ogystal â'n ffurflenni y gellir eu hargraffu, er mwyn hwyluso'r gofynion newydd.
Daeth y newidiadau sy'n ymwneud â chofrestru pleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau i rym ddydd Iau 24 Tachwedd. Rydym wedi cyhoeddi cyfres ddiwygiedig o ganllawiau ar gofrestru pleidiau, gan gynnwys y rheolau newydd ar gyfer cofrestru pleidiau newydd.
Rydym wedi llunio Cod Ymarfer ar wariant, sy'n cynnwys canllawiau ar y newidiadau i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.