Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu yn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
Ffurflen enwebu – Gofynion llofnodwyr
Rhaid i ffurflenni enwebu gynnwys arwydd o gefnogaeth i'r ymgeisydd gan 100 o etholwyr cofrestredig ar y gofrestr etholiadol llywodraeth leol ar gyfer ardal bleidleisio yn yr ardal heddlu1 . Gelwir y rhain yn llofnodwyr – y ddau gyntaf yw'r cynigydd a'r eilydd, tra bod 98 o etholwyr eraill yn cefnogi'r enwebiad. Nid oes dim yn atal ymgeisydd rhag llofnodi ei enwebiad ei hun ar yr amod ei fod wedi'i gofrestru yn ardal yr heddlu.
Gall y cynigydd, eilydd a llofnodwyr eraill fod wedi'u cofrestru unrhyw le yn ardal yr heddlu ac ni chyfyngir ar nifer y llofnodwyr o unrhyw un ardal bleidleisio, e.e. gall pob un ohonynt fod wedi'u cofrestru mewn un ardal bleidleisio neu gallant fod wedi'u cofrestru mewn ardaloedd pleidleisio gwahanol yn ardal yr heddlu.
Yn ôl y gyfraith, rhaid i bob llofnodwr lofnodi'r papur enwebu yn y man priodol a rhaid i'w rif etholiadol gael ei roi yn y bylchau a ddarperir wrth ymyl ei lofnod, ynghyd â llythrennau adnabod y dosbarth etholiadol.2
Pan fydd ffurflen enwebu wedi'i chyflwyno'n ffurfiol, hyd yn oed os caiff ei phennu'n annilys yn hwyrach, bydd llofnodion yn dal i gyfrif tuag at yr un ffurflen y caiff y llofnodwr ei llofnodi.
Os caiff etholwr ei dynnu oddi ar y gofrestr yn ddiweddarach neu os bydd farw cyn yr etholiad (neu cyn i'r enwebiad gael ei gyflwyno hyd yn oed) ar ôl i chi benderfynu ar enwebiad, bydd ei lofnod yn ddilys o hyd ac nid effeithir ar yr enwebiad.
Gall unigolyn sy'n ymddangos ar y gofrestr fel rhywun sydd o dan 18 oed pan wneir yr enwebiad ond llofnodi ffurflen enwebu os bydd yn 18 oed ar neu cyn y diwrnod pleidleisio.3
Dim ond nifer ofynnol y llofnodwyr ar gyfer eich ardal heddlu ar unrhyw bapur enwebu y gellir ei ystyried. Os caiff mwy o lofnodwyr eu cynnwys na'r nifer sydd ei angen i sefyll etholiad yn eich ardal heddlu, ni ddylid ystyried unrhyw enwau dilynol o gwbl. Os bydd un o'r nifer ofynnol gyntaf o lofnodwyr yn annilys, waeth p'un a ychwanegwyd mwy o lofnodwyr i'r ffurflen enwebu ai peidio, mae'n rhaid ystyried bod yr enwebiad yn annilys.4
Ni all llofnodwyr dynnu llofnodion ar ffurflenni enwebu yn ôl, unwaith y byddant wedi'u rhoi. Os bydd llofnodwr yn cysylltu â chi i ddweud ei fod yn dymuno tynnu ei lofnod yn ôl, dylech ei hysbysu na chaniateir hyn yn ôl y gyfraith a bod y llofnod yn ddilys o hyd. Rhaid i chi wrthod enwebiad os na lofnodwyd y ffurflen enwebu yn ôl y gofyn.
Cadarnhau bod llofnodwyr ar y gofrestr
Rhaid i lofnodwyr ymddangos ar y gofrestr llywodraeth leol ar gyfer ardal bleidleisio yn ardal yr heddlu sydd mewn grym ar y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad etholiad. Mae'n hanfodol y defnyddir y fersiwn gywir o'r gofrestr er mwyn sicrhau bod y llofnodwyr yn ddilys.
Bydd angen i chi gydgysylltu â'r Swyddogion Canlyniadau Lleol/Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn ardal yr heddlu er mwyn sicrhau eich bod yn seilio'ch penderfyniad ar ddilysrwydd llofnodwyr ar y diweddariad perthnasol o'r gofrestr.
Rhaid i unrhyw ffurflenni enwebu a gyflwynir wedi hynny sy'n cynnwys llofnod etholwr fel llofnodwr gael eu pennu'n annilys, hyd yn oed pan fydd y ffurflen enwebu ddiweddarach ar gyfer yr un ymgeisydd â'r ffurflen gynharach, neu os bydd y ffurflen enwebu gynharach ar gyfer ymgeisydd sydd wedi tynnu'n ôl.5
Mae ein canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu ar weithio gyda Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu yn rhoi rhagor o wybodaeth ynglŷn â chynllunio ar gyfer cadarnhau dilysrwydd llofnodwyr.
Gan fod yn rhaid i chi dderbyn y ffurflen enwebu ar ei golwg, rhaid i chi dderbyn mai llofnod yr unigolyn a restrwyd ar y gofrestr o dan y rhif etholwr perthnasol yw'r llofnod ar y ffurflen enwebu, hyd yn oed os yw'r llofnod yn awgrymu enw arall. Gallwch dynnu sylw'r unigolyn sy'n cyflwyno'r papur at hyn os ydych yn pryderu, ond, rhaid i chi dderbyn y rhif etholwr a'r llofnod ar eu golwg.6 Os bydd gennych bryderon o hyd ar ôl codi'r mater, dylech hysbysu eich pwynt cyswllt unigol yn yr heddlu.
Enwau llofnodwyr wedi'u croesi allan
Yn achlysurol gwneir camgymeriad gyda'r llofnodwyr ar ffurflen enwebu, a gellir croesi allan un neu fwy o'r enwau ar y ffurflen. Os caiff y llofnod a'r rhif etholiadol ar gyfer llofnodwr eu croesi allan yn glir, dylech ei anwybyddu a'i drin fel pe na bai'r rhes yn ymddangos o gwbl. Os gofynnir i chi, dylech gynghori y dylai unrhyw beth sydd wedi'i groesi allan fod yn glir, ac yn ddelfrydol, wedi'i lofnodi â llythrennau cyntaf enw.
Ni ddylech groesi allan unrhyw gofnod. Os oedd y cofnod a oedd wedi'i groesi allan yn gofnod gan gynigydd neu eilydd, yna dylid nodi'r cynigydd neu'r eilydd newydd. Lle y bydd cofnod wedi'i groesi allan, mae'n rhaid i'r llofnodion cyntaf o blith y nifer ofynnol o lofnodwyr ar gyfer eich ardal heddlu ac eithrio'r cofnod hwnnw fod yn ddilys o hyd er mwyn i'r enwebiad fod yn ddilys.
- 1. Paragraff 7, Atodlen 3 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Paragraff 7(3), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Paragraff 7(5)(b), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Paragraff 7, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Ffurflen 6, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Ceir yr egwyddor y dylai Swyddogion Canlyniadau gymryd papurau enwebu ar eu golwg mewn achosion fel Greenway Stanley v Paterson [1977] 2 All ER 663; R v An Election Court ex parte Sheppard [1975] 1 WLR 1319. ↩ Back to content at footnote 6