| Argraffu'r canllawiau llawn

Cyhoeddi'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd

Mae'n ofynnol i chi gyhoeddi datganiad ynghylch y personau a enwebwyd ar gyfer ardal yr heddlu erbyn 4pm ar y deunawfed diwrnod gwaith cyn yr etholiad fan bellaf.1

Cynnwys y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd

Rhaid i'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd gynnwys yr wybodaeth ganlynol ar gyfer pob ymgeisydd sydd wedi'i enwebu'n ddilys:

  • enw
  • cyfeiriad (neu, os yw wedi gofyn am i'w gyfeiriad cartref beidio â chael ei gyhoeddi, y geiriau Cyfeiriad yn Ardal Heddlu [rhowch enw'r ardal heddlu])
  • disgrifiad (os o gwbl)

Rhaid iddo hefyd gynnwys y rhain nad ydynt wedi'u henwebu mwyach, a'r rheswm pam (h.y. y rhai sydd wedi tynnu'n ôl neu rydych wedi gwrthod eu henwebiad).2

Dylai eich hysbysiad preifatrwydd ei gwneud hi'n glir ei bod hi'n ofynnol i chi, o dan ddeddfwriaeth etholiadol, gyhoeddi enw a chyfeiriad ymgeisydd yn y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau diogelu data.

Trefn enwau ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd

Rhaid i enwau'r ymgeiswyr ar y datganiad gael eu rhestru yn nhrefn yr wyddor ar gyfer eu cyfenw; dyma sut y byddant hefyd yn ymddangos ar y papur pleidleisio.3

Pan fydd gan ddau neu fwy o ymgeiswyr yr un cyfenw, yr enwau eraill yn nhrefn yr wyddor fydd yn pennu pa ymgeisydd a gaiff ei restru gyntaf.

Os bydd unigolyn wedi gofyn am i enw a ddefnyddir yn gyffredin gael ei ddefnyddio ar ei ffurflen enwebu, rhaid i'r enw a ddefnyddir yn gyffredin gael ei ddangos ar y datganiad yn hytrach na'i enw gwirioneddol.

Pan fydd ymgeisydd wedi gofyn am gael defnyddio cyfenw a ddefnyddir yn gyffredin, rhaid i safle'r ymgeisydd o ran trefn yr wyddor ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd (ac ar y papur pleidleisio) gyfeirio at ei gyfenw a ddefnyddir yn gyffredin.4

Fodd bynnag, os ydych wedi gwrthod y defnydd o unrhyw enw a ddefnyddir yn gyffredin gan eich bod o'r farn ei fod yn debygol o gamarwain neu ddrysu etholwyr, neu ei fod yn anweddus neu'n sarhaus, rhaid i'r enw gwirioneddol gael ei gyhoeddi ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd yn lle'r enw a ddefnyddir yn gyffredin.5

Ystyriaethau lle mae ymgeisydd wedi gofyn am i'w gyfeiriad cartref beidio â chael ei gyhoeddi 

Os bydd mwy nag un ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys wedi gofyn am i gyfeiriad ei gartref beidio â chael ei gyhoeddi, rhaid i chi ystyried a oes gan ddau neu fwy ohonynt yr un enw neu enw tebyg sy'n debygol o achosi dryswch. 

Os byddwch yn ystyried bod hyn yn wir, gallwch ychwanegu'r cyfryw fanylion o'u cyfeiriad cartref neu eu ffurflen enwebu at y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd fel y bo'n briodol yn eich barn chi er mwyn lleihau'r tebygolrwydd o achosi dryswch.6  

Rhaid i chi ymgynghori â'r ymgeisydd/ymgeiswyr dan sylw, os yw'n ymarferol i chi wneud hynny, cyn i chi benderfynu pa fanylion y dylid eu cynnwys ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd. 

Yna rhaid i chi eu hysbysu'n ysgrifenedig am y wybodaeth ychwanegol a gyhoeddir.7

Cyhoeddi

Rhaid i chi roi copi o'r datganiad i bob Swyddog Canlyniadau Lleol cyn gynted ag y caiff ei gyhoeddi'n lleol.8

Rhaid i chi hefyd anfon copi o'r datganiad i'r Comisiwn Etholiadol. Byddwn yn cadarnhau drwy Fwletin lle y dylid anfon y datganiad.9

Dylech roi prosesau gwirio cadarn ar waith er mwyn sicrhau nad oes unrhyw wallau yn y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am brosesau prawfddarllen yn ein canllawiau sicrwydd ansawdd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Ebrill 2024