| Argraffu'r canllawiau llawn

Beth yw gwaith asiant cyfrif?

Mae gan asiantiaid cyfrif nifer o rolau pwysig i'w chwarae yn y cyfrif:

  • maent yn arsylwi’r broses gyfrif ac yn gwneud yn siŵr ei bod yn gywir
  • gallant dynnu sylw staff y cyfrif at unrhyw bapurau pleidleisio amheus
  • os ydynt yn anghytuno â phenderfyniad i wrthod papur pleidleisio, gallant ofyn i’r papur pleidleisio gael ei farcio gyda’r geiriau 'gwrthwynebwyd y gwrthodiad' a/neu 'rejection objected to'
  • os caiff cyfrif ei wahardd dros dro am unrhyw reswm neu os oes toriad yn y broses, gall asiantiaid cyfrif ychwanegu eu seliau pan fydd y blychau pleidleisio a'r amlenni'n cael eu selio.

Gall asiant etholiad rhestr plaid, ymgeisydd unigol a’i asiant wneud unrhyw beth y mae gan asiant cyfrif yr hawl i’w wneud.1

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Mawrth 2026