Yn Gymraeg a Saesneg, bydd y Swyddog Canlyniadau yn:1
cyhoeddi'r ymgeiswyr unigol a’r pleidiau gwleidyddol cofrestredig sydd wedi cael sedd
cyhoeddi enwau’r ymgeiswyr rhestr plaid a fydd yn llenwi’r seddi
datgan y rhestr plaid a’r ymgeiswyr unigol sydd wedi eu hethol
Gall y Swyddog Canlyniadau ddefnyddio enwau cyffredin wrth ddatgan y canlyniad, pan mae datganiad o bleidiau a phobl a enwebwyd yn dangos bod ymgeisydd yn defnyddio enw cyffredin.2
Bydd y Swyddog Canlyniadau hefyd yn cyhoeddi hysbysiad yn datgan:3
enw unrhyw ymgeisydd rhestr plaid a etholwyd ynghyd ag enw’r blaid wleidyddol
enw unrhyw ymgeisydd unigol
cyfanswm nifer y pleidleisiau a roddwyd i bob plaid wleidyddol a phob ymgeisydd unigol
nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd
Efallai y bydd y Swyddog Canlyniadau yn defnyddio enwau cyffredin wrth gyhoeddi’r canlyniad pan fod datganiad o bleidiau a phobl a enwebwyd yn dangos bod ymgeisydd yn defnyddio enw cyffredin.4
Efallai y bydd y Swyddog Canlyniadau yn caniatáu i ymgeiswyr wneud areithiau ar ôl datgan y canlyniad. Gwiriwch y trefniadau gyda’ch Swyddog Canlyniadau. Dylech sicrhau eich bod chi a’ch cefnogwyr yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Swyddog Canlyniadau ynghylch y safonau ymddygiad sy’n ofynnol yn ystod cyhoeddiadau llafar.
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd ar ôl cyhoeddi’r canlyniad, gweler ein canllawiau ar yr hyn sy’n digwydd ar ôl yr etholiad.