Rhaid i chi gyfeirio’r amlen sy’n mynd allan at yr etholwr i’r cyfeiriad y mae wedi gofyn i chi anfon ei bapurau pleidleisio iddo ac sy’n cael ei ddangos ar y rhestr pleidleiswyr drwy’r post neu’r rhestr o bleidleiswyr drwy ddirprwy drwy’r post.1
Er mwyn cadw cyfrinachedd y bleidlais, rhaid i chi ddarparu dwy amlen ar wahân ar gyfer dychwelyd y papur pleidleisio a'r datganiad pleidleisio drwy'r post:2
Amlen ‘A’ – dyma'r amlen i ddychwelyd y papur pleidleisio, mae angen nodi’r llythyren ‘A’ arni, y geiriau ‘amlen papur pleidleisio’ a ‘ballot paper envelope’ a rhif y papur pleidleisio.
Amlen ‘B’ – dyma’r brif amlen i ddychwelyd amlen y papur pleidleisio (amlen ‘A’) a’r datganiad pleidleisio drwy’r post; mae angen ei marcio gyda’r llythyren ‘B’ a’r cyfeiriad dychwelyd.
Amlenni i etholwyr dienw
Pryd bynnag y byddwch yn cyfathrebu ag etholwr dienw, mae’n ofynnol i chi anfon y cyfathrebiad mewn amlen neu fath arall o orchudd mewn ffordd nad yw’n datgelu i unrhyw berson arall bod gan y pleidleisiwr gofnod dienw.
Felly, dylid anfon pecynnau pleidleisio drwy’r post at etholwyr sydd wedi’u cofrestru’n ddienw mewn amlen sy'n mynd allan blaen. Dylai’r amlen gynnwys ei enw a’i gyfeiriad gohebu, ond ni ddylai gynnwys ei rif etholwr na chyfeirio mewn unrhyw ffordd at yr etholiad neu’r gofrestr etholiadol.3
Costau postio
Oni bai eich bod yn danfon pleidleisiau drwy’r post â llaw, mae’n rhaid i chi ragdalu cost bostio'r amlen ddanfon sydd wedi’i chyfeirio at y pleidleisiwr post.4
Mae’n rhaid i chi hefyd ragdalu costau postio ar bob amlen ddychwelyd, ac eithrio pan mae pleidleisiau drwy’r post wedi'u hanfon i gyfeiriad sydd y tu allan i’r DU.5
Serch hynny, dylech drafod gyda’r Post Brenhinol a’ch argraffydd beth allwch ei wneud i hwyluso dychweliad prydlon pecynnau pleidlais bost sydd wedi’u llenwi ac yn dod o du allan i’r DU, gan gynnwys y posibilrwydd o gynnwys cost bostio wedi’i rhagdalu sy'n briodol ar gyfer eitemau a ddychwelir o dramor.
Gallech benderfynu ar ddefnyddio dyluniad amlen gwahanol i bleidleisiau drwy’r post a anfonir i gyfeiriad sydd y tu allan i’r DU. Er enghraifft, gallech ychwanegu fflach o liw gwahanol. Gallai hyn hwyluso’r gwaith o ddidoli, adnabod a blaenoriaethu pleidleisiau drwy’r post o dramor yn fwy effeithlon.