Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau sy’n gweinyddu etholiad y Senedd
Papur pleidleisio drwy’r post, datganiad pleidleisio drwy’r post, a chyfarwyddiadau ychwanegol i bleidleiswyr
Papur pleidleisio drwy'r post
Rhagnodir ffurf y papur pleidleisio mewn deddfwriaeth a rhaid i chi ddilyn hyn yn union.1
Gall y Bwrdd Rheoli Etholiadol ddatgan neu argymell lliw ar gyfer y papur pleidleisio.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar ddylunio papurau pleidleisio.
Datganiad pleidleisio drwy’r post
Mae’r datganiad pleidleisio drwy’r post wedi’i nodi yn y ddeddfwriaeth a rhaid ei gynhyrchu ar y ffurf ragnodedig.2 Rhaid i’r datganiad pleidleisio drwy’r post gynnwys:
- enw’r etholwr (oni bai ei fod yn etholwr dienw)
- enw’r pleidleisiwr (lle mae hwn yn wahanol i enw’r etholwr oherwydd mae’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy)
- rhif y papur pleidleisio sy’n cael ei ddarparu gyda’r datganiad.
Rhaid i chi gyflwyno gwahanol ffurfiau o’r datganiad pleidleisio drwy’r post ar gyfer etholwyr dienw ac ar gyfer y rheiny sydd wedi cael caniatâd i hepgor.3 Ni ddylai’r datganiad pleidleisio drwy’r post ar gyfer etholwyr dienw ddangos enw'r etholwr.4
Pan fydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol wedi rhoi hepgoriad i etholwr, mae’n rhaid i chi hepgor y blwch llofnodi ac unrhyw gyfeiriad at lofnodi’r ffurflen yn y cyfarwyddiadau i bleidleiswyr.5
Dylech hefyd ddylunio a phrofi datganiadau’r bleidlais bost i sicrhau bod y meysydd llofnodi a dyddiad geni yn y lle cywir ac yn y fformat cywir i allu cael eu prosesu pan gânt eu dychwelyd gan eich system gwirio dynodydd personol.
Cyfarwyddiadau ychwanegol i bleidleiswyr
Yn ogystal â chynnwys rhagnodedig y pecyn pleidlais bost fel yr uchod, dylech ystyried darparu cyfarwyddiadau ychwanegol, mwy penodol – er enghraifft, cyfarwyddiadau graffigol i bleidleiswyr i’w helpu i lenwi’r datganiad a’r papur(au) pleidleisio a dychwelyd eu deunydd pleidleisio drwy’r post yn yr amlenni cywir.
Rhaid i chi ddarparu gwybodaeth fel sy’n briodol i bleidleiswyr post ynghylch sut i gael cyfarwyddiadau mewn fformatau amgen, e.e. ieithoedd eraill, braille, a sain.6
Fel rhan o’r cyfarwyddiadau hyn, dylech gynnwys gwybodaeth sy’n egluro natur bersonol y bleidlais, gan nodi ei bod yn gyfrinachol ac y byddai unrhyw un sy’n ymyrryd â’r pleidleisiwr wrth iddo farcio ei bleidlais yn cyflawni trosedd. Dylech hefyd gynnwys gwybodaeth am sut i adrodd am unrhyw bryderon neu achosion tybiedig o dwyll etholiadol.
- 1. Atodlen 10, Ffurf 14, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 2, paragraff 3, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 10, ffurflen 3, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 10, ffurflen 3, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 10, ffurflen 3, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 5, rheol 32, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6