ID Pleidleisiwr
Ar 7 Mai 2026, cynhelir etholiadau Senedd Cymru. Nid oes angen ID pleidleisiwr arnoch i bleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru mewn gorsaf bleidleisio.
Gofyniad ID Pleidleisiwr
Mae angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau.
Mae hyn yn berthnasol i:
- Etholiadau seneddol y DU, gan gynnwys etholiadau cyffredinol, is-etholiadau a deisebau adalw
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Dysgwch ragor am fathau o ID ffotograffig a dderbynnir, sut i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr am ddim a’r hyn i’w ddisgwyl ar y diwrnod pleidleisio.
Ni fydd yn rhaid i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn etholiadau’r Senedd neu mewn etholiadau cynghorau lleol.