Dadansoddi perfformiad 2021/22: Nod tri
Nod tri
Bod yn ganolfan arbenigedd annibynnol uchel ei pharch, gan ddefnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth i wella tryloywder, tegwch ac effeithlonrwydd ein system ddemocrataidd ymhellach, a helpu i'w haddasu i'r oes fodern, ddigidol.
Mae'r maes gwaith hwn yn canolbwyntio ar arloesi ac atgyfnerthu ein sail dystiolaeth. Mae ein harbenigedd ym meysydd polisi, ymchwil a chyfathrebu yn rhan greiddiol o'r gwaith hwn.
Cyflawniadau allweddol
Er mwyn rhannu ein cyngor annibynnol ac arbenigol ar ein system ddemocrataidd, gwnaethom y canlynol:
- rhannu ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd i helpu pobl i ddeall technegau hysbysebu ar-lein, ar y cyd â phartneriaid rheoleiddio
- cyhoeddi ein harolwg blynyddol o farn y cyhoedd, a ganfu fod hyder y cyhoedd yn y ffordd y caiff etholiadau eu cynnal ar y lefel uchaf erioed
- darparu dadansoddiad manwl o Fil Etholiadau Llywodraeth y DU, gan gynnwys adborth i Swyddfa'r Cabinet, sesiynau briffio i seneddwyr, tystiolaeth ar lafar i bwyllgorau seneddol, cyfarfodydd â'r Gweinidog a chynnwys ar gyfer ein gwefan
- darparu dadansoddiad i seneddwyr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar effaith mesurau yn y Bil Etholiadau, a sesiynau briffio i lywodraethau Cymru a'r Alban, yn enwedig mewn perthynas â'u proses i ystyried ceisiadau am gydsyniad deddfwriaethol
- ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar reolau etholiadol ar gyfer etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022, a rhannu syniadau a chynlluniau gwerthuso ar gyfer y cynlluniau peilot maent yn bwriadu eu cynnal
- ehangu ein gwaith ymgysylltu ag addysgwyr a chyhoeddi rhagor o adnoddau dysgu i bobl ifanc, a'r rhai sy'n gweithio gyda nhw, er mwyn hyrwyddo llythrennedd gwleidyddol a dealltwriaeth o brosesau democrataidd
- rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Senedd y DU ar ein gwaith, a chyhoeddi ein safbwyntiau am ganfyddiadau adroddiad y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus ar gyllid gwleidyddol
- cyhoeddi canfyddiadau ymchwil ansoddol i foderneiddio etholiadau, gan ystyried agweddau'r cyhoedd at bleidleisio a'r wybodaeth sydd ar gael mewn perthynas ag etholiadau
Mesurau perfformiad
| Mesur | Perfformiad |
|---|---|
| Rydym yn cyhoeddi 100% o'n hadroddiadau o fewn terfynau amser arfaethedig | 100 % Cyflawnwyd |
| Rydym yn rhoi sylwadau ar 100% o'r cynigion polisi a deddfwriaethol perthnasol | 100 % Cyflawnwyd |
| Gweithio o blaid yr argymhellion ynghylch diwygio cyfraith etholiadol gan Gomisiynau Cyfraith Cymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon | Yn mynd rhagddo |
Ein gweithgareddau yn ystod y flwyddyn
Rhoi cyngor annibynnol ac arbenigol
Gwnaethom gyhoeddi tri adroddiad am etholiadau mis Mai 2021, sef y gyfres fwyaf cymhleth o etholiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda'r heriau ychwanegol a gyflwynwyd gan bandemig y coronafeirws. Gwnaethom ganfod bod y newidiadau a roddwyd ar waith gan lywodraethau'r DU, gweinyddwyr etholiadau a gennym ni helpu i gefnogi pleidleiswyr ac ymgyrchwyr a rhoi tawelwch meddwl iddynt. Disgrifiodd ein hadroddiadau y pryderon parhaus ynghylch gwydnwch a chapasiti timau gwasanaethau etholiadol lleol ledled Prydain Fawr. Mewn ymateb, gwnaethom dynnu sylw at ein cynlluniau i weithio mewn partneriaeth â'r gymuned etholiadol, gan gynnwys y Llywodraeth ac awdurdodau lleol, er mwyn helpu i feithrin mwy o wydnwch ar gyfer y dyfodol.
Mae Bil Etholiadau Llywodraeth y DU wedi bod yn ganolbwynt pwysig i'n gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn ogystal â gweithio'n agos i gefnogi swyddogion i ddatblygu'r ddeddfwriaeth, gwnaethom roi tystiolaeth i'r Cyd-bwyllgor Hawliau Dynol, y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol a'r Pwyllgor Biliau Cyhoeddus, ar y Bil yn ei gyfanrwydd neu ar agweddau penodol. Gwnaethom hefyd ddarparu sesiynau briffio i seneddwyr ledled Prydain Fawr am ystyriaethau allweddol ac effeithiau posibl, gan gynnwys cyn dadleuon seneddol allweddol.
Rhoddwyd tystiolaeth i Bwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Senedd y DU ar ein gwaith, a chafodd cymheiriaid dethol eu briffio cyn Ail Ddarlleniad Bil Diddymu a Galw'r Senedd yn Nhŷ'r Arglwyddi.
Cyhoeddwyd canfyddiadau o astudiaeth ymchwil newydd yn ystyried anghenion a disgwyliadau'r cyhoedd mewn perthynas â'r broses bleidleisio a'r wybodaeth y maent yn ei chael am bleidleisio. Mae'r ymchwil hon yn rhan o brosiect ehangach sy'n ystyried dyfodol pleidleisio, a byddwn yn ei defnyddio i ddatblygu argymhellion i lywodraethau'r DU am sut y gall y system etholiadol barhau i gefnogi pobl i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.
Gwnaethom barhau i ehangu ein gwaith ymgysylltu ag addysgwyr er mwyn hyrwyddo llythrennedd gwleidyddol a dealltwriaeth o brosesau democrataidd, gan gyhoeddi rhagor o adnoddau dysgu i bobl ifanc a'r rhai sy'n gweithio gyda nhw. Roedd hyn yn cynnwys gweithgareddau yn ystod cyfnodau cofrestru, cynlluniau gwersi a gweithgareddau ar gyfer y gwasanaeth, i'w defnyddio mewn ysgolion uwchradd ym Mhrydain Fawr.
Gwnaethom barhau i ddatblygu ymarferoldeb a chynnwys ein gwefan, gan ddefnyddio dadansoddeg ac adborth o brofion defnyddwyr. Gwnaethom ddarparu cyfleuster chwilio newydd ar ein gwefan ac ailstrwythuro cynnwys canllawiau at ddefnydd gweinyddwyr etholiadau, pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr.