Nod ein Cynllun Corfforaethol yw creu manteision i’r cyhoedd, gwasanaethau etholiadol lleol, ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr, seneddau a llywodraethau. Ein nod yw sicrhau manteision penodol i bob un o’n pum blaenoriaeth strategol. 

Byddwn yn sbarduno gwelliannau parhaus yn ein gweithdrefnau a’n galluoedd, a byddwn yn mesur pa mor dda rydym yn gwireddu’r manteision hyn gan ddefnyddio cymysgedd o ddangosyddion meintiol ac ansoddol allweddol. Mae’r dangosyddion hyn yn Atodiad B (Tabl 2) wedi cael eu rhannu’n ddau grŵp penodol: dangosyddion system a dangosyddion perfformiad.

Dangosyddion system allweddol

Mae ein dangosyddion system allweddol yn darparu asesiad o iechyd y system etholiadol ehangach. Maent yn ddangosyddion eang, nad ydynt o fewn ein rheolaeth yn llwyr, a lle yr ydym yn gweithio gyda llawer o bartneriaid. Fodd bynnag, mae’r gweithgareddau a nodir yn y Cynllun Corfforaethol hwn wedi’u dylunio i helpu i fynd i’r afael â’r heriau a amlygwyd, boed hynny’n hyder y cyhoedd mewn etholiadau yn y DU a’u hymgysylltiad â hwy, neu fygwth ymgeiswyr etholiadol. Ein nod yw gweithio gyda’r ystod eang o randdeiliaid a fydd yn dylanwadu ar y dangosyddion hyn ac felly rydym yn disgwyl gweld tuedd gadarnhaol dros amser. Mae’r rhanddeiliaid hyn yn cynnwys llywodraethau’r DU, gweinyddwyr etholiadol, sefydliadau cymdeithas sifil, pleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr, rheoleiddwyr eraill, a’r heddlu. 

Er enghraifft, bydd gwella cywirdeb a chyflawnder cofrestrau etholiadol i’r lefelau a nodir yn Atodiad B (Tabl 1) yn gofyn am ymdrechion parhaus a mwy cadarn gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol (ERO) i gysylltu ac annog pobl i gofrestru. Ond bydd 
hefyd yn gofyn i lywodraethau ddatblygu offer newydd i helpu Swyddogion Cofrestru Etholiadol – yn enwedig mathau newydd o gofrestru awtomatig ac integredig sy’n dibynnu ar ffynonellau cadarn o ddata sy’n cael eu dal yn ganolog gan lywodraethau neu asiantaethau ar hyn o bryd.

Rydym wedi cynnig lefelau realistig – ond uchelgeisiol – y dylai’r system gyfan anelu at eu cyrraedd dros oes pum mlynedd y Cynllun Corfforaethol hwn (hyd at 2029/30). Byddwn yn casglu data ar gyfer Prydain Fawr, Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ôl yr angen, a byddwn yn diweddaru Pwyllgor y Llefarydd ar y Comisiwn Etholiadol, Senedd yr Alban a’r Senedd bob blwyddyn ar y cynnydd. Mae ein dangosyddion system allweddol wedi’u cynnwys yn Atodiad B (Tabl 1).

Dangosyddion perfformiad allweddol

Ein dangosyddion perfformiad allweddol yw ein safonau gwasanaeth, sy’n mesur y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau i’r cyhoedd, gwasanaethau etholiadol lleol, 
ymgeiswyr, ymgyrchwyr, pleidiau gwleidyddol, seneddau a llywodraethau. Rydym yn defnyddio cymysgedd o fetrigau meintiol ( mesuradwy a phenodol) ac ansoddol (sy’n dangos cynnydd neu welliant).

Bydd y dangosyddion hyn yn ein galluogi i gadw golwg ar ein perfformiad o ran cyflawni’r buddion a amlinellir yn ein blaenoriaethau strategol o flwyddyn i flwyddyn. Gan ddilyn arferion gorau ac adeiladu ar sail ein profiad, rydym wedi gosod targedau penodol ar gyfer blwyddyn gyntaf y cynllun hwn (2025/26). Am y tro cyntaf, rydyn ni hefyd yn gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer y bumed flwyddyn a fydd yn adlewyrchu effaith cyflawni’r Cynllun Corfforaethol hwn dros ei gyfnod o bum mlynedd. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Bwyllgor y Llefarydd ar y Comisiwn Etholiadol, Senedd yr Alban a’r Senedd yn flynyddol ar gynnydd. Mae ein dangosyddion perfformiad wedi’u cynnwys yn Atodiad B (Tabl 2).

Mesurau rhaglenni a phrosiectau 

Yn ogystal â’r ddau grŵp o ddangosyddion, bydd gennym hefyd fesurau ar gyfer rhaglenni a phrosiectau. Bydd ein Bwrdd Sicrwydd Portffolio (PAB) yn cymeradwyo’r buddion ariannol a/neu anariannol y mae pob prosiect a rhaglen wedi’u cynllunio i’w cyflawni a’r cerrig milltir ar gyfer cyflawni. Bydd y rhain yn cael eu holrhain yn fisol a’u trafod bob chwarter gyda Phwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Bwrdd y Comisiwn.

Sut byddwn ni’n monitro ac yn asesu ein dangosyddion 

Byddwn yn monitro ac yn asesu ein dangosyddion ar gyfer pob ardal o’r DU – Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon – i ystyried datganoli a’n hatebolrwydd i seneddau gwahanol. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bob senedd am y tueddiadau bob blwyddyn.
 

Atodiad A – Dadansoddiad cost

Ffigur 1: Dadansoddiad o gostau prosiect y Cynllun Corfforaethol yn ôl Blaenoriaeth Strategol

 Blynyddoedd Ariannol
Blaenoriaethau
Strategol
25/26 £m26/27 £m27/28 £m28/29 £m29/30 £mTotal £m
S11.62.42.42.12.110.5
S10.70.90.90.80.84.2
S31.00.50.60.60.53.3
S40.81.11.01.11.15.0
S50.42.41.20.70.75.5
Costau 
Cymorth y 
Comisiwn
2.03.43.13.23.014.6
Cyfanswm6.510.79.28.48.243.0

Ffigwr 2: Cyfanswm pum mlynedd y Cynllun Corfforaethol yn ôl y senedd gyllido

Ffigur 3: Cyfanswm costau’r Comisiwn Etholiadol ar gyfer y pum mlynedd nesaf

Rhagdybiaethau ariannol

Chwyddiant: Cynnydd o 2.5% mewn cyflogau yn 2025/26 (yn seiliedig ar darged CPIH); cynnydd nad yw’n ymwneud â chyflogau o 3.5% RPI yn 2025/26. Nid oes unrhyw ragdybiaethau mewn perthynas â chwyddiant wedi cael eu cymhwyso o 2026/27, o ystyried lefelau uchel o ansicrwydd cynhenid o ran rhagamcanu.

Adolygiad cyflogau: IGweithredu’r cynnydd yn yr adolygiad cyflogau yn 2025/26, gyda thâl perfformiad yn cael ei weithredu o 2026/27.

Costau craidd: Dim newidiadau mewn gweithgareddau llinell sylfaen a nifer y staff ar ôl 2025/26. Mae gweithgarwch newid a nifer y staff cysylltiedig yn cael eu hadlewyrchu yng nghostau cyffredinol y prosiect. Mae’r cynnydd mewn costau yn adlewyrchu chwyddiant yn 2025/26, ac effaith yr adolygiad cyflogau (fel uchod). 

Costau digwyddiadau: Mae’r costau’n amrywio yn dibynnu ar yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer etholiadau (a refferenda o bosibl) ym mhob blwyddyn. Mae’r cynnydd mewn blynyddoedd diweddarach yn gysylltiedig yn bennaf â’r tybiaethau o ran amseriad etholiad cyffredinol nesaf Senedd y DU.

Gwariant cyfalaf: Tybir y bydd yn aros yn weddol sefydlog dros y cyfnod. 

Buddion: Ar hyn o bryd nid yw’r ffigurau’n cynnwys y buddion ariannol posibl sy’n gysylltiedig â phrosiectau’r Cynllun Corfforaethol. Bydd y buddion ariannol a ragwelir yn cael eu hadlewyrchu mewn rowndiau cyllido blynyddol yn y dyfodol.

Wrth gefn: Mae £1.1m o arian wrth gefn yn cael ei gynnwys ar gyfer costau Craidd a Digwyddiadau bob blwyddyn i dalu am gostau ychwanegol, gan gynnwys unrhyw isetholiadau ychwanegol a digwyddiadau annisgwyl eraill. 

Atodiad B – Dangosyddion allweddol ar gyfer Cynllun Corfforaethol 2025/26 – 2029/30

Tabl 1: Dangosyddion systemau allweddol

 Teitl a disgrifiad2024 data2025 dataDyhead 
pum
mlynedd
Rhanddeiliaid
1Bodlonrwydd â’r system o gofrestru i bleidleisio (Y DU)82%86%90%Swyddogion Cofrestru Etholiadol (EROs), Llywodraethau a seneddau’r DU, Cymdeithas sifil a sefydliadau partner eraill
2Swyddogion Cofrestru Etholiadol (EROs), Llywodraethau a seneddau’r DU, Cymdeithas sifil a sefydliadau partner eraillAMHGB 88% 
(2022)
NI 86% 
(2022)
95% Swyddogion Cofrestru Etholiadol (EROs), Llywodraethau a seneddau’r DU
3Cyflawnder cofrestrau etholiadol (Seneddol) AMHGB 86% 
(2022)
NI 83% 
(2022)
95%Swyddogion Cofrestru Etholiadol (EROs), Llywodraethau a seneddau’r DU, Cymdeithas sifil a sefydliadau partner eraill
4Canfyddiad bod y broses bleidleisio yn hawdd (Y DU)77%82%90%Swyddogion Canlyniadau (RO), Llywodraethau a seneddau’r DU, Cyflenwyr gweinyddu etholiadol, Cymdeithas sifil a sefydliadau partner eraill
5Bodlonrwydd â sut mae democratiaeth yn gweithio yn y DU38%47% 75%Swyddogion Canlyniadau (RO), Seneddau a llywodraethau’r DU, Pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr di-blaid
6Y nifer a bleidleisiodd mewn etholiadaua drefnwyd (o’i gymharu ag etholiad blaenorol cyfatebol)AMH60% 
(2024 
UKPGE)
70% 
(UKPGE)
Swyddogion Canlyniadau (RO), Seneddau a llywodraethau’r DU, Pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr di-blaid Cymdeithas sifil a sefydliadau partner eraill
7Hyder bod etholiadau’n cael eu cynnal yn dda (Y DU)73%79%90%Swyddogion Canlyniadau (RO), Llywodraethau a seneddau’r DU, 
Cyflenwyr gweinyddu etholiado
8Canfyddiad bod pleidleisio 
yn gyfrinachol (Y DU)
73%75%90%Swyddogion Canlyniadau (RO), Seneddau a llywodraethau’r DU
9Canfyddiad bod pleidleisio yn ddiogel (Y DU)67%71%90%Swyddogion Canlyniadau (RO), Seneddau a llywodraethau’r DU
10Canfyddiad bod pleidleisio’n gyffredinol yn ddiogel rhag twyll a cham-drin (Y DU)83%85%90%Swyddogion Canlyniadau (RO), Seneddau a llywodraethau’r DU, 
Heddluoedd ac awdurdodau erlyn
11Ymgeiswyr sy’n dweud na chawsant unrhyw broblem gydag aflonyddu, cam-drin neu fygwthAMH44% 
(2024 
UKPGE)
90%Swyddogion Canlyniadau (RO), Llywodraethau a seneddau’r DU, Pleidiau gwleidyddol, Heddluoedd ac awdurdodau erlyn
12Cytundeb bod pleidleisiau’n cael 
eu cyfrif yn gywir mewn etholiadau yn y DU
75%77%90%Swyddogion Canlyniadau (RO), Llywodraethau a seneddau’r DU, Cyflenwyr gweinyddu etholiadol
13Canfyddiad y bydd camau priodol yn cael eu cymryd gan yr awdurdodau os canfyddir bod plaid wleidyddol neu ymgyrchydd yn torri’r gyfraith ar gyllid ymgyrchu (DU)36%40%75%Swyddogion Canlyniadau (RO), Seneddau a llywodraethau’r DU, Pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr di-blaid, Heddluoedd ac awdurdodau erlyn
14Cytundeb bod gwariant a chyllid pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr a sefydliadau ymgyrchu eraill yn 
agored ac yn dryloyw (Y DU)
15%18%75%Swyddogion Canlyniadau (RO), Seneddau a llywodraethau’r DU, Pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr di-blaid, Heddluoedd ac awdurdodau erlyn 
15Canfyddiad bod camwybodaeth/
twyllwybodaeth wleidyddol yn broblem 
70%69%25%Swyddogion Cofrestru Etholiadol (EROs) a Swyddogion Canlyniadau (ROs), Llywodraethau a seneddau’r DU, Pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr di-blaid, Heddluoedd ac awdurdodau erlyn, Llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a chwmnïau digidol, Cymdeithas sifil a sefydliadau partner a rheoleiddwyr eraill

Tabl 2: Dangosyddion perfformiad allweddol (safonau gwasanaeth) 

 Teitl a disgrifiadTargedDyhead pum 
mlynedd
1

Ymateb i ymholiadau cyhoeddus dros y ffôn, drwy lythyr ac e-bost o fewn dau ddiwrnod 
gwaith (Y DU)

Casglwyd ac adroddwyd ar wahân ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Phrydain 
Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban)

98%98%
2Ymateb i gwynion dilys o fewn 20 diwrnod gwaith90%95%
3

Ymwybyddiaeth o’r gofyniad ynghylch dulliau adnabod pleidleiswyr – canran yr ymatebwyr a oedd yn gwybod bod angen iddynt ddod â dull adnabod i bleidleisio. Data a gasglwyd ar gyfer pob etholiad a refferendwm mawr, sy’n amrywio o flwyddyn i flwyddyn 

Casglwyd ac adroddwyd ar wahân ar gyfer gwledydd ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban)

90%90%
4

Boddhad Gweinyddwr Etholiadol (GB) – Boddhad Swyddogion Canlyniadau (RO) a Swyddogion Cofrestru Etholiadol (ERO) â’n canllawiau

Casglwyd ac adroddwyd ar wahân ar gyfer gwledydd ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban)

95%98%
5Rydym yn cyhoeddi adroddiadau am roddion/benthyciadau a datganiadau o gyfrifon 
a dderbynnir o fewn terfynau amser statudol (30 a 60 diwrnod gwaith yn y drefn honno)
100%100%
6

Prydlondeb cyngor i bleidiau ac ymgyrchwyr, ymgeiswyr ac asiantau ar faterion rheoleiddio. 
Arferol: o fewn tri diwrnod gwaith; Cymhlethdod canolig: o fewn pum diwrnod gwaith. Dau 
fis cyn ac ar ôl etholiad: o fewn dau ddiwrnod gwaith.

Casglwyd ac adroddwyd ar wahân ar gyfer Cymru, 
Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban)

90%95%
7Cynnydd amserol a chwblhau ymchwiliadau, yn dibynnu ar y categori. Categori 1 
(Syml): o fewn 90 diwrnod; Categori 2 (mwy cymhleth): o fewn 180 diwrnod; Categori 3 
(hynod gymhleth): 365 diwrnod fel arfer, gydag eithriadau lle mae asiantaethau gorfodi 
allanol yn gysylltiedig.
100%100%
8Cyflwyno penderfyniadau ynghylch sancsiynau cychwynnol a hysbysiadau terfynol yn brydlon (yn dilyn y cyfnod sylwadau) o fewn 28 diwrnod calendr90%95%
9Ymateb i ymholiadau gan un pwynt cyswllt (SPOC) yr heddlu o fewn terfynau amser penodol, yn dibynnu ar y categori. Categori 1: o fewn tri diwrnod gwaith; Categori 2: o fewn pum diwrnod gwaith; Categori 3: o fewn 10 diwrnod gwaith90%95%
10

Cyhoeddi adroddiadau etholiadol/ refferendwm o fewn chwe mis i’r diwrnod pleidleisio neu’r terfyn amser olaf ar gyfer cyflwyno ffurflenni gwariant

Casglwyd ac adroddwyd ar wahân ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

100%100%
11Rydym yn ymateb i bob cynnig polisi, ymgynghoriad deddfwriaethol ac ymchwiliad seneddol, neu’n rhoi sylwadau arnynt, o fewn y terfyn amser y gofynnwyd amdano100%100%
12

Ymateb i ohebiaeth a chwestiynau seneddol gan gynrychiolwyr etholedig (gan gynnwys ASau, ASAau, ACDau, ASau (Cymru), Meiri a Chynghorwyr) o fewn 10 diwrnod gwaith

Casglwyd ac adroddwyd ar wahân ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban 

100%100%
13Bodlonrwydd ymysg aelodau cyrff goruchwylio seneddol, gweinidogion allweddol a llefarwyr yr wrthblaid yr ydym yn darparu cymorth ar faterion cyhoeddus iddynt70%80%
14Bydd yr holl staff sy’n gweithio ar sgrinio cydraddoldeb neu Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn cael hyfforddiant i asesu unrhyw effaith ar gyfle cyfartal a/neu gysylltiadau da 100%100%
15Mae ein datganiadau ariannol yn yr Adroddiad a’r Cyfrifon Blynyddol (AR&A) yn cael barn archwilio ddiamod gan y Rheolwr ac Archwilydd CyffredinolDiamodDiamod
16Cyflwyno’r Adroddiad a’r Cyfrifon Blynyddol (AR&A) yn brydlon ym mhob un o’r tair senedd cyn toriad yr hafCyn toriad 
yr haf
Cyn toriad 
yr haf
17Talu anfonebau’n brydlon – anfonebau dilys diamheuol wedi’u talu o fewn 10 diwrnod gwaith90%95%
18Ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth (FOI) o fewn 20 diwrnod gwaith statudol neu estyniad y cytunwyd arno90%95%
19Sgôr ymgysylltu â staff70%75%