Pwyllgor y Llefarydd
About the Speaker's Committee
Pwyllgor yn Nhŷ'r Cyffredin yw Pwyllgor y Llefarydd, sy'n cynnwys Aelodau Seneddol (ASau).
Mae'n ystyried yr hyn a wnawn, ac yn gwneud argymhellion a phenderfyniadau am rai o'n meysydd gwaith.
Dewis ein comisiynwyr
Mae Pwyllgor y Llefarydd yn ymwneud â gwaith dewis ein comisiynwyr.
Mae'n ystyried yr ymgeiswyr ac yn gwneud argymhellion i Dŷ'r Cyffredin.
Ceir rhagor o wybodaeth am y ffordd rydym yn dewis ein comisiynwyr fan hyn.
Cymeradwyo ein cynlluniau a'n cyllidebau
Ar ôl ethol Senedd y DU newydd, byddwn yn cyflwyno cynllun corfforaethol pum mlynedd i Bwyllgor y Llefarydd i'w gymeradwyo. Unwaith y byddant yn cytuno arno, caiff ei osod gerbron Senedd y DU.
Rydym yn cyflwyno cyllideb flynyddol a chynllun corfforaethol i Bwyllgor y Llefarydd ar gyfer pob blwyddyn y cynllun corfforaethol. Mae hyn yn cynnwys amcangyfrif o'n hincwm a'n gwariant ar gyfer y flwyddyn.
Bydd Pwyllgor y Llefarydd yn bwrw golwg dros y dogfennau hyn ac yn gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol cyn eu cyflwyno i Dŷ'r Cyffredin i'w cymeradwyo.
Ein AS
Bydd y Llefarydd yn enwebu AS i ateb cwestiynau gan ASau eraill am ein gwaith.
Rhagor o wybodaeth am Bwyllgor y Llefarydd
Rhagor o wybodaeth: