Y Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol
Rhan 1: Gweledigaeth, dull gweithredu, egwyddorion ac atebolrwydd
Y Comisiwn
Mae'r Comisiwn (neu’r Comisiwn Etholiadol) yn gorff corfforaethol annibynnol, a sefydlwyd gan Senedd y Deyrnas Unedig dan ddarpariaethau Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (y Ddeddf), a ddiwygiwyd gan ddeddfwriaeth ddilynol. Mae gan y Comisiwn1 y swyddogaethau statudol a roddwyd iddo gan y ddeddfwriaeth honno a deddfwriaethau eraill (ceir crynodeb o'r ddeddfwriaeth berthnasol yn Atodiad B y ddogfen hon).
Mae'r Comisiwn yn atebol i Senedd y DU, ac yn benodol i Bwyllgor Llefarydd Tŷ'r Cyffredin sy'n cael ei benodi yn unol â darpariaethau'r Ddeddf. Disgrifir rôl Pwyllgor y Llefarydd a'i berthynas â'r Comisiwn yn Atodiad B. Mae'r Comisiwn hefyd yn atebol yn uniongyrchol i’r Senedd a Senedd yr Alban o ran ymarfer ei swyddogaethau datganoledig yng Nghymru ac yn yr Alban.
Ceir dyletswyddau'r Comisiwn fel y'u diffinnir mewn statud yn Rhan 4, sydd hefyd yn disgrifio pa bwerau sydd wedi’u dirprwyo gan y Bwrdd i is-bwyllgorau'r Bwrdd neu i'r Prif Weithredwr. Mae'r canlynol yn grynodeb o brif weithgareddau'r Comisiwn:
- cofrestru pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr eraill mewn etholiadau a refferenda
- sicrhau bod pobl yn deall ac yn dilyn y rheolau mewn perthynas â chyllid pleidiau ac etholiadau
- cymryd camau gorfodi lle bo hynny'n briodol fel bod pleidiau ac ymgyrchwyr yn gwybod bod angen iddynt gydymffurfio â'r rheolau a gall pleidleiswyr fod yn hyderus eu bod yn cydymffurfio
- cyhoeddi manylion lle mae pleidiau ac ymgeiswyr ac ymgyrchwyr eraill yn cael arian a sut maen nhw'n ei wario
- cefnogi'r gwaith o gyflawni digwyddiadau etholiadol da
- cynnig arweiniad a chyngor amserol a chywir i Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol
- gosod fframweithiau safonau perfformiad a chefnogi Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gyflawni etholiadau da
- cyflawni ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd a hwyluso cefnogaeth eraill ar gyfer yr ymgyrchoedd hynny, fel bod pobl yn cofrestru i bleidleisio ac yn gallu cymryd rhan mewn etholiadau a refferenda
- cynnal unrhyw refferenda yn unol â Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000
Gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw bod yn sefydliad annibynnol o’r radd flaenaf yn y sector cyhoeddus sy'n hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y system etholiadol ac yn sicrhau ei huniondeb – fel bod pobl yn ymddiried ynddi, ac yn gwerthfawrogi ac yn cymryd rhan mewn etholiadau.
Rydym yn bwriadu cyflawni'r weledigaeth hon drwy raglen waith pum mlynedd gyda phum amcan:
Dyma ein hamcanion:
- Cofrestru a phleidleisio hygyrch
- Ymgyrchu gwleidyddol tryloyw a chyllid gwleidyddol sy’n cydymffurfio
- Gwasanaethau etholiadol lleol gwydn
- Cyfraith etholiadol deg ac effeithiol
- System etholiadol fodern a chynaliadwy
Bydd tri ffactor allweddol yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion:
- Rydym yn arddangos annibyniaeth ac uniondeb
- Rydym yn sefydliad medrus lle gwerthfawrogir amrywiaeth
- Rydym yn sefydliad sy’n dysgu lle mae gwelliant yn barhaus a lle defnyddir adnoddau yn effeithiol
Ein Gwerthoedd
Mae ein gweithdrefnau llywodraethu yn anelu bob amser at adlewyrchu ein gwerthoedd – sef cyflawni effaith, ymgysylltu, awdurdodol, annibynnol a thryloyw.
Llywodraethu
O ran ei lywodraethu, bydd y Comisiwn bob amser yn:
- cyflawni'r safonau uchaf o briodoldeb yn ymwneud â didueddrwydd, uniondeb a gwrthrychedd mewn perthynas â stiwardiaeth arian cyhoeddus, rheoli a chynnal busnes y Comisiwn, gan gynnal annibyniaeth y Comisiwn bob amser
- dilyn gweledigaeth y Comisiwn ar gyfer etholiadau rhydd sy'n cefnogi democratiaeth iach
- gwneud y mwyaf o werth am arian drwy sicrhau bod ei waith yn cael ei gyflawni yn y modd mwyaf economaidd, effeithlon ac effeithiol, o ystyried yr adnoddau sydd ar gael
- atebol i'r seneddau am weithgareddau'r Comisiwn a'r graddau y mae targedau ac amcanion perfformiad wedi'u cyflawni
- adlewyrchu ymrwymiadau ehangach y Comisiwn i gyflawni ei waith a'r defnydd o arian ac adnoddau sydd ar gael iddo er budd pleidleiswyr
- ymgynghorol o ran natur, ac yn dryloyw ac yn ymatebol i'r holl randdeiliaid
- sicrhau bod yna system effeithiol o reolaeth fewnol ar waith i alluogi'r Comisiwn i gyflawni ei amcanion corfforaethol
- gweithredu'n gyfreithlon, yn unol â dyletswyddau a chyfrifoldebau statudol y Comisiwn
Bydd y Bwrdd yn adolygu ei drefniadau llywodraethu yn flynyddol i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas at eu diben, yn cefnogi gyda chyflawni gweledigaeth y Comisiwn, ac yn adlewyrchu gwerthoedd ac egwyddorion y Comisiwn.
Atebolrwydd
Mae'r Comisiwn yn dangos ei atebolrwydd i'w randdeiliaid drwy:
- yn ôl yr angen, cyflwyno cynllun pum mlynedd a gofynion amcangyfrifedig ar gyfer adnoddau perthnasol yn ystod y cyfnod pum mlynedd hwnnw i Bwyllgor y Llywydd y Senedd, Pwyllgor y Llefarydd, a Chorff Corfforaethol Senedd yr Alban, a chaiff y ddau ohonynt eu cyhoeddi'n allanol
- cyflwyno cynllun blynyddol a gofynion amcangyfrifedig ar gyfer adnoddau perthnasol yn ystod y cyfnod hwnnw i Bwyllgor Llywydd y Senedd, Pwyllgor y Llefarydd, a Chorff Corfforaethol Senedd yr Alban yn flynyddol
- gosod ei Adroddiad a'i Gyfrifon yn flynyddol gerbron y Senedd, Senedd y DU, a Senedd yr Alban
- penodi'r Prif Weithredwr yn Swyddog Cyfrifyddu
- cynnal archwiliad o’i gyfrifon ac effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ei ddefnydd o adnoddau, gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol
- ymgynghori ar feysydd a rhaglenni gwaith newydd
- proses gwyno glir sy'n cynnwys y gwasanaethau a ddarperir gennym i'n rhanddeiliaid sy'n cynnwys adolygiad annibynnol o gwynion gan yr Ombwdsmon Seneddol
Rhan 2: Bwrdd y Comisiwn a'i Bwyllgorau
Bwrdd y Comisiwn
Gyda'i gilydd mae'r Comisiynwyr yn ffurfio Bwrdd y Comisiwn ac yn sicrhau bod y Comisiwn yn cyflawni ei swyddogaethau fel y nodir yn y Ddeddf a deddfwriaeth gysylltiedig arall. Maent yn gosod y cyfeiriad strategol, yn monitro perfformiad y Comisiwn ac yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn gweithredu o fewn ei gylch gwaith statudol.
Penodir y Cadeirydd a'r Comisiynwyr gan Ei Fawrhydi’r Brenin ar argymhelliad Tŷ'r Cyffredin. Gellir eu hail-benodi am gyfnod pellach ar ôl i'w tymor cychwynnol ddod i ben, penodir Comisiynwyr am gyfnod dim hirach na deng mlynedd. Mae yna naw neu ddeg Comisiynydd.
Caiff Comisiynydd roi'r gorau i'w swydd neu gael ei ddiswyddo yn unol â'r seiliau a nodir yn Atodlen 1, paragraffau 3-5 y Ddeddf. Bydd penodiadau'n dod i ben ar ddiwedd y cyfnod a bennir ar gyfer pob Comisiynydd, oni bai bod y Comisiynydd yn cael ei ail-benodi cyn i'r cyfnod ddod i ben. Gellir terfynu penodiadau ar gais y Comisiynydd hefyd.
Pwyllgorau sy'n adrodd i Fwrdd y Comisiwn
Mae'r Bwrdd wedi sefydlu Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg i'w gefnogi, ac i gefnogi'r Prif Weithredwr fel Swyddog Cyfrifyddu yn ei ch/gyfrifoldebau am sicrhau digonolrwydd rheoli risg, rheolaethau mewnol, defnydd effeithlon ac effeithiol o arian cyhoeddus a threfniadau llywodraethu ariannol o fewn y Comisiwn. Mae hyn yn cynnwys:
- polisïau cyfrifyddu
- adroddiad blynyddol a chyfrifon y Comisiwn Etholiadol, gan gynnwys y broses ar gyfer adolygu'r cyfrifon cyn eu cyflwyno i'w harchwilio; a llythyr cynrychiolaeth y rheolwyr i'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol
- materion sy'n ymwneud â'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol
- digonolrwydd ymateb y rheolwyr i faterion a nodwyd gan weithgarwch archwilio
- treuliau
- cynigion ar gyfer tendro am wasanaethau archwilio, neu ar gyfer prynu gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud ag archwilio gan gontractwyr sy'n darparu gwasanaethau archwilio
Mae'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn cynnwys tri aelod ac yn cyfarfod o leiaf bedair gwaith y flwyddyn. Penodir tri Chomisiynydd gan y Bwrdd i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. Mae'r Bwrdd yn penodi Cynghorydd Annibynnol i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, sef unigolyn annibynnol â chymwysterau priodol nad oes ganddo unrhyw gysylltiad â'r Comisiwn. Mae Bwrdd y Comisiwn hefyd yn penodi Cadeirydd y Pwyllgor.
Ni chaniateir penodi Cadeirydd y Comisiwn yn aelod o'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.
Fel arfer, bydd aelodau'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a'r cynghorydd annibynnol yn gwasanaethu am dair blynedd, oni bai bod aelod yn rhoi'r gorau i fod yn Gomisiynydd neu'n gofyn am gael gadael ei swydd. Gellir eu hail-benodi am gyfnod pellach, fel arfer heb fod yn fwy na thair blynedd.
Bydd cofnodion a phapurau'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ar gael i'r Bwrdd drwy Convene a bydd adroddiad o waith y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn cael ei gyflwyno bob blwyddyn i'r Bwrdd.
Mae cylch gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg wedi'u hatodi yn Atodiad G.
Mae Pwyllgor Pobl, Diwylliant a Chydnabyddiaeth y Comisiwn yn cynnwys tri Chomisiynydd ac yn cyfarfod o leiaf dair gwaith y flwyddyn. Mae Bwrdd y Comisiwn yn penodi Cadeirydd y Pwyllgor.
Mae'r Pwyllgor Pobl, Diwylliant a Chydnabyddiaeth yn gyfrifol am:
- gymeradwyo newidiadau sylweddol i strwythur y sefydliad a/neu delerau ac amodau cyflogaeth cyffredinol y staff ac unrhyw effaith y newid, megis terfynu contractau
- cymeradwyo newidiadau sylweddol i strwythur y Tîm Gweithredol
- cefnogi'r Cadeirydd i recriwtio'r Prif Weithredwr, gan gynnwys gwneud argymhellion i'r Bwrdd ar gyfansoddiad ac aelodaeth y Panel Penodi
- argymell i'r Bwrdd y fframwaith ar gyfer cydnabyddiaeth y Prif Weithredwr, os yw'n wahanol i'r fframwaith sy'n berthnasol i’r holl staff arall
- cytuno ar gylch gorchwyl trafod blynyddol ar gyfer cyflogau staff (gan gynnwys y Tîm Gweithredol)
- gwneud argymhellion i’r Bwrdd ar gyfansoddiad ac aelodaeth y Panel Penodi ar gyfer y Cynghorydd Annibynnol / Cadeirydd i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
- pennu ffi'r Cynghorydd Annibynnol ar gyfer y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
- Goruchwyliaeth strategol o'r materion mewnol yn y Strategaeth a Chynllun Gweithredu Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae hefyd yn gweithredu fel grŵp cynghori i’r graddau y mae datblygiad sefydliadol a materion Adnoddau Dynol strategol yn cefnogi cyfeiriad strategol y Bwrdd ar gyfer y Comisiwn.
Bydd aelodau o'r Pwyllgor Pobl, Diwylliant a Chydnabyddiaeth yn gwasanaethu am dair blynedd, oni bai bod aelod yn rhoi'r gorau i fod yn Gomisiynydd Etholiadol neu'n gofyn am gael gadael ei swydd. Gellir eu hail-benodi am gyfnod pellach heb fod dim hirach na thair blynedd.
Bydd cofnodion a phapurau'r Pwyllgor Pobl, Diwylliant a Chydnabyddiaeth ar gael i holl aelodau'r Bwrdd drwy Convene, er eu gwybodaeth.
Nodir cylch gorchwyl y Pwyllgor yn Atodiad H.
Digwyddiadau datblygu a strategaeth
Digwyddiadau datblygu a strategaeth
Gall y Comisiynwyr hefyd fynychu digwyddiadau datblygu a strategaeth, y cyfeirir atynt fel 'Diwrnodau Comisiynydd'. Pwrpas digwyddiadau o'r fath fydd rhoi cyfle i Gomisiynwyr fyfyrio'n fanylach ar strategaeth a materion allweddol a datblygu eu harferion gwaith hefyd.
Dan amgylchiadau o'r fath, nid oes gan Gomisiynwyr bwerau dirprwyedig ac nid ydynt yn gweithredu fel corff gwneud penderfyniadau. Caiff aelodaeth, y cylch gorchwyl, a'r trefniadau ar gyfer digwyddiadau o'r fath eu penderfynu gan ein Bwrdd, a chaiff y cynnydd ei fonitro a'i adrodd er gwybodaeth i'r Bwrdd.
Comisiynwyr Cysylltiedig
O bryd i'w gilydd, gall y Bwrdd wahodd Comisiynwyr i fod yn bwynt cyswllt neu Gomisiynydd Cysylltiedig ar gyfer staff ar fater neu brosiect. Dan amgylchiadau o'r fath, nid oes gan Gomisiynwyr bwerau dirprwyedig ac nid ydynt yn gweithredu fel corff gwneud penderfyniadau. Y Bwrdd sy’n penderfynu ar benodiad, cwmpas a bywyd cais o'r fath, ac mae'r cynnydd yn cael ei fonitro a'i adrodd er gwybodaeth y Bwrdd.
Rhan 3: Rolau, cyfrifoldebau a chod ymddygiad ar gyfer Comisiynwyr
Y Cadeirydd
Y Cadeirydd sy’n arwain y Bwrdd. Mae'r Bwrdd yn rheoleiddio ei drafodion ei hun ac wedi cymeradwyo Rheolau Sefydlog at y diben hwnnw (gweler Atodiad A). Mae gan y Cadeirydd gyfrifoldebau penodol ar gyfer y materion canlynol:
- Arweinyddiaeth strategol – arwain datblygiad a gweithrediad Cynllun Corfforaethol y Comisiwn
- Llywodraethu corfforaethol – annog safonau uchel o briodoldeb a hyrwyddo'r defnydd effeithlon ac effeithiol o staff ac adnoddau eraill ar draws y Comisiwn. Mae'r Cadeirydd yn llywyddu cyfarfodydd y Bwrdd ac yn sicrhau bod y rhain yn cael eu cynnal yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn ac yn cael eu cofnodi'n gywir. Bydd y Cadeirydd hefyd yn sicrhau bod effeithiolrwydd y Bwrdd yn cael ei adolygu'n flynyddol yn unol â'r fframwaith hwn
- cyfathrebu allanol – cynrychioli barn y Comisiwn i randdeiliaid allweddol gan gynnwys gweinidogion y llywodraeth, arweinwyr pleidiau gwleidyddol ac uwch-wleidyddion eraill, Cadeiryddion cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill, arweinwyr llywodraeth leol a'r cyfryngau
- cytuno ar amcanion a chynnal arfarniadau blynyddol y Prif Weithredwr, ar ôl ymgynghori â Chomisiynwyr eraill
Mae'r Cadeirydd hefyd yn gyfrifol am:
- arwain y gwaith o adnabod y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen i lenwi swyddi gwag ymhlith y Comisiynwyr, gyda'r bwriad o daro cydbwysedd priodol rhwng arbenigedd ac amrywiaeth; a bod hyn yn cael ei gynrychioli i Bwyllgor y Llefarydd fel rhan o'r broses ar gyfer recriwtio Comisiynwyr newydd
- sicrhau bod Comisiynwyr newydd yn cael eu sefydlu’n llawn, yn ffurfiol ac wedi’i deilwra wrth iddynt ymuno â'r Comisiwn
- asesu perfformiad Comisiynwyr unigol
- ceisio adborth ar berfformiad y Cadeirydd
Yn absenoldeb y Cadeirydd, mae'r Comisiynwyr eraill yn gweithredu fel sy'n angenrheidiol i sicrhau parhad busnes y Comisiwn yn unol â'r gweithdrefnau a amlinellir yn y Rheolau Sefydlog yn Atodiad A y Fframwaith hwn.
Gall Comisiynwyr sydd â phryderon difrifol am ymddygiad neu allu'r Cadeirydd i gyflawni'r rôl, sy'n teimlo nad allant godi hyn gyda'r Cadeirydd, godi eu pryderon gyda'r Cynghorydd Annibynnol i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. Bydd y Cynghorydd Annibynnol i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, ar sail y wybodaeth a gasglwyd, yn penderfynu a ddylid mynd ar drywydd y mater ai peidio. Os ystyrir ei fod yn angenrheidiol, gall gomisiynu ymchwiliad annibynnol.
Cod Ymddygiad ar gyfer Comisiynwyr Etholiadol
Rhaid i Gomisiynwyr weithredu yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad ar gyfer Comisiynwyr Etholiadol, sy'n rhan o'r Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol. Rhaid iddynt lofnodi'r datganiad gan gytuno ag egwyddorion a gweithdrefnau'r Cod Ymddygiad a'i gyflwyno i Ysgrifennydd Bwrdd y Comisiwn. Pan fydd y Cod wedi’i ddiwygio'n sylweddol, gwahoddir Comisiynwyr i lofnodi'r Cod sydd wedi'i ddiweddaru. (Gweler y Cod yn Atodiad J y Fframwaith hwn).
Cyfrifoldebau corfforaethol Comisiynwyr
Mae comisiynwyr yn gweithredu ar y cyd: nid oes ganddynt awdurdod unigol oni bai eu bod mewn rôl benodol (megis Cadeirydd Pwyllgor) neu os eu penodir i swydd benodol gan y Bwrdd ar achlysur penodol (gweler 3.7 isod). Mae gan y Comisiynwyr gyfrifoldeb corfforaethol am sicrhau bod y Comisiwn yn cyflawni ei nodau a'i amcanion ac am hyrwyddo defnydd effeithlon ac effeithiol o staff ac adnoddau eraill.
Gall y Bwrdd benderfynu dirprwyo penderfyniad i'r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, a lle bo'n briodol Comisiynydd arall neu Gomisiynwyr eraill a enwebir gan y Bwrdd. Pan, ym marn y Bwrdd, mae gan fater arwyddocâd arbennig i Gymru, yr Alban, neu Ogledd Iwerddon, ymgynghorir â'r Comisiynydd/Comisiynwyr perthnasol.
Mae cyfrifoldebau eraill y Comisiynwyr yn cynnwys:
- sicrhau bod safonau uchel o lywodraethu corfforaethol yn cael eu cadw bob amser
- sicrhau bod y Comisiwn yn adnabod ac yn rheoli ei risgiau yn effeithiol
- sefydlu a chynnal trefniadau effeithiol ar gyfer cyflawni swyddogaethau'r Comisiwn, gan gynnwys dirprwyo i staff o fewn fframwaith clir o reolaeth strategol, ymgynghori ar ddatblygiadau mawr â chyrff sydd â diddordeb ac ymateb i'w barn, lle bo'n briodol sefydlu cyrff cynghori ac ymgynghorol i lywio gwaith y Comisiwn, a hwyluso cyfathrebu da â sefydliadau allanol a'r cyhoedd
Fel unigolion, mae Comisiynwyr yn gyfrifol am gynnal gwerthoedd ac egwyddorion y Comisiwn a dylent ymddwyn gydag ewyllys da ac yn unol â'r Cod Ymddygiad ar gyfer Comisiynwyr Etholiadol, a dilyn Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus a nodir gan y Pwyllgor yn Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus – 'Egwyddorion Nolan' – (gweler Atodiad C).
Cyfrifoldebau Comisiynwyr unigol
Mae gan bob Comisiynydd gylch gwaith ledled y DU. Mae'r Senedd yn penodi prif Gomisiynwyr sy'n gyfrifol am Gymru, Gogledd Iwerddon, a’r Alban yn y drefn honno. Yn ogystal, mae'r Bwrdd yn neilltuo cyfrifoldebau ychwanegol i Gomisiynwyr unigol. Gall hyn gynnwys:
- cadeirydd y Pwyllgor Pobl, Diwylliant a Chydnabyddiaeth
- cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (pan fo Cadeirydd y Pwyllgor hwnnw'n Gomisiynydd)
- arwain ar gyfrannu at waith a/neu adolygu gwaith ar brosiectau penodol e.e. fel rhan o grŵp llywio
Cwynion
Bydd y Comisiwn yn cymeradwyo, cyhoeddi a chynnal Polisi a Gweithdrefn Gwynion yn cwmpasu'r gwasanaethau a ddarperir gennym i'n rhanddeiliaid sy'n cynnwys adolygiad annibynnol o'n cwynion drwy'r Ombwdsmon Seneddol (gyda gweithdrefn adolygu ar wahân ar gyfer materion rhyddid gwybodaeth). Bydd y manylion ar gael ar wefan y Comisiwn.
Adolygiad o effeithiolrwydd y Bwrdd
Bydd y Bwrdd yn adolygu ei berfformiad a pherfformiad ei bwyllgorau yn flynyddol.
Bydd y Comisiynwyr yn cynnal cyfarfodydd unigol gyda'r Cadeirydd o leiaf ddwywaith y flwyddyn lle gellir codi materion, a all gynnwys sut i gefnogi cyfraniad unigol, ymrwymiad i'r rôl (gan gynnwys ymrwymo amser ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd a’r pwyllgor ac unrhyw ddyletswyddau eraill), ac unrhyw anghenion dysgu a datblygu a adnabuwyd gan y Comisiynydd. Mae'r Cadeirydd hefyd yn gofyn am adborth ar ei berfformiad ei hun yn y cyfarfodydd hyn.
Yn ystod adolygiad y Bwrdd o'i effeithiolrwydd, gellir cynnal gwerthusiad annibynnol o berfformiad y Cadeirydd hefyd.
Bydd y Cadeirydd yn gweithredu ar ganlyniadau'r gwerthusiad perfformiad drwy gydnabod cryfderau, a mynd i'r afael â gwendidau, y Bwrdd yn ei gyfanrwydd ac, lle bo hynny'n briodol, yn ceisio ymddiswyddiad Comisiynwyr neu'n gwneud argymhelliad i Bwyllgor y Llefarydd ar gael gwared ar aelodau neu'r rhinweddau y dylid eu ceisio wrth ystyried aelodau newydd i'w penodi i'r Comisiwn.
Adolygiad o'r fframwaith llywodraethu corfforaethol
Bydd y Bwrdd yn adolygu'r fframwaith llywodraethu corfforaethol yn flynyddol. Y Pennaeth Llywodraethu sy’n gyfrifol am weithredu'r cynllun llywodraethu corfforaethol i sicrhau bod nodau ac egwyddorion y fframwaith yn cael effaith lawn.
Caiff newidiadau i'r fframwaith eu cymeradwyo gan y Bwrdd yn unig, ac eithrio pan fydd y Pennaeth Llywodraethu yn gwneud a chyhoeddi'r newidiadau canlynol:
- y newidiadau sy’n angenrheidiol i adlewyrchu unrhyw newidiadau neu ofynion deddfwriaethol neu sy'n angenrheidiol i gydymffurfio neu gyflawni newidiadau neu ofynion o'r fath
- unrhyw newidiadau eraill o natur olygyddol neu ganlyniadol fel sy’n ymddangos yn briodol er mwyn sicrhau bod y fframwaith llywodraethu yn gyson yn fewnol, yn gyfredol ac yn hawdd ei ddeall
Bydd y Pennaeth Llywodraethu yn sicrhau bod y Comisiynwyr yn cael eu hysbysu am y newidiadau yn ogystal ag unrhyw ddulliau eraill o gyhoeddi newidiadau.
Bydd y Pennaeth Llywodraethu yn sicrhau bod y fframwaith ar gael yn eang i Gomisiynwyr a staff, yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Comisiwn ac yn cael ei ddiweddaru yn ôl yr angen.
Y Prif Weithredwr
Y Prif Weithredwr sy’n gyfrifol am sicrhau bod gan y Cadeirydd a'r Bwrdd wybodaeth gyfoes, gywir a chlir, yn ôl yr angen, i gyflawni eu cyfrifoldebau.
Mae’r Bwrdd wedi dirprwyo awdurdod (gweler paragraff 4.2 isod) ar gyfer rheoli'r Comisiwn o ddydd i ddydd i’r Prif Weithredwr. Felly, hi/ef sy’n gyfrifol am y gwaith trefnu, rheoli a staffio ac am ei weithdrefnau mewn materion ariannol a materion eraill gan gynnwys ymddygiad a disgyblaeth. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo, drwy arwain ac esiampl, y gwerthoedd sydd wedi'u hymgorffori yn Egwyddorion Nolan. Dylai Comisiynwyr gefnogi'r Prif Weithredwr i ymgymryd â'r cyfrifoldeb hwn.
Pwerau Dirprwyedig y Comisiwn yw'r trefniadau a ddisgrifir yn Rhan 4 y ddogfen hon.
Felly, awdurdodir y Prif Weithredwr i ddirprwyo materion i staff eraill y Comisiwn, ac mae'r dirprwyaethau hynny wedi'u nodi mewn Cynllun Dirprwyo Gweithredol.
Y Prif Weithredwr yw Swyddog Cyfrifyddu'r Comisiwn fel y'i dynodwyd gan Bwyllgor y Llefarydd yn unol â pharagraff 19 Atodlen 1 y Ddeddf. Mae yna gyfrifoldeb personol yn rhan o’r rôl hon am sicrhau bod cyngor priodol yn cael ei roi i'r Comisiwn ar bob mater sy'n ymwneud â phriodoldeb a rheoleidd-dra ariannol, am gadw cyfrifon priodol ac am ddefnydd effeithlon ac effeithiol o adnoddau. Fel Swyddog Cyfrifyddu, mae'r Prif Weithredwr yn atebol i’r Senedd, Senedd y DU, a Senedd yr Alban am sicrhau bod yr holl adnoddau sydd ar gael yn cael eu defnyddio'n briodol ac yn rhoi gwerth da am arian.
Gweithgareddau gwleidyddol
Er mwyn i'r Comisiwn gyflawni'r swyddogaethau a roddwyd iddo gan y Senedd yn effeithiol, rhaid iddo ennyn hyder eang ei fod yn annibynnol ar lywodraeth ac ar bleidiau gwleidyddol.
Rhaid i Gomisiynwyr a'r Prif Weithredwr ddarparu manylion llawn i'r Comisiwn unrhyw weithgareddau a allai arwain at honiadau eu bod yn cefnogi un blaid wleidyddol neu’r llall, polisi penodol sy’n gysylltiedig ag amcanion plaid wleidyddol, neu ganlyniad sy’n destun refferendwm (neu a allai fod), neu wedi bod yn gwneud hynny, gan gydnabod bod gan Gomisiynwyr a benodwyd dan y diwygiadau i PPERA a gyflwynwyd gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol ac Etholiadau 2009 yr hawl i fod yn aelodau o blaid wleidyddol.
Gall methu â darparu'r holl wybodaeth berthnasol am weithgareddau gwleidyddol fod yn sail i ddiswyddiad. Gellir ystyried bod Comisiynydd neu'r Prif Weithredwr yn anaddas i barhau yn y swydd os ydynt yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd a allai gwestiynu didueddrwydd gwleidyddol y Comisiwn neu achosi risg i hyder y cyhoedd yn y Comisiwn, boed yn wirioneddol neu'n ganfyddedig.
Mae rhagor o fanylion am weithgarwch gwaharddedig wedi'u nodi yn y Cod Ymddygiad ar gyfer Comisiynwyr Etholiadol yn Atodiad J y Fframwaith hwn.
Mae penodiadau staff y Comisiwn, gan gynnwys y Prif Weithredwr, hefyd yn ddarostyngedig i ofynion statudol a nodir yn PPERA. Mae'r Prif Weithredwr yn ddarostyngedig i waharddiad ychwanegol i staff eraill, sy'n golygu ei bod/fod yn destun yr un gwaharddiadau â Chomisiynwyr nad ydynt wedi'u henwebu gan bleidiau gwleidyddol (nodir y gwaharddiadau yn Atodlen 1, paragraff 3 PPERA, sydd wedi'i chynnwys yn Atodiad 1 Cod Ymddygiad y Comisiynwyr Etholiadol).
Rhan 4: Busnes a phwerau dirprwyedig y Comisiwn
summary
Mae'r adran hon yn disgrifio'r rolau a'r pwerau a gedwir i'r Bwrdd mewn perthynas â gweithgareddau a swyddogaethau statudol y Comisiwn a'r rhai a ddirprwywyd i bwyllgorau'r Bwrdd ac i'r Prif Weithredwr. Cyfeirir at y trefniadau yn Rhan 4 fel Pwerau Dirprwyedig y Comisiwn. Mae Atodlen 1, paragraff 12 y Ddeddf yn darparu y caiff y Comisiwn, neu unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor y Comisiwn, neu'r Prif Weithredwr, ddirprwyo swyddogaethau i staff y Comisiwn. Mae'r Bwrdd wedi dirprwyo rhai o'i swyddogaethau i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a'r Pwyllgor Pobl, Diwylliant a Chydnabyddiaeth, a'r Prif Weithredwr.
Mae'r Bwrdd, drwy gymeradwyo'r fframwaith llywodraethu corfforaethol hwn, yn dirprwyo i'r Prif Weithredwr yr holl gyfrifoldeb am reolaeth o ddydd i ddydd y Comisiwn. Pan nad yw mater wedi'i gadw'n benodol i'r Bwrdd, neu bwyllgor neu is-bwyllgor, mae gan y Prif Weithredwr yr awdurdod i weithredu yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol:
- cydymffurfir ag unrhyw bolisi perthnasol cymeradwy y Comisiwn
- bydd unrhyw wariant o fewn y gyllideb y cytunwyd arni
Yn ogystal, drwy gymeradwyo'r fframwaith llywodraethu corfforaethol hwn, mae’r Bwrdd yn awdurdodi'r Prif Weithredwr i benodi swyddog arall o'r Comisiwn i weithredu ar ran y Prif Weithredwr. Yn y trefniadau hyn, mae cyfeiriadau at y Prif Weithredwr yn cynnwys unrhyw unigolyn/unigolion mae'r Prif Weithredwr wedi dirprwyo ei (h)awdurdod iddo/iddynt.
Mae gan y Comisiwn Gynllun Gweithredol Dirprwyo sy'n nodi'r awdurdod ar gyfer gwahanol lefelau o staff a gwneud penderfyniadau. Caiff hwn ei adolygu o bryd i'w gilydd, a dim llai na bob blwyddyn, gan Gomisiynwyr y Tîm Gweithredol ac mae'r tîm Gweithredol yn gweithio mewn ffordd gynhwysol a pharchus o fewn y fframwaith deddfwriaethol presennol y mae'r Bwrdd a'r sefydliad yn gweithredu ynddo.
Mae'r Comisiwn yn cyflawni ei waith drwy gyfuniad o brosiectau a gwaith cyflawni busnes. Mae ein dull o reoli prosiectau yn helpu i sicrhau bod dull cyson yn cael ei gymhwyso i weithio ar draws y Comisiwn ac yn cefnogi cyflawni drwy ddatblygu cynlluniau manwl. Mae aelodau'r Tîm Gweithredol yn eu rolau fel Cyfarwyddwyr Prosiect yn gyfrifol am gyflawni yn gyffredinol a chyflawni amcanion pob prosiect. Caiff y penderfyniadau o fewn ein trefniadau rheoli prosiect eu gwneud ar lefel y Tîm Gweithredol, neu'r Bwrdd Prosiect, ond mewn unrhyw achos bydd yn gyson â Chynllun Dirprwyo'r Bwrdd a'r Cynllun Dirprwyo Gweithredol.
Mae gan y Comisiwn Atodlen o Bolisïau, sy'n nodi ar ffurf tabl ein polisïau a'n strategaethau allweddol, boed yn statudol neu'n ddewisol, eu pwrpas, y 'perchennog', y lefel gymeradwyo a phryd y dylid adolygu pob un.
Graffeg yn dangos sut mae pwerau'n cael eu dirprwyo i'r Comisiwn Etholiadol. Mae Senedd y DU yn dirprwyo drwy Bwyllgor y Llefarydd. Mae'r Senedd (mewn perthynas â rhoi swyddogaethau Cymreig datganoledig y Comisiwn ar waith) yn dirprwyo drwy Bwyllgor y Llywydd. Mae Senedd yr Alban (mewn perthynas â rhoi swyddogaethau Albanaidd datganoledig y Comisiwn ar waith) yn dirprwyo i Gorff Corfforaethol Senedd yr Alban. Mae'r rhain yn bwydo i mewn i Fwrdd y Comisiwn Etholiadol, y Swyddog Cyfrifyddu, a'r Prif Weithredwr. Mae'r Comisiwn Etholiadol yn dirprwyo i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, y Pwyllgor Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae'r Swyddog Cyfrifyddu a'r Prif Weithredwr yn dirprwyo i'r Cynllun Dirprwyo Gweithredol.
Pwerau a gedwir yn ôl i'r Bwrdd
- Ystyried a chymeradwyo'r Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol gan gynnwys pwerau dirprwyedig, Rheolau Sefydlog a Phrif Bolisïau Ariannol.
- Ystyried a chymeradwyo'r Cod Ymddygiad ar gyfer Comisiynwyr Etholiadol.
- Sefydlu pwyllgorau'r Bwrdd; penodi aelodau pwyllgorau; penodi Cadeiryddion pwyllgorau; penodi'r Cynghorydd Annibynnol i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a chytuno ar gylch gorchwyl pwyllgorau.
- Atodlen 1 paragraffau 8, 9 a 10
- Gosod y cyfeiriad strategol.
- Adolygiad cyfnodol o safbwyntiau polisïau allweddol y Comisiwn.
- Ystyried a chymeradwyo'r egwyddorion allweddol a'r dull o lywio cynnwys cyllideb y Comisiwn, a'r Cynllun Corfforaethol.
- Atodlen 1 paragraffau 14 a 15
- Amrywiadau i'r gyllideb gymeradwy lle byddai'r amrywiad yn cael effaith sylweddol ar y lefelau incwm a gwariant cyffredinol a gymeradwywyd. Caiff amrywiad ariannol ei drin fel un arwyddocaol os yw'n golygu ysgwyddo gwariant untro gwerth £2 filiwn neu fwy, neu wariant cylchol o £250,000 neu fwy y flwyddyn.
- Cymeradwyo negeseuon allweddol mewn adroddiadau blynyddol a mabwysiadu cyfrifon (gan gynnwys adroddiadau ar ddefnyddio pwerau ymchwilio a chosbau sifil a'r adroddiadau blynyddol ar berfformiad swyddogaethau datganoledig y Comisiwn yng Nghymru a'r Alban).
- Atodlen 1 paragraffau 17 ac 20 ac 20A
- Atodlen 19B paragraff 15 ac Atodlen 19C paragraff 27
- Deddf Gweinyddu Etholiadau Lleol (Yr Alban) 2011
- Cymeradwyaeth derfynol, ynghyd â'r Swyddog Cyfrifyddu, o Brif Amcangyfrifon neu Amcangyfrifon Atodol i unrhyw un o seneddau'r Deyrnas Unedig.
- Atodlen 1 paragraffau 14 a 15
- Cymeradwyo penodi Comisiynwyr Cynorthwyol pan fo'n berthnasol.
- Atodlen 1 paragraff 7
- Ystyried adroddiadau monitro perfformiad a chyllid rheolaidd.
- Bodloni ei hun bod yna drefniadau rheoli risg priodol ar waith ar gyfer y Comisiwn.
- Pennu archwaeth risg y Comisiwn.
- Atodlen 1 paragraff 11
- Cymeradwyo newidiadau sylweddol i delerau ac amodau cyflogaeth cyffredinol staff.
- Atodlen 1, paragraff 11
- Penodi a therfynu cyflogaeth y Prif Weithredwr, gan gynnwys cymeradwyo argymhellion cydnabyddiaeth gan y Pwyllgor Pobl, Diwylliant a Chydnabyddiaeth
- Atodlen 1, paragraff 11
- Bydd penderfyniadau sy'n ymwneud â thelerau contract, cydnabyddiaeth ac unrhyw fonws i'r Prif Weithredwr, os yw'n wahanol i'r fframwaith sy'n berthnasol i bob aelod arall o staff, yn cael eu gwneud gan y Bwrdd, ar argymhelliad y Pwyllgor Pobl, Diwylliant a Chydnabyddiaeth
Mae cyhoeddiadau arwyddocaol yn golygu unrhyw waith sydd ag arwyddocâd digonol i gael ei ystyried gan y Cadeirydd a'r Prif Weithredwr, ac, mewn rhai achosion, gan y Bwrdd. Mae hyn yn cynnwys: Cynllun Corfforaethol, Adroddiad Blynyddol, adroddiadau statudol gan gynnwys adroddiadau etholiadol ac adroddiadau polisi arwyddocaol, canllawiau cyhoeddedig arwyddocaol ac adroddiadau ymchwil arwyddocaol.
- Pan fo’r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr wedi adnabod cyhoeddiad arwyddocaol sy'n deilwng o gael ei ystyried gan y Bwrdd, dylid cytuno ymlaen llaw ar y negeseuon allweddol, y cynllun ar gyfer y cyhoeddiad, ac ar gyfer cyfathrebu a gweithredu.
- Cymeradwyo strategaethau a gwariant i gyflawni'r ddyletswydd statudol hon.
- Adran 13
- Cymeradwyo’r dull gweithredu ar gyfer ymatebion i'r ymgynghoriad neu safbwyntiau cyhoeddus eraill sydd naill ai y tu hwnt i bolisi y cytunwyd arno neu o arwyddocâd cyhoeddus neu wleidyddol mawr.
- Cymeradwyo'r fframwaith cyffredinol o safonau perfformiad ac adolygu datblygiad safonau perfformiad.
- Adrannau 9A a 9B
- Cymeradwyo polisi gorfodi.
- Atodlen 19B paragraff 14
- Ymdrin ag argymhellion sy'n dod i'r amlwg ac argymhellion terfynol ar gyfer yr Ysgrifennydd Gwladol i adolygu terfyn gwariant ymgeiswyr.
- O bryd i'w gilydd, ymdrin â chrynodeb o benderfyniadau statudol PEF er mwyn monitro ac adolygu.
- Cymeradwyo a chadw dan adolygiad y cynllun ar gyfer dyrannu grantiau datblygu polisïau i bleidiau gwleidyddol, gan gyflwyno argymhellion ar gyfer telerau a newid i'r Ysgrifennydd Gwladol.
- Adran 12
- Cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd.
- Cymeradwyo penderfyniadau i ysgogi neu amddiffyn ymgyfreitha mewn perthynas â materion sydd o arwyddocâd cyhoeddus, gwleidyddol, ariannol neu enw da.
- Cytuno ar gyfranogiad mewn cynlluniau peilot ac adrodd arnynt.
- Adran 9
- Cymeradwyo unrhyw argymhellion y Comisiwn i'r Ysgrifennydd Gwladol.
- Adran 8
- Cymeradwyo'r dull o gwestiynu’r asesiad, a'r asesiad ei hun.
- Adran 104 (ac Adran 10 os yw'n gymwys)
- Cymeradwyo'r dull a'r gyllideb ar gyfer ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd.
- Adran 13
- Cytuno ar y fframwaith ar gyfer dynodi sefydliadau ymgyrchu arweiniol ar gyfer pob refferendwm a dynodi.
- Adrannau 108 a 109
- Cymeradwyo'r fframwaith ar gyfer dyrannu grantiau i sefydliadau ymgyrchu.
- Adran 110
Penderfyniadau/dyletswyddau wedi’u dirprwyo gan y Bwrdd i bwyllgorau
- Darpariaeth i 'r Bwrdd o sicrwydd bod prosesau risg, rheoli mewnol a llywodraethu priodol ar waith ar draws y Comisiwn.
- Cymeradwyo'r Fframwaith Rheoli Risg ac adolygiad rheolaidd o risgiau strategol, corfforaethol a chyfarwyddiaethol y Comisiwn.
- Cadarnhau'r Asesiad Blynyddol o Reoli Risg Gwybodaeth.
- Adolygu'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ac argymell cymeradwyo'r Datganiad gan y Swyddog Cyfrifyddu fel sy’n briodol.
- Adolygu'r polisïau cyfrifyddu ac ariannol a chyfrifon blynyddol y Comisiwn ac argymell i Fwrdd y Comisiwn ei fod yn mabwysiadu'r cyfrifon ac i'r Swyddog Cyfrifyddu ei bod/fod yn llofnodi'r cyfrifon fel sy’n briodol.
- Argymell i Fwrdd y Comisiwn unrhyw ddiwygiadau i'r polisïau ariannol.
- Adolygu cynlluniau ac adroddiadau'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol ac ymatebion y rheolwyr i unrhyw gynigion.
- Cymeradwyo'r broses o benodi gwasanaeth archwilio mewnol ar gyfer y Comisiwn.
- Cytuno ar y cynlluniau archwilio mewnol strategol a blynyddol.
- Adolygu adroddiadau'r gwasanaeth archwilio mewnol ac ymatebion y rheolwyr i unrhyw gynigion.
- Cymeradwyo unrhyw gynigion ar gyfer prynu gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud ag archwilio gan gontractwyr sy'n darparu gwasanaethau archwilio.
- Cymeradwyo'r Polisi Chwythu’r Chwiban.
- Cymeradwyo’r Polisi Gwrth-dwyllo.
- Cymeradwyo’r Polisi Gwrth-lwgrwobrwyo.
- Cymeradwyo'r fframwaith ar gyfer y pecyn buddion cyfan (cydnabyddiaeth a buddion cyflogeion) ar gyfer holl staff y Comisiwn Etholiadol (gan gynnwys y Tîm Gweithredol)
- Argymell i'r Bwrdd gydnabyddiaeth y Prif Weithredwr, os yw'n wahanol i'r fframwaith sy'n berthnasol i bob aelod arall o staff, ynghyd â phenderfyniadau (argymhellion) sy’n ymwneud â thelerau contract, cydnabyddiaeth ac unrhyw fonysau i'r Prif Weithredwr.
- Adolygu priodoldeb a pherthnasedd parhaus y fframwaith budd-daliadau cyfan a chynnig diwygiadau i'r Bwrdd fel sy’n briodol.
- Wrth bennu fframweithiau a pholisïau ar gyfer y pecyn budd-daliadau cyfan, dylid ystyried y canlynol:
- dylid cynnig cymhellion priodol i aelodau staff i annog perfformiad unigol a chyfunol gwell mewn ffordd deg a chyfrifol
- dylid gwobrwyo aelodau o staff am eu cyfraniadau unigol at lwyddiant y Comisiwn
- rhaid i'r Comisiwn gynnal ei rwymedigaethau dan PPERA
- Cymeradwyo newidiadau sylweddol i strwythur sefydliadol a/neu delerau ac amodau cyflogaeth cyffredinol y staff ac unrhyw effaith newid o’r fath, megis terfynu contractau.
- Adolygu adroddiad blynyddol i'r Pwyllgor ar unrhyw delerau, neu daliadau a wneir wrth derfynu cyflogaeth i sicrhau nad yw'r methiant yn cael ei wobrwyo a bod y ddyletswydd i liniaru colledion yn cael ei chydnabod yn llawn. Bydd Cadeirydd y Pwyllgor yn cael ei hysbysu ymlaen llaw am wneud telerau a thaliadau o'r fath (e.e. cytundebau setlo).
- Gofyn am unrhyw adroddiadau neu arolygon y mae'r Pwyllgor yn ystyried eu bod yn angenrheidiol i'w helpu i gyflawni ei rwymedigaethau, er enghraifft adroddiadau meincnodi cyflogau neu wybodaeth ynglŷn â chydnabyddiaeth mewn cyrff eraill.
- Argymell i'r Bwrdd unrhyw newidiadau i'r ffi ar gyfer y Cynghorydd Annibynnol i’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. Rhagwelir y bydd unrhyw gynnydd yn unol â'r cynnydd a ddyfarnwyd i'r Comisiynwyr.
- Gwneud argymhellion i’r Bwrdd ar gyfansoddiad ac aelodaeth y Panel Penodi ar gyfer recriwtio'r Cynghorydd Annibynnol i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.
- Cefnogi’r Cadeirydd i recriwtio Prif Weithredwr, gan gynnwys gwneud argymhellion i'r Bwrdd ar gyfansoddiad ac aelodaeth y Panel Penodi ar gyfer recriwtio'r Prif Weithredwr.
- Adrodd i'r Bwrdd ar waith y Pwyllgor yn flynyddol.
- Gweithredu fel grŵp cynghori yn ôl yr angen ar faterion fel:
- dull cyffredinol a chwmpas y strategaeth AD yn enwedig yn ymwneud â dylunio sefydliadol, ailstrwythuro sylweddol neu raglenni newid
- materion mawr yn ymwneud ag undebau llafur neu gysylltiadau diwydiannol sy'n effeithio ar y Comisiwn cyfan
- datblygiad sefydliadol sy'n ymwneud â chred, gwerthoedd, diwylliant ac effeithiolrwydd y Comisiwn
Penderfyniadau/dyletswyddau wedi’u dirprwyo gan y Bwrdd i'r Prif Weithredwr a phenderfyniadau/dyletswyddau'r Prif Weithredwr fel Swyddog Cyfrifyddu
- Pob cyfrifoldeb am reolaeth o ddydd i ddydd y Comisiwn. Pan nad yw mater wedi'i gadw'n benodol i'r Bwrdd, neu is-bwyllgor, mae gan y Prif Weithredwr awdurdod i weithredu yn amodol ar yr amodau canlynol:
- cydymffurfir ag unrhyw bolisi perthnasol cymeradwy y Comisiwn
- bydd unrhyw wariant o fewn y gyllideb y cytunwyd arni
- Mae'r Bwrdd yn awdurdodi'r Prif Weithredwr i benodi aelodau eraill o staff y Comisiwn i weithredu ar ran y Prif Weithredwr. Dylid cofnodi dirprwyaethau mewn Cynllun Dirprwyo Gweithredol.
Cymeradwyo'r polisi ar gyfer talu ffioedd y Comisiynydd a hawliadau teithio a chynhaliaeth (yn flynyddol, fel rhan o'r adolygiad o'r Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol).
- Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n bersonol gyfrifol am:
- rheoleidd-dra a phriodoldeb
- dethol a gwerthuso rhaglenni a phrosiectau
- fforddiadwyedd a chynaliadwyedd
- gwerth am arian
- rheoli cyfle a risg
- dysgu o brofiad
- cyfrif am sefyllfa ariannol a thrafodion y sefydliad
- Rhaid i'r Swyddog Cyfrifyddu lofnodi'n bersonol o fewn yr adroddiad a'r cyfrifon blynyddol
- y datganiad o sefyllfa ariannol
- yr adroddiad perfformiad (sylwebaeth gan reolwyr)
- y datganiad llywodraethu
- yr adroddiad cydnabyddiaeth
tystysgrif y Swyddog Cyfrifyddu blynyddol sy'n cadarnhau ei fod yn fodlon â'r modd y caiff pensiynau eu gweinyddu
Ac, os ydynt yn fodlon eu bod wedi cael eu paratoi'n briodol i adlewyrchu busnes y sefydliad, rhaid iddynt gymeradwyo'n bersonol:
- terfynau'r gyllideb y pleidleisiwyd arno
- y Memorandwm Amcangyfrifon cysylltiedig
Caiff y Prif Weithredwr fel Swyddog Cyfrifyddu neu'r Cyfarwyddwr Corfforaethol awdurdodi taliadau diswyddo cyflogeion sy'n dod y tu allan i Gynlluniau Iawndal y Gwasanaeth Sifil, yn amodol ar rybudd ymlaen llaw i Gadeirydd y Pwyllgor Pobl, Diwylliant a Chydnabyddiaeth, ac adroddiad blynyddol i'r Pwyllgor am unrhyw daliadau o'r fath.
Pan fydd y Swyddog Cyfrifyddu yn absennol ac na ellir cysylltu ag ef yn hawdd, dylai uwch aelod arall o staff ddirprwyo. Os cynllunir absenoldeb sylweddol, gall y Swyddog Cyfrifyddu, neu Gyfarwyddwr Corfforaethol yn ei (h)absenoldeb, wahodd Pwyllgor y Llefarydd i benodi Swyddog Cyfrifyddu dros dro.
Atodiadau
Cyflwyniad
Mae Rheolau Sefydlog, ynghyd â'r Pwerau Dirprwyedig a'r Polisïau Ariannol, yn darparu fframwaith gweithdrefnol lle mae'r Comisiwn yn cyflawni ei fusnes. Maent yn ymdrin â busnes y Comisiwn, gweithdrefnau yng nghyfarfodydd y Bwrdd ac unrhyw bwyllgorau, dirprwyo pwerau, datgan buddiannau a safonau ymddygiad.
Man busnes
Prif fan busnes y Comisiwn yw 3 Bunhill Row, Llundain, EC1Y 8YZ.
Cyfarfodydd y Bwrdd
Galw cyfarfodydd
Bydd y Bwrdd yn cyfarfod ar y dyddiadau a’r amseroedd ac yn y lleoliadau hynny y bydd y Bwrdd yn penderfynu arnynt o bryd i'w gilydd. Gelwir cyfarfodydd o'r fath yn gyfarfodydd cyffredin.
Gall cyfarfod anghyffredin gael ei alw ar unrhyw adeg gan y Cadeirydd neu'r Prif Weithredwr, neu gan ddim llai na phum aelod o'r Bwrdd yn cyflwyno cais ysgrifenedig i'r Cadeirydd neu'r Prif Weithredwr am gyfarfod o'r fath, yn nodi'r busnes sydd i'w drafod. Ni chaiff unrhyw fusnes ei drafod mewn cyfarfod o'r fath heblaw am yr hyn a bennir yn hysbysiad y cyfarfod.
Hysbysiadau cyfarfodydd
O leiaf pedwar diwrnod gwaith clir (mae diwrnod gwaith yn eithrio dyddiau Sadwrn, dyddiau Sul, Gwyliau Banc a diwrnodau eraill pan mae swyddfeydd y Comisiwn wedi cau) cyn unrhyw gyfarfod cyffredin y Bwrdd, bydd y Prif Weithredwr, neu swyddog enwebedig sy'n gweithredu ar ei rh/ran, yn anfon hysbysiad ysgrifenedig yn nodi amser a lleoliad y cyfarfod hwnnw a'r busnes sydd i'w drafod at bob Comisiynydd.
Ni fydd hepgor rhoi hysbysiad i unrhyw aelod yn ddamweiniol neu beidio â derbyn hysbysiad gan unrhyw aelod yn annilysu trafodion y cyfarfod, ond bydd methu â chyflwyno hysbysiad o'r fath i bedwar neu fwy o aelodau yn annilysu'r cyfarfod.
Busnes i'w drafod
Y Cadeirydd sy’n gyfrifol am lunio agenda y cyfarfodydd mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr.
Ni fydd unrhyw fusnes heblaw'r hyn a nodir yn hysbysiad y cyfarfod yn cael ei drafod yn y cyfarfod hwnnw oni bai bod y busnes yn fater brys neu ei fod yn ofynnol i’w drafod drwy statud a bod dim llai na dwy ran o dair o'r aelodau sy'n bresennol yn penderfynu y bydd y busnes yn cael ei drafod.
Rhaid i aelod sy'n dymuno i fater gael ei gynnwys ar agenda anfon cais ysgrifenedig i'r Cadeirydd i’w ystyried o leiaf ddeg diwrnod clir cyn cyfarfod. Gellir ystyried ceisiadau a wneir lai na deg diwrnod cyn cyfarfod i'w cynnwys ar yr agenda yn ôl disgresiwn y Cadeirydd.
Bydd agendâu ar gyfer cyfarfodydd yn cynnwys datganiadau o fuddiant fel eitem sefydlog.
Ar ôl pob cyfarfod Bwrdd, fel arfer bydd adolygiad rhwng y Cadeirydd a'r Comisiynwyr, i ystyried unrhyw faterion o ran rheoli'r cyfarfod, a rhoi cyfle i Gomisiynwyr roi adborth i'r Cadeirydd.
Sylwadau ysgrifenedig
Os yw aelod nad yw'n bresennol yn cyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar eitem(au) yr agenda, yna yn ôl disgresiwn Cadeirydd y cyfarfod, gellir dosbarthu'r rhain yn ystod y cyfarfod neu eu darllen gan Gadeirydd y cyfarfod ar yr adeg briodol yn y cyfarfod.
Cworwm
Mae yna gworwm mewn cyfarfodydd Bwrdd os oes o leiaf chwe Chomisiynydd yn bresennol ac yn gallu cymryd rhan yn y drafodaeth, y bydd pedwar ohonynt yn Gomisiynwyr wedi’u penodi yn hytrach na than Adran 3A y Ddeddf.
Fodd bynnag, dan yr amgylchiadau canlynol, bydd yna gworwm os bydd pum Comisiynydd, y bydd tri ohonynt yn Gomisiynwyr wedi’u penodi yn hytrach na than ddarpariaethau Adran 3A y Ddeddf:
- yn achos penderfyniadau rheoleiddio cyllid gwleidyddol
- yn achos penderfyniadau i'w gwneud mewn perthynas â refferenda, neu
- pan mae yna dair neu fwy o swyddi gwag ar gyfer Comisiynwyr
Mae cworwm llai ar gyfer penderfyniadau rheoleiddiol a phenderfyniadau sy'n ymwneud â refferenda yn rhoi'r lefel uwch o hyblygrwydd sydd ei hangen dan yr amgylchiadau hyn, gan alluogi'r Comisiwn i gyfarfod a gwneud penderfyniadau gyda rhybudd cymharol fyr, ac osgoi oedi. Bydd penderfyniadau o'r fath yn cael eu cyfathrebu gan yr Ysgrifennydd i Fwrdd y Comisiwn cyn gynted â phosibl i unrhyw Gomisiynwyr na allant fod yn bresennol yn y cyfarfod.
Gall aelodau fynychu cyfarfodydd y Bwrdd drwy fideo-gynadledda neu ffôn. Ystyrir bod aelodau sy'n mynychu cyfarfod drwy'r dulliau hyn yn bresennol yn bersonol yn y cyfarfod.
Os yw aelod wedi'i anghymhwyso rhag cymryd rhan mewn trafodaeth neu benderfyniad sydd i'w wneud am unrhyw fater oherwydd ei b/fod wedi datgan gwrthdaro buddiannau, ni fydd yn cyfrif tuag at y cworwm. Os nad oes cworwm ar gael ar gyfer y drafodaeth neu'r penderfyniad sydd i’w wneud am unrhyw fater, mae’n bosibl na fydd y mater hwnnw'n destun penderfyniad. Bydd y swyddog cyfrifol yn cofnodi'r sefyllfa hon yng nghofnodion y cyfarfod.
Cofnod presenoldeb
Bydd y swyddog cyfrifol yn cofnodi enwau'r holl aelodau sy'n bresennol yn y cyfarfod Bwrdd yng nghofnodion y cyfarfod.
Cadeirydd cyfarfodydd
Bydd y Cadeirydd yn llywyddu mewn unrhyw gyfarfod Bwrdd. Yn absenoldeb y Cadeirydd, bydd y rhai sy'n mynychu cyfarfod yn cytuno ar Gadeirydd o blith y Comisiynwyr nad ydynt wedi’u henwebu i gynnal trafodion y cyfarfod hwnnw.
Y Cadeirydd sy’n penderfynu ar drafodion manwl ar gyfer cynnal busnes yng nghyfarfodydd Bwrdd a bydd penderfyniad y Cadeirydd ar gwestiynau neu orchymyn yn cael ei ddilyn yn y cyfarfod, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rheolau Sefydlog ac unrhyw benderfyniad i’r gwrthwyneb gan y Bwrdd.
Gwneud penderfyniadau
Bydd penderfyniadau ein Bwrdd fel arfer yn cael eu gwneud trwy gonsensws yn hytrach na thrwy bleidlais ffurfiol. Os na fydd consensws, gwneir penderfyniadau drwy bleidlais pan mae:
- Cadeirydd y cyfarfod yn credu bod corff o farn ymhlith aelodau yn y cyfarfod sy'n anghytuno â chynnig neu sydd wedi mynegi amheuaeth amdano ac nad oes consensws clir wedi dod i'r amlwg neu'n debygol o wneud hynny, neu
- aelod sy'n bresennol yn gofyn am bleidlais a bod o leiaf un aelod arall yn cytuno â hynny, neu
- unrhyw amgylchiadau eraill wedi codi ac mae Cadeirydd y cyfarfod yn credu bod pleidlais yn briodol
Dan yr amgylchiadau hyn, caiff pob aelod fwrw un bleidlais. Bydd Cadeirydd y cyfarfod yn bwrw ei bleidlais ar yr un pryd ag aelodau eraill. Bydd y bleidlais fel arfer yn digwydd drwy ddangos dwylo neu unrhyw ddulliau eraill o gydsyniad neu anghytuno y mae Cadeirydd y cyfarfod yn credu sy’n briodol. Dim ond aelodau sy'n bresennol (gan gynnwys dros y ffôn neu fideo-gynadledda) sy'n gallu pleidleisio.
Bydd y penderfyniad yn cael ei gynnal gan fwyafrif syml. Penderfyniad Cadeirydd y cyfarfod ynghylch canlyniad y bleidlais fydd yn derfynol.
Yn achos cydraddoldeb pleidleisiau, ni fydd gan Gadeirydd y cyfarfod bleidlais fwrw ac ni fydd y penderfyniad wedi'i gario. Fel arfer, ni fydd pleidlais ar ôl ei chymryd yn cael ei hail-gynnal o fewn yr un cyfarfod.
Os cynhelir pleidlais, cofnodir y nifer sy'n pleidleisio o blaid, yn erbyn ac unrhyw ymataliad yn y cofnodion.
Caiff yr aelodau ofyn i'w barn sy’n anghytuno ag unrhyw faterion gael ei chofnodi yn y cofnodion.
Gwneud penderfyniadau drwy ddulliau electronig
Bydd ein Hysgrifennydd Bwrdd yn rheoli'r broses ar gyfer gwneud penderfyniadau drwy ddulliau electronig ar gyfer y Bwrdd neu ei Bwyllgorau fel y nodir isod.
Caiff papurau eu cynhyrchu ar gyfer pob eitem o fusnes electronig sy’n nodi'n glir yr argymhellion i'n Bwrdd a'r opsiynau a ystyrir ynghyd ag unrhyw ddadansoddiad ategol angenrheidiol.
Bydd ein Hysgrifennydd Bwrdd yn cytuno ar amserlen gyda’n Prif Weithredwr a'n Cadeirydd ar gyfer gwneud penderfyniad. Bydd hyn yn cynnwys digon o amser i'n Bwrdd ddarllen yr adroddiad, ceisio eglurhad ar y materion a godwyd a chadarnhau eu penderfyniad ar yr argymhellion yn yr adroddiad.
Os nad yw ein Cadeirydd ar gael, yna ceisir barn Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg neu Gadeirydd y Pwyllgor Pobl, Diwylliant a Chydnabyddiaeth ar y materion uchod. Yn yr un modd, os nad yw ein Prif Weithredwr ar gael, yna ceisir barn o leiaf un Cyfarwyddwr yn ei h/absenoldeb.
Bydd ein Hysgrifennydd Bwrdd yn rhannu'r adroddiad i'r Bwrdd (neu'r Pwyllgor) yn electronig, e.e. drwy e-bost, ac yn nodi'r amserlen yn A29 uchod. Dylid cyfeirio cwestiynau neu bwyntiau eglurhad at ein Hysgrifennydd Bwrdd a fydd yn trefnu i ddrafftio a rhannu ymateb i'n Bwrdd yn unol â'r amserlen gytunedig.
Dylai Comisiynwyr gadarnhau eu penderfyniad ar yr argymhellion yn yr adroddiad erbyn y dyddiad cau a nodir yn yr amserlen. Pan fydd y dyddiad cau hwn wedi mynd heibio, bydd ein Hysgrifennydd Bwrdd yn cadarnhau penderfyniad y Bwrdd (neu Bwyllgor) i’r Bwrdd (neu Bwyllgor), y Prif Weithredwr ac awdur yr adroddiad.
Mae'r rheolau sefydlog arferol ar gyfer datganiadau buddiannau a chworwm yn berthnasol i benderfyniadau a wneir gan ddefnyddio dulliau electronig. Diffinnir y cworwm ar gyfer gwneud penderfyniadau gan ddefnyddio dulliau electronig fel nifer y Comisiynwyr sy'n cymryd rhan yn y penderfyniad drwy ddulliau electronig.
Mae'r egwyddor y gwneir penderfyniadau ein Bwrdd drwy gonsensws yn berthnasol i benderfyniadau a wneir gan ddefnyddio dulliau electronig. Pan ddefnyddir y weithdrefn ar bleidleisio i wneud penderfyniad gan ddefnyddio dulliau electronig, yna bydd y dull o bleidleisio drwy ddulliau electronig, e.e. e-bost.
Egwyddorion gwneud penderfyniadau
Bydd pob penderfyniad y Bwrdd, gan gynnwys penderfyniadau dirprwyedig, yn cael eu gwneud yn unol â'r egwyddorion canlynol:
- cymesuredd (h.y. rhaid i'r weithred fod yn gymesur â'r canlyniad a ddymunir)
- ystyriaeth briodol a chymryd cyngor proffesiynol gan staff
- rhesymolrwydd, tegwch, didueddrwydd, cydraddoldeb ac yn unol â chyfiawnder naturiol a hawliau dynol
- rhagdybiaeth o blaid tryloywder yn ein gwaith a sut ydym yn ei wneud, yn amodol ar gydnabod efallai na fydd hyn bob amser yn briodol e.e. cyngor cyfreithiol a materion rheoleiddio penodol
- rhesymegol, gydag eglurder o ran nodau a chanlyniadau dymunol, i sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau yn darparu'r rhesymau dros benderfyniadau
- effeithlonrwydd (ni ddylid oedi penderfyniadau'n afresymol)
- dylai bod gwneud penderfyniadau rheoleiddiol yn cyd-fynd ag arfer rheoleiddio dda
- cysondeb â dyletswyddau a chyfrifoldebau, nodau ac amcanion y Comisiwn, gan gynnwys defnydd effeithiol ac effeithlon o adnoddau
- bydd y Bwrdd yn gweithredu ar egwyddorion cyfrifoldeb cyfunol, cefnogaeth a pharch
- ni fydd pwysau allanol yn newid prosesau'r Bwrdd ac eithrio amserlenni posibl
- Mae'n ofynnol i ymddygiad aelodau'r bwrdd mewn ymateb i benderfyniadau fod yr un fath y tu mewn a'r tu allan i'r Comisiwn
Gonestrwydd ac ymatebolrwydd
Bydd y Comisiwn a'i staff yn ymdrin â'r cyhoedd yn agored a chyfrifol, ac yn sicrhau cydymffurfiaeth lawn ag egwyddorion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Mae'r Comisiwn yn cydnabod yr angen am gyfrinachedd gwybodaeth benodol, yn unol â gofynion statudol neu fuddiannau masnachol y cytunwyd arnynt, yn ddarostyngedig i hawliau gwahanol Seneddau, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, Trysorlys EF a chyrff cyhoeddus eraill i geisio gwybodaeth, ac i hawliau unigolion i gael gwybodaeth yn unol â statud.
Gohirio
Gellir gohirio unrhyw gyfarfod Bwrdd o bryd i'w gilydd ac o le i le yn ôl disgresiwn y Cadeirydd. Rhoddir hysbysiad rhesymol pan fo'n ymarferol o ddyddiad ac amser ailgynnull y cyfarfod a ohiriwyd, ac eithrio pan mae cyfarfod wedi'i ohirio am dri deg diwrnod neu fwy, yna rhoddir hysbysiad o ailgynnull y cyfarfod a ohiriwyd yn yr un modd ag y gwneir ar gyfer cyfarfod cyffredin y Bwrdd.
Cofnodion
Bydd cofnodion holl gyfarfodydd y Bwrdd yn cofnodi'r penderfyniadau a wnaed, a phan fo'n briodol, barn yr unigolion sy'n bresennol. Bydd y cofnodion yn cofnodi unrhyw ddatganiadau o fuddiant a wneir yn y cyfarfod. Bydd y cofnodion yn cael eu cyflwyno i'w cytuno yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd. Pan fyddant wedi’u cytuno, bydd y cofnodion, ac unrhyw ddiwygiadau sy'n ofynnol gan y Bwrdd, yn cael eu llofnodi gan y Cadeirydd.
Bydd y cofnodion cymeradwy (neu fersiwn wedi'i golygu fel sy’n briodol) yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Comisiwn.
Dirprwyo Pwerau
Mae'r Comisiwn wedi cymeradwyo Pwerau Dirprwyedig sy'n nodi'r materion hynny sydd wedi'u cadw i'r Bwrdd i'w penderfynu, a'r materion hynny y gellir eu dirprwyo i bwyllgorau'r Bwrdd neu i'r Prif Weithredwr i'w penderfynu. Caiff y Prif Weithredwr yn ei dro ddirprwyo unrhyw fater o fewn ei h/awdurdod i swyddog arall yn y Comisiwn. Rhoddir awdurdod y Comisiwn i unrhyw unigolyn y dirprwyir mater iddo gan y Prif Weithredwr neu drwy drefniadau wedi’u cymeradwyo ganddi/ganddo mewn perthynas â'r mater a ddirprwyir.
Bydd y Bwrdd yn adolygu ac yn cymeradwyo'r Pwerau Dirprwyedig yn flynyddol.
Materion busnes brys neu annadleuol
Gall materion busnes brys godi rhwng cyfarfodydd cyffredin Bwrdd neu Bwyllgor sydd wedi'u trefnu sy'n gofyn am benderfyniad y Bwrdd neu'r Pwyllgor cyn y dyddiad y gellir cynnull cyfarfod cyffredin neu anghyffredin.
Pan mae’n rhaid gwneud penderfyniadau a fyddai fel arfer yn cael eu gwneud yng nghyfarfodydd Bwrdd ar frys, mae’n bosibl y gall ein Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â'n Cadeirydd, wneud penderfyniad, ac eithrio penderfyniadau rheoleiddiol ar faterion cyllid pleidiau, neu benderfynu ar faterion sy'n ymwneud â refferenda, lle derbynnir y gall natur y busnes ei gwneud yn ofynnol i alw cyfarfod ar hysbysiad.
Mewn achosion o'r fath, dylai ein Prif Weithredwr gymryd pob cam ymarferol i ymgynghori â'n Cadeirydd, a chyda chynifer o Gomisiynwyr eraill ag y mae ein Prif Weithredwr yn ystyried yn briodol (ac os yw'n bosibl dim llai na dau Gomisiynydd). Dylai ein Prif Weithredwr ofyn am farn y Comisiynwyr ynglŷn â:
- lefel o frys y mater y mae angen gwneud penderfyniad arno
- arwyddocâd y penderfyniad sydd ei angen
- y posibilrwydd o gynnal cyfarfod Bwrdd anghyffredin er mwyn ei ystyried
- y posibilrwydd o wneud y penderfyniad drwy ddulliau electronig
- yr amgylchiadau i Gomisiynwyr wneud sylwadau ar y mater
- y camau gweithredu i'w cymryd
Dylai ein Prif Weithredwr benderfynu yng ngoleuni barn y Comisiynwyr pa gamau gweithredu i'w cymryd, dylai hysbysu cynifer â phosibl o Gomisiynwyr (ac, mewn unrhyw achos, dim llai na dau Gomisiynydd) o'r camau gweithredu arfaethedig a dylai ganiatáu cymaint o amser ag y maent yn ei ystyried yn rhesymol yn yr amgylchiadau i Gomisiynwyr wneud sylwadau ar y cynigion. Yna, dylai ein Prif Weithredwr weithredu fel y credai sy’n briodol.
Gall ein Prif Weithredwr ofyn i'n Hysgrifennydd Bwrdd drefnu i fater busnes gael ei benderfynu neu ei drafod gan ddefnyddio dulliau electronig, e.e. drwy e-bost, mewn cyfarfod anghyffredin y Bwrdd neu mewn cyfarfod a alwyd ar hysbysiad.
Bydd defnyddio pwerau o'r fath yn cael ei adrodd fel eitem ar yr agenda yng nghyfarfod nesaf ein Bwrdd, i gymeradwyo cofnod a dyddiad y penderfyniad a wnaed, a nodi'r rheswm dros ddefnyddio pwerau o'r fath. Bydd ein Bwrdd yn ystyried a oes angen cymryd rhagor o gamau gweithredu. Bydd y mater yn cael ei gofnodi yng nghofnodion cyfarfod y Bwrdd y caiff ei adrodd iddo.
Os nad yw ein Cadeirydd ar gael, yna ceisir barn Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ar y materion uchod. Yn yr un modd, os nad yw ein Prif Weithredwr ar gael, yna ceisir barn o leiaf un Cyfarwyddwr yn ei h/absenoldeb.
Pwyllgorau
Caiff y Bwrdd sefydlu pwyllgorau neu grwpiau cynghori sefydlog neu ad hoc, a chaiff y Cadeirydd sefydlu grwpiau cynghori, sy'n cynnwys y niferoedd a'r dibenion hynny fel y pennir gan y Bwrdd, neu’r Cadeirydd mewn rhai achosion. Caiff aelodaeth y Panelau Penodi ar gyfer y Prif Weithredwr eu pennu gan y Bwrdd ar argymhelliad y Pwyllgor Pobl, Diwylliant a Chydnabyddiaeth. Dim ond Comisiynwyr all fod yn aelod o bwyllgor y Comisiwn.
Bydd darpariaeth y Rheolau Sefydlog hyn ar waith pryd bynnag mae hynny’n berthnasol i weithrediad pob pwyllgor, oni bai bod y Rheolau Sefydlog hyn yn nodi fel arall.
Datgan Buddiannau
Rhaid i Gomisiynwyr ddatgan unrhyw fuddiannau neu gysylltiadau posibl sydd ganddynt i Ysgrifennydd Bwrdd y Comisiwn.
Pan mae yna achos o wrthdaro buddiannau, bydd y Bwrdd yn penderfynu ar y ffordd briodol o weithredu, ar gyngor gan y Pennaeth Llywodraethu, ac a ddylai'r Comisiynydd dynnu'n ôl o'r cyfarfod i'w drafod a/neu'r broses benderfynu.
Bydd y buddiant a ddatganwyd yn cael ei gofnodi yng nghofnodion y cyfarfod.
Safonau ymddygiad
Safonau ymddygiad
Mae'n ofynnol i Gomisiynwyr gydymffurfio â Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol y Comisiwn a'r Cod Ymddygiad ar gyfer Comisiynwyr Etholiadol. Mae'n ofynnol i staff gydymffurfio â'r safonau a nodir yn y Cod Ymddygiad ar gyfer staff a chyda pholisïau Adnoddau Dynol.
Defnyddio gwybodaeth
Ni chaiff unrhyw Gomisiynydd ddefnyddio gwybodaeth a gafwyd yn ystod eu dyletswydd er budd personol na cheisio defnyddio gwasanaeth cyhoeddus o'r fath i hyrwyddo buddiannau preifat eu hunain neu bartïon eraill. Dylai Comisiynwyr osgoi ymddwyn mewn modd a allai roi enw drwg i'r Comisiwn.
Rhoddion a lletygarwch
Rhaid rhoi gwybod i'r Pennaeth Llywodraethu am gynigion o roddion a lletygarwch, p'un a ydynt yn wedi’i derbyn ai peidio, cyn gynted â phosibl ond cyn pen dim mwy na 28 diwrnod, ynghyd â manylion y rhoddwr a'r amcan werth. Bydd Cofrestr o Roddion a Lletygarwch yn cael ei chynnal gan y Pennaeth Llywodraethu, a'i chyhoeddi ar wefan y Comisiwn.
Atal Rheolau Sefydlog
Mewn unrhyw gyfarfod gall y Bwrdd, drwy fwyafrif o ddim llai na dwy ran o dair o'r rhai sy'n bresennol ac sy'n pleidleisio, benderfynu atal y Rheolau Sefydlog hyn am gyfnod y cyfarfod neu unrhyw eitem busnes sydd i'w thrafod yn y cyfarfod, ar yr amod:
- nad yw atal Rheolau Sefydlog yn mynd yn groes i unrhyw ddarpariaethau neu gyfarwyddiadau statudol
- bod unrhyw benderfyniad i atal Rheolau Sefydlog yn cael ei gofnodi yn y cofnodion
- y cedwir cofnod ar wahân o faterion a drafodwyd yn ystod y cyfnod pan atalwyd y rheolau sefydlog
Diwygio Rheolau Sefydlog
Caniateir diwygio'r Rheolau Sefydlog hyn neu unrhyw un ohonynt drwy addasu, ychwanegu neu ddileu, ar yr amod:
- nad yw diwygio neu amrywio'r Rheolau Sefydlog yn mynd yn groes i unrhyw ddarpariaethau neu gyfarwyddiadau statudol
- rhoddir o leiaf bum niwrnod o rybudd o'r diwygiad arfaethedig
- cymeradwyir y diwygiad gan fwyafrif o ddim llai na dwy ran o dair o'r aelodau sy'n bresennol ac sy'n pleidleisio yn y cyfarfod y caiff ei gynnig ynddo
Adolygu Rheolau Sefydlog
Bydd y Bwrdd yn adolygu Rheolau Sefydlog yn flynyddol. Bydd yr adolygiad yn cynnwys dogfennau llywodraethu perthnasol sy'n cael effaith fel pe baent wedi'u hymgorffori mewn Rheolau Sefydlog.
Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000
Mae'r Comisiwn yn gorff annibynnol, a sefydlwyd gan Senedd y Deyrnas Unedig dan ddarpariaethau Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (y Ddeddf).
Mae'r Comisiwn yn atebol i Senedd y DU, ac yn benodol i Bwyllgor Llefarydd Tŷ'r Cyffredin sy'n cael ei benodi yn unol â darpariaethau'r Ddeddf. Nodir prif bwerau a dyletswyddau, ac aelodaeth, Pwyllgor y Llefarydd isod.
Dan newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Etholiadau 2022, rhaid i'r Comisiwn roi sylw i Strategaeth a Datganiad Polisi a ddynodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol wrth gyflawni ei swyddogaethau (adran 4B y Ddeddf). Caiff Pwyllgor y Llefarydd archwilio perfformiad y Comisiwn o'i ddyletswydd i roi sylw i'r datganiad hwnnw.
Deddf Etholiadau'r Alban (Diwygio) 2020 a Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020
Diwygiwyd y Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 gan Ddeddf Etholiadau'r Alban (Diwygio) 2020 a Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 i ddarparu bod y Comisiwn yn uniongyrchol atebol i'r Senedd a Senedd yr Alban mewn perthynas ag ymarfer ei swyddogaethau datganoledig yng Nghymru a’r Alban.
Mae Corff Corfforaethol Senedd yr Alban (SPCB) a Phwyllgor Llywydd y Senedd yn craffu ar y Comisiwn.
Statws cyfreithiol
Cyfraith Weinyddol
Fel corff cyhoeddus, mae'r Comisiwn yn ddarostyngedig i egwyddorion arferol cyfraith weinyddol. Rhaid i'r Comisiwn weithredu'n rhesymol (yn yr ystyr na ddylai weithredu mewn modd na fyddai unrhyw gorff rhesymol fel y Comisiwn yn gweithredu) a dylai seilio ei benderfyniadau ar ystyriaethau perthnasol, gan ddiystyru ffactorau amherthnasol. Dylai'r Comisiwn, a'r Comisiynwyr, fod yn wrthrychol ac yn ddiduedd a chadw mewn cof mai corff statudol annibynnol yw’r Comisiwn.
Corff statudol
Fel corff statudol, mae'r Comisiwn yn ddarostyngedig i'r egwyddor mai dim ond y pethau y mae'r Senedd wedi rhoi’r pŵer neu’r ddyletswydd iddo drwy statud y gall y Comisiwn wneud (sef yr egwyddor 'ultra vires'). Rhaid bod yn bosibl adnabod yr awdurdod statudol y mae’r Comisiwn yn dibynnu arno mewn perthynas ag unrhyw weithred neu benderfyniad gan y Comisiwn.
Ombwdsmon
Mae'r Comisiwn yn rhan o gylch gwaith y Comisiynydd Seneddol dros Weinyddiaeth (yr Ombwdsmon). Mae'n ofynnol cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar Fynediad at Wybodaeth y Llywodraeth.
Rhyddid Gwybodaeth
Mae'r Comisiwn wedi'i restru fel awdurdod cyhoeddus yn Atodlen 1 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac felly mae'n ddarostyngedig i'r gyfundrefn Rhyddid Gwybodaeth. Mae'r Comisiwn wedi cyhoeddi Cynllun Cyhoeddi dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Mae'n ofynnol i'r Comisiwn gydymffurfio â cheisiadau am wybodaeth oni bai bod eithriad diffiniedig yn berthnasol.
Diogelu Data a diogelwch dogfennau
Mae'r Comisiwn yn cydymffurfio â chyfraith Diogelu Data, sy'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw sefydliad sy'n prosesu data personol ynghylch unigolion gydymffurfio â rhai mesurau diogelu. Mae hefyd yn rhoi'r hawl i unigolion gael mynediad at wybodaeth a gedwir yn eu cylch. Mae'r hawl hon i fynediad yn amodol ar rai eithriadau.
Pwyllgor y Llywydd
Penodir Pwyllgor y Llefarydd yn unol â darpariaethau adran 2 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) i gyflawni'r swyddogaethau a roddwyd iddo gan y Ddeddf honno. Dyma grynodeb o brif bwerau a dyletswyddau'r Pwyllgor:
- derbyn cyfrifon blynyddol y Comisiwn ac archwilio amcangyfrifon y Comisiwn
- archwilio cynllun nodau ac amcanion y Comisiwn dros y pum mlynedd nesaf a'i amcangyfrif o ofyniad am adnoddau yn ystod y cyfnod hwnnw ac ymgynghori â'r Trysorlys
- dynodi Swyddog Cyfrifyddu’r Comisiwn a phennu ei ch/gyfrifoldebau
- adrodd i'r Tŷ, o leiaf unwaith y flwyddyn, mewn perthynas â chyflawni ei swyddogaethau
- sefydlu a goruchwylio gweithdrefn ddethol ar gyfer Comisiynwyr
Caiff aelodaeth Pwyllgor y Llefarydd ei phennu yn unol â darpariaethau Adran 2 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Mae'n cynnwys yr aelodau a restrir ar wefan y Senedd
Pwyllgor y Llywydd
Mae adran 28 Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yn nodi bod gwaith craffu ar y Comisiwn i'w wneud gan bwyllgor o'r Senedd yng Nghymru. Felly, sefydlwyd Pwyllgor y Llywydd i graffu ar amcangyfrifon ariannol a chynlluniau a gyflwynwyd gan y Comisiwn wrth gyflawni ei swyddogaethau yn ymwneud ag etholiadau datganoledig Cymru a refferenda datganoledig Cymru.
Bob blwyddyn, mae'n ofynnol i'r Comisiwn gyflwyno amcangyfrif o incwm a gwariant sy'n ymwneud â'i swyddogaethau datganoledig yng Nghymru i Bwyllgor y Llywydd. Mae'n ofynnol i'r Comisiwn o bryd i’w gilydd gyflwyno cynllun sy'n gosod ei nodau, ei amcanion a'i gyllideb amcangyfrifedig ar gyfer ei swyddogaethau sy'n ymwneud ag etholiadau datganoledig Cymru a refferenda datganoledig Cymru yn y cyfnod o bum mlynedd nesaf.
Caiff Cyfrifon ac Adroddiadau'r Comisiwn eu rhoi gerbron y Senedd.
Corff Corfforaethol Senedd yr Alban
Mae Corff Corfforaethol Senedd yr Alban (SPCB) yn ystyried ac yn gwneud penderfyniadau ar ystod eang o faterion sy'n ymwneud â rhedeg Senedd yr Alban, gan gynnwys ariannu'r Senedd a dyrannu ei chyllideb. Bu i Adran 15 Deddf Etholiadau'r Alban (Diwygio) 2020 newid trefniadau ariannu’r Comisiwn fel bod yr SPCB yn dod yn gyfrifol yn ariannol am waith y Comisiwn mewn perthynas â'r Alban. Mae'n ofynnol i'r Comisiwn gyflwyno adroddiad blynyddol i Senedd yr Alban ynglŷn â pherfformiad o swyddogaethau datganoledig y Comisiwn yn yr Alban yn ystod y flwyddyn ariannol honno.
Mae'n ofynnol i'r Comisiwn gyflwyno cynllun pum mlynedd a gofynion amcangyfrifedig ar gyfer adnoddau i'r SPBC. Caiff Cyfrifon ac Adroddiadau'r Comisiwn hefyd eu rhoi gerbron Senedd yr Alban.
Crynodeb o'r ddeddfwriaeth berthnasol
Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, fel y'i diwygiwyd (a deddfwriaeth arall sy'n llywodraethu gwaith y Comisiwn).
Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 yn cynnwys diwygiadau sydd wedi'u gwneud gan ddeddfwriaeth ddilynol ers ei deddfiad yn 2001. Mae'n sefydlu'r Comisiwn Etholiadol; yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chofrestru a chyllid pleidiau gwleidyddol; rhoddion a gwariant at ddibenion gwleidyddol; ymgyrchoedd etholiad a refferendwm a chynnal deisebau etholiad refferenda a thrafodion cyfreithiol eraill mewn cysylltiad ag etholiadau.
Yn ogystal â Deddf 2000, mae yna ddeddfwriaethau eraill yn berthnasol i'r Comisiwn wrth gyflawni ei swyddogaethau. Mae hyn yn cynnwys y ddeddfwriaeth sylfaenol sy'n sail i gynnal etholiadau yn y DU a materion cysylltiedig, megis:
- Deddfau Llywodraeth Leol 1972, 1985, 1986, 1992, 2000 a 2003
- Deddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999
- Deddfau Cynrychiolaeth y Bobl 1981, 1983, 1985 a 2000
- Deddf Cyhoeddiadau Etholiadol 2001
- Deddf Gweinyddu Etholiadau 2006
- Deddfau Etholiadau Senedd Ewrop 1978, 1999, 2002 a 2004
- Deddf Anghymhwyso Tŷ'r Cyffredin 1975
- Deddf Tŷ'r Arglwyddi 1999
- Deddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999
- Deddfau Darlledu 1981 a 1990 a Deddf Cyfathrebu 2003
- Deddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1973
- Deddf yr Alban 1998
- Deddf Gwasanaethau Gweinyddu a Chofrestru Etholiadau Lleol (Yr Alban) 2006
- Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994Deddfau Llywodraeth Cymru 1998 a 2006
- Deddf Gogledd Iwerddon (Darpariaethau Amrywiol) 2006
- Deddfwriaeth sy'n ymwneud â'r lluoedd arfog
- Deddf Pleidiau Gwleidyddol ac Etholiadau 20093
- Deddf Gweinyddu Etholiadau Lleol (Yr Alban) 2011
- Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011
- Deddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadau 2013
- Deddf Tryloywder Lobïo, Ymgyrchwyr Nad Ydynt yn Bleidiau a Gweinyddu Undebau Llafur 2014 (Deddf Tryloywder)
- Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020
- Deddf Etholiadau'r Alban (Diwygio) 2020
- Deddf Etholiadau 2022
Mae yna hefyd lawer o orchmynion, rheoliadau a rheolau allweddol a wneir dan y ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu gweithrediad etholiadau.
Yn ogystal, mae llywodraethu a rhedeg y Comisiwn yn gyfreithlon yn gofyn am gydymffurfio â'r gyfraith gyffredinol, megis deddfwriaeth cydraddoldeb, hawliau dynol, cyflogaeth, caffael, iechyd a diogelwch, eiddo, hawliau deallusol, a mynediad at wybodaeth.
Y saith egwyddor bywyd cyhoeddus
Mae'r cod ymarfer 'Egwyddorion Nolan' wedi'i ysgrifennu mewn perthynas â'r saith egwyddor bywyd cyhoeddus a nodwyd gan y Pwyllgor Nolan yn eu Hadroddiad Cyntaf ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus ym mis Mai 1995 ac a gymeradwywyd wedyn gan y Llywodraeth.
Anhunanoldeb
Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus wneud penderfyniadau mewn perthynas â budd y cyhoedd yn unig. Ni ddylent wneud hynny er mwyn cael budd ariannol neu fudd sylweddol eraill iddynt hwy eu hunain, eu teulu na'u ffrindiau.
Uniondeb
Ni ddylai deiliaid swyddi cyhoeddus roi eu hunain dan unrhyw rwymedigaeth ariannol neu rwymedigaeth arall i unigolyn neu sefydliad o’r tu allan a allai ddylanwadu arnynt wrth gyflawni eu dyletswyddau swyddogol.
Gwrthrychedd
Wrth gyflawni busnes cyhoeddus, gan gynnwys gwneud penodiadau cyhoeddus, dyfarnu contractau, neu argymell unigolion ar gyfer gwobrau a buddion, dylai deiliaid swyddi cyhoeddus wneud dewisiadau yn seiliedig ar deilyngdod.
Atebolrwydd
Mae deiliaid swyddi cyhoeddus yn atebol am eu penderfyniadau a'u gweithredoedd i'r cyhoedd a rhaid iddynt gyflwyno eu hunain i ba bynnag waith craffu sy'n briodol i'w swydd.
Bod yn agored
Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus fod mor agored â phosibl mewn perthynas â'r holl benderfyniadau a chamau gweithredu maen nhw'n eu cymryd. Dylent roi rhesymau dros eu penderfyniadau a chyfyngu ar wybodaeth dim ond pan fydd budd ehangach y cyhoedd yn amlwg yn mynnu hynny.
Gonestrwydd
Mae gan ddeiliaid swyddi cyhoeddus ddyletswydd i ddatgan unrhyw fuddiannau preifat sy'n ymwneud â'u dyletswyddau cyhoeddus ac i gymryd camau i ddatrys unrhyw wrthdaro sy'n codi er mwyn amddiffyn budd y cyhoedd.
Arweinyddiaeth
Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus hyrwyddo a chefnogi'r egwyddorion hyn drwy arweinyddiaeth ac esiampl.
Cyflwyniad
Mae'r ddogfen hon yn nodi prif bolisïau ariannol y Comisiwn.
Prif amcan gosod polisïau ariannol yw rhoi fframwaith ar gyfer cynnal rheolaeth ariannol dros adnoddau'r Comisiwn, sy'n galluogi i flaenoriaethau strategol gael eu cyflawni ac i'r Prif Weithredwr gyflawni ei ch/gyfrifoldebau fel Swyddog Cyfrifyddu.
Er mwyn cefnogi'r polisïau hyn, mae yna ragor o bolisïau manwl wedi'u paratoi a'u cymeradwyo gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol. Mae'r polisïau ariannol manwl hyn wedi'u cynnwys yn y Llawlyfr Cyllid. Cyfeirir at y prif bolisïau ariannol a’r polisïau ariannol manwl gyda'i gilydd fel polisïau ariannol y Comisiwn.
Mae polisïau ariannol y Comisiwn yn cydymffurfio, ac yn gyson, â'r darpariaethau ariannol a nodir yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
Statws a chwmpas polisïau ariannol y Comisiwn
Mae cydymffurfio â pholisïau ariannol y Comisiwn yn orfodol i bob Comisiynydd, contractwr a staff (dros dro neu lawn amser) waeth beth fo'u cyfarwyddiaeth neu eu rôl. Gall unrhyw aelod o staff sy'n methu â chydymffurfio â'r polisïau ariannol fod yn destun camau disgyblu dan bolisi disgyblu'r Comisiwn. Bydd unrhyw achos sylweddol o dorri amodau polisïau ariannol y Comisiwn yn cael eu hysbysu i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ac i'r Archwiliad Mewnol. Cyfrifoldeb y Cyfarwyddwr perthnasol yw sicrhau bod staff yn cael gwybod am fodolaeth a chynnwys y polisïau ariannol hyn a'r polisïau ariannol manwl a bod staff sydd â chyfrifoldeb ariannol yn gwbl gyfarwydd â nhw.
Diwygio Prif Bolisïau Ariannol
Er mwyn sicrhau bod y polisïau hyn yn parhau i fod yn gyfredol a pherthnasol, bydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn cynnal adolygiad o leiaf bob blwyddyn ac, yn dilyn ymgynghori â'r Swyddog Cyfrifyddu a chraffu gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, yn argymell diwygiadau i Fwrdd y Comisiwn i'w cymeradwyo.
Cysylltiad â pholisïau eraill
Mae'r polisïau hyn yn gyson â pholisïau eraill sydd mewn grym o fewn y Comisiwn, yn enwedig y polisïau AD fel y'u nodir yn y Llawlyfr Staff, a dylid eu darllen ar y cyd â pholisïau o'r fath.
Buddsoddi cyfalaf a rheoli asedau
Polisi
Bydd yr holl asedau yn cael eu prynu'n ganolog neu eu prydlesu o fewn cyllidebau a gymeradwywyd gan y Comisiwn. Bydd prynu, rheoli, cadw diogel a gwaredu yn cael ei wneud yn unol â gweithdrefnau a gymeradwywyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol.
Bydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn:
- sicrhau bod y Comisiwn yn paratoi cyllideb gyfalaf gyfunol, a bod perfformiad yn cael ei fonitro
- cynnal terfynau cyfalafu a chyfraddau dibrisiant priodol
- sicrhau bod cofrestr asedau canolog o'r holl eitemau dros y trothwy cyfalafu yn cael ei chynnal
- sicrhau bod cofrestr ganolog o eitemau deniadol a bregus yn is na’r trothwy cyfalafu yn cael ei chynnal
- cynnal atodlen awdurdod dirprwyedig ar gyfer gwarediadau asedau
Rheoli Trysorlys a bancio
Polisi
Bydd y Comisiwn yn ymgymryd â rheoli arian parod yn unol â gofynion a chanllawiau bancio Trysorlys EF. Bydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn:
- monitro amcanestyniadau llif arian a pherfformiad misol
- cynnal a chymeradwyo atodlen o bersonél sy'n nodi pwy all awdurdodi taliadau yn erbyn cyfleusterau bancio'r Comisiwn ac unrhyw gyfyngiadau i werth ariannol y taliadau a'r cyfuniad o lofnodion sydd eu hangen
Rheoli dyledion a gwaith ar y gweill
Polisi
Bydd y Comisiwn yn caniatáu telerau credyd arferol ar gyfer talu anfonebau, ond bydd yn mynd ar drywydd dyledion sy'n fwy na hyn. Nid yw'r polisi hwn yn cwmpasu cosbau sifil a osodwyd dan a147 o PPERA.
Bydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn sicrhau bod:
- pob gwasanaeth a ddarperir yn cael ei anfonebu’n brydlon
- systemau priodol ar waith i adennill dyledion sy'n ddyledus
- unrhyw ddyledion na ellir eu hadennill i'w dileu yn cael eu hawdurdodi'n briodol yn unol ag awdurdodau dirprwyedig
- trefniadau priodol ar waith i reoli ffioedd sy'n ymwneud â chofrestru pleidiau gwleidyddol a chosbau a osodir ar bleidiau gwleidyddol
Caffael
Polisi
Bydd y Comisiwn yn sicrhau cystadleuaeth briodol o fewn pob pryniant i sicrhau bod pob gwariant wedi'i gyllidebu, wedi'i awdurdodi ac yn briodol. Bydd gwerth am arian yn cael ei geisio ar gyfer yr holl nwyddau a gwasanaethau, drwy ystyried addasrwydd at y diben, gwasanaeth, cynaliadwyedd a chostau oes gyfan.
Dylai staff sy'n ymwneud â chyflenwyr gynnal y safonau uchaf o onestrwydd, uniondeb, didueddrwydd a gwrthrychedd a sicrhau bod gwerth am arian yn cael ei gyflawni o bob caffaeliad.
Bydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn sicrhau bod:
- yr holl gaffael a wneir yn rhoi sylw dyledus i faterion cynaliadwyedd a materion masnachu moesegol fel y caniateir gan y gyfraith a bod y gyfraith achosion ddiweddaraf, canllawiau a deddfwriaeth berthnasol, polisi'r llywodraeth ac arfer dda yn cael eu hystyried
- gorchmynion yn cael eu paratoi a'u hawdurdodi'n briodol, a bod atodlen o awdurdod dirprwyedig i gymeradwyo archebion yn cael ei gynnal a'i gymeradwyo
- atodlen yn cael ei pharatoi a'i chynnal yn dangos sut fydd archebion yn cael eu gosod ac i ba raddau y bydd yr adran Gaffael ynghlwm
- gweithwyr sydd â phrofiad priodol yn cael eu dynodi fel llofnodwyr awdurdodedig ac yn cynnal rhestr gyfredol o feini prawf ar gyfer y staff hynny sydd wedi’u henwebu fel llofnodwyr
- yn unol â pholisi'r llywodraeth, bydd y Comisiwn yn ymdrechu i gynnwys cwmnïau bach ar restrau tendro ar gyfer gwaith sy’n cyd-fynd â'u capasiti a’u gallu a lle allant gystadlu'n rhesymol o ran gwerth am arian
- pan mae yna gontractau a chytundebau fframwaith ar waith, prynir yr holl ofynion drwyddynt ac eithrio fel y nodir yn y Polisïau Ariannol Manwl
- trefniadau priodol ar waith i reoli trefniadau ar gyfer defnyddio Cerdyn Caffael y Llywodraeth
Taliadau credydwyr
Polisi
Nod y Comisiwn yw talu credydwyr cyn pen 10 diwrnod o'r dyddiad y daw anfoneb ddilys i law, neu’n gynt o fewn telerau busnes cytunedig.
Bydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn sicrhau bod:
- System Archebu Pryniant y Comisiwn yn cael ei defnyddio ar gyfer pob math o bryniannau ac eithrio'r rhai a restrir yn y Polisïau Ariannol Manwl.
- Y Comisiwn yn gweithredu un Llyfr Prynu canolog ac o hwnnw y bydd taliadau cyflenwyr yn cael eu gwneud.
Trethiant
Polisi
Bydd y Comisiwn yn ceisio sicrhau bod yr holl drethi sy'n ddyledus ac yn daladwy yn cael eu talu’n brydlon gyda'r awdurdod perthnasol.
Bydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn sicrhau bod:
- archwiliad mewnol yn cynnal archwiliad o'n trefniadau treth o leiaf unwaith bob tair blynedd
- pob treth incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol sy'n ddyledus gan y Comisiwn a staff y Comisiwn a'r contractwyr yn cael eu didynnu'n briodol a'u talu i Gyllid a Thollau EF
Cynllunio corfforaethol a Rheoli prosiectau
Polisi
Mae Cynllun Corfforaethol y Comisiwn wedi'i nodi mewn dogfen gyhoeddedig.
Bydd y Prif Weithredwr yn sicrhau bod Cynllun Corfforaethol yn cael ei baratoi, ei gymeradwyo, ei gyhoeddi a'i ddiweddaru fel sy'n ofynnol gan y Bwrdd.
Ar gyfer rheolaeth fewnol, bydd y Comisiwn yn paratoi cynlluniau i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Cynllun Corfforaethol. Caiff y rhan fwyaf o waith y Comisiwn ei gyflawni drwy waith cyflawni prosiectau a busnesau. Caiff prosiectau eu diffinio'n glir o ran eu cwmpas a'r amcanion cyffredinol maen nhw’n ceisio eu cyflawni.
Gwneir gwaith pellach i ddatblygu cynllun manwl sy'n nodi ein dull o gyflawni. Y Tîm Gweithredol sy’n cytuno ar y prosiectau ac yn adolygu ein gwaith cyflawni busnes. Caiff gwaith cyflenwi busnes ei fonitro drwy gynlluniau gweithredol.
Bydd y Gwasanaethau Corfforaethol yn sicrhau bod prosesau ar waith fel bod:
- cyfres o brosiectau wedi’u diffinio er mwyn cyflawni nodau'r Comisiwn
- cynlluniau prosiectau yn cael eu paratoi i fynd i'r afael â'r Cynllun Corfforaethol, gan ymgorffori rhaglen lawn o weithgareddau, cynlluniau adnoddau a risgiau cysylltiedig
- cynlluniau gweithredol ar waith i gefnogi'r gwaith o gyflawni gweithgareddau nad ydynt yn dod dan un o brosiectau'r Comisiwn
- adolygiad o gynnydd y Comisiwn yn erbyn cynlluniau yn cael ei drafod yn fisol gan y Tîm Gweithredol
- adroddiadau cyfunol o gynnydd yn erbyn cynlluniau gan gynnwys esboniad o amrywiadau sylweddol yn cael eu cyflwyno i Fwrdd y Comisiwn bob chwarter
- risgiau sy'n gysylltiedig â phob cynllun yn cael eu hadlewyrchu'n briodol yn y Gofrestr Risg
| Dogfen | Amserlen baratoi | Arweinydd / Perchennog | Cyhoeddi |
|---|---|---|---|
| Cynllun Corfforaethol | Cynhyrchwyd ym mlwyddyn gyntaf Llywodraeth newydd | Prif Weithredwr | Cyhoeddir yn allanol |
| Cynlluniau Prosiectau | Yn seiliedig ar hyd y Prosiect | Cyfarwyddwr Prosiect Cyfrifol | Mewnol |
| Cynlluniau Cyfarwyddiaethau | Adolygir yn gyfatebol (o leiaf bob mis) | Cyfarwyddwr Cyfrifol | Mewnol |
Rheoli risg
Polisi
Bydd gan y Comisiwn drefniadau ar waith ar gyfer gwerthuso, ymwybyddiaeth a rheoli ei risgiau.
Bydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn sicrhau bod:
(a) Gan y Comisiwn broses gadarn ac effeithiol ar gyfer rheoli risg sydd wedi’i chymeradwyo gan y Bwrdd. Bydd hyn yn cynnwys:
- proses ar gyfer adnabod a meintioli risgiau ac atebolrwydd posibl ar draws y Comisiwn
- prosesau rheoli i sicrhau bod yr holl risg sylweddol ac atebolrwydd posibl yn cael eu lliniaru fel sy’n briodol
- trefniadau i adolygu'r prosesau rheoli risg o bryd i'w gilydd
(b) Adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg bob chwarter ar y risgiau allweddol sydd wedi’u hadnabod a'r broses ar gyfer eu rheoli.
Rheolaeth Fewnol
Polisi
Bydd y Comisiwn yn rhoi amgylchedd rheoli priodol a rheolaethau mewnol effeithiol ar waith sy'n darparu sicrwydd rhesymol o weithrediadau effeithiol ac effeithlon, stiwardiaeth ariannol, uniondeb a chydymffurfiaeth â chyfreithiau a pholisïau.
Bydd y Comisiwn yn gweithredu Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg y mae ei gylch gorchwyl wedi'u nodi yn y Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol.
Mae'r Prif Weithredwr, fel Swyddog Cyfrifyddu, yn gyfrifol am systemau rheolaeth fewnol y Comisiwn.
Bydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn sicrhau bod:
- polisïau ariannol yn cael eu hadolygu a'u diweddaru'n flynyddol
- swyddogaeth archwilio mewnol briodol ac effeithiol ar waith
- system ar waith ar gyfer monitro ac adrodd yn briodol ar bob achos o dorri amodau polisïau ariannol
Archwiliad
Polisi
Bydd y Comisiwn yn cynnal cyfleuster archwilio mewnol effeithiol ac annibynnol ac yn cydymffurfio'n llwyr â gofynion archwilio allanol ac adolygiadau statudol eraill.
Bydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn sicrhau bod:
- y Comisiwn yn cynnal swyddogaeth archwilio mewnol broffesiynol a thechnegol gymwys
- y broses benodi wedi’i chymeradwyo gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
- gan y swyddogaeth archwilio mewnol fynediad dirwystr at uwch bersonél y Comisiwn, cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a'r Prif Weithredwr
Cyfrifon ariannol blynyddol
Polisi
Bydd y Comisiwn yn cynhyrchu'r adroddiad a'r cyfrifon blynyddol statudol yn unol â'r holl safonau cyfrifyddu perthnasol, llawlyfr adrodd ariannol Trysorlys EF, amserlenni cytunedig a'r Cyfarwyddyd Cyfrifon cyfredol fel y'i cyhoeddwyd gan y Trysorlys.
Bydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn sicrhau bod:
- amserlen ar gyfer cynhyrchu'r Cyfrifon Blynyddol yn cael ei pharatoi a'i chytuno gan archwilio allanol a'r Swyddog Cyfrifyddu
- y cyfrifon yn cael eu paratoi yn unol â'r amserlen a gymeradwywyd gan y Swyddog Cyfrifyddu, eu harchwilio a'u rhoi gerbron y Senedd
- ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i'r adroddiad cwblhau archwiliad allanol ac yr ymdrinnir yn llwyr â'r holl faterion o fewn amserlenni cytunedig
Systemau cyfrifyddu
Polisi
Bydd y Comisiwn yn gweithredu un system gyfrifyddu ganolog y bydd cyfrifon rheoli ac ariannol yn cael eu cynhyrchu ohoni.
Bydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn sicrhau bod gan y Comisiwn feddalwedd ariannol a meddalwedd arall priodol i'w alluogi i gydymffurfio â'r polisïau hyn.
Hawliadau ac ymgyfreitha
Polisi
Bydd y Comisiwn yn cynnal trefniadau i sicrhau bod yr holl hawliadau ac ymgyfreitha presennol neu bosibl yn erbyn y Comisiwn yn cael eu trin yn briodol gan ystyried swyddogaethau statudol a sefyllfa y Comisiwn fel corff cyhoeddus, yr angen i gyflawni gwerth am arian ac egwyddorion masnachol perthnasol.
Bydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Cyfarwyddwr Datganoli a'r Gyfraith yn sicrhau bod gweithdrefnau ar waith i adrodd cyn gynted ag sy’n ymarferol unrhyw hawliad sydd â chanlyniadau sylweddol posibl i'r Prif Weithredwr. Bydd yr hawliadau hyn yn cael eu hadrodd i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg fel rhan o'r trefniadau ar gyfer monitro risgiau.
Twyll
Polisi
Mae'r Comisiwn yn ei gwneud yn ofynnol i bob aelod o staff ymddwyn yn onest a chydag uniondeb ac i ddiogelu'r adnoddau cyhoeddus y maent yn gyfrifol amdanynt. Ni fydd y Comisiwn yn goddef unrhyw dwyll a gyflawnir yn ei erbyn a bydd yn mynd ar drywydd unrhyw golled a ddioddefir yn weithredol. O fewn y polisïau manwl, bydd y Comisiwn yn cynnal Cynllun Ymateb i Dwyll ac ymateb i ddeddfwriaeth Gwyngalchu Arian.
Bydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn:
- sicrhau bod y Polisïau Ariannol Manwl yn cynnwys Cynllun Ymateb i Dwyll ac ymateb y Comisiwn i ddeddfwriaeth Gwyngalchu Arian, ar ôl ymgynghori ac arbenigwyr twyll y Comisiwn
- sicrhau bod yna ohebiaeth reolaidd â rheolwyr llinell a staff yn gyffredinol yn eu hatgoffa o'u cyfrifoldebau dan y polisi hwn
Ffioedd a chodi tâl
Polisi
Bydd y Comisiwn yn adolygu'r graddfeydd ffioedd a thaliadau bob blwyddyn a'r trefniadau sydd ar waith i gasglu ffioedd a thaliadau fel y gall gyflawni ei gyfrifoldebau statudol i gasglu ffioedd ar gyfer cofrestru pleidiau gwleidyddol a dirwyon.
Bydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn:
- adolygu’r graddfeydd ffioedd ar gyfer cofrestru pleidiau gwleidyddol a dirwyon i sicrhau bod costau darparu'r gwasanaethau hyn yn hysbys a bod gofynion statudol yn cael eu bodloni, a hynny ar y cyd â’r Cyfarwyddwr Gweinyddu a Rheoleiddio Etholiadol
- cymeradwyo'r dull o gyfrifo taliadau a ffioedd pan ddaw i gytundebau o ran codi tâl am wasanaethau neu pan fo'r Comisiwn yn rhan o sefyllfa dendro gystadleuol
- cymeradwyo'r fethodoleg ar gyfer cyfrifo ffioedd ad hoc
- cymeradwyo'r fethodoleg ar gyfer ailgodi taliadau mewnol
Taliadau i gyrff allanol
Polisi
Bydd y Comisiwn yn gweinyddu cynlluniau grant priodol fel sy'n ofynnol yn statudol, neu a ganiateir, i gyflawni ei amcanion corfforaethol gan ystyried costau a manteision gwneud hynny.
Gellir contractio gwaith i gyrff eraill a'i weinyddu dan gontractau priodol neu femorandwm cyd-ddealltwriaeth.
Bydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn:
- adolygu'r trefniadau ar gyfer gweinyddu ffioedd a thaliadau mewn perthynas â refferendwm gyda'r Cyfarwyddwr Gweinyddu a Rheoleiddio Etholiadol
- adolygu'r trefniadau sydd ar waith i weinyddu a chyfrif am Grantiau Datblygu Polisi gyda'r Cyfarwyddwr Gweinyddu a Rheoleiddio Etholiadol
- cymeradwyo'r trefniadau ar gyfer gweinyddu a chyfrifo ar gyfer unrhyw gynllun grant a weithredir gan y Comisiwn
- sicrhau bod cynigion ar gyfer unrhyw gynllun grant newydd yn cael eu cefnogi gan ddeddfwriaeth ac yn cael eu cymeradwyo gan y Bwrdd
- sicrhau bod cynlluniau grant yn cael eu hadolygu drwy archwiliad mewnol neu allanol yn flynyddol
Cyfieithiad o addasiad o Bennod 3 ‘Managing Public Money’, Trysorlys EF, Hydref 2007
Rôl y swyddog cyfrifyddu
Mae'n rhaid bod swyddogion cyfrifyddu yn gallu rhoi sicrwydd i Senedd y DU a'r cyhoedd am safonau uchel o ran gonestrwydd wrth reoli arian cyhoeddus.
Yn ffurfiol, mae'r swyddog cyfrifyddu mewn sefydliad yn y sector cyhoeddus yn rhywun y gall Senedd y DU ei ddwyn i gyfrif am warchod yr adnoddau o fewn ei reolaeth.
Penodi'r swyddog cyfrifyddu
Penodir Swyddog Cyfrifyddu'r Comisiwn o dan Atodlen 1, paragraff 19 (1) o PPERA.
Cyfrifoldebau arbennig swyddogion cyfrifyddu
Mae pob swyddog cyfrifyddu yn ymgymryd â'r cyfrifoldeb am sicrhau bod y sefydliad y mae'n ei reoli yn cyrraedd y safonau y cyfeirir atynt yn Managing Public Money. Yn benodol, mae'n rhaid i'r swyddog cyfrifyddu lofnodi'n bersonol y canlynol:
- y cyfrifon
- yr adroddiad blynyddol
- datganiad llywodraethu
Ac, ar ôl bodloni ei hun eu bod wedi cael eu paratoi'n briodol i adlewyrchu busnes y sefydliad, mae'n rhaid cymeradwyo'n bersonol:
- terfynau cyllidebau a ddyfarnwyd drwy bleidlais
- y Memorandwm o Amcangyfrifon cysylltiedig
Mae sawl maes arall lle y dylai swyddogion cyfrifyddu fod yn gyfrifol yn bersonol:
- rheoleidd-dra a phriodoldeb, gan gynnwys ceisio cymeradwyaeth y Trysorlys am unrhyw wariant y tu hwnt i'r dirprwyaethau arferol neu y tu hwnt i is-benawdau Amcangyfrifon
- dewis ac arfarnu rhaglenni a phrosiectau: defnyddio Llyfr Gwyrdd y Trysorlys i werthuso dewisiadau amgen, a thechnegau rheoli prosiectau a rhaglenni o ansawdd da, megis PRINCE2, i olrhain cynnydd, a'i addasu lle y bo angen.
- fforddiadwyedd a chynaliadwyedd: parchu cyllidebau y cytunwyd arnynt ac osgoi ymrwymiadau nad ydynt yn fforddiadwy yn y tymor hwy, gan lunio barn gymesur am alwadau eraill am adnoddau.
- gwerth am arian: sicrhau bod caffael, prosiectau a phrosesau'r sefydliad yn cael eu gwerthuso a'u hasesu'n systematig er mwyn rhoi hyder ynglŷn ag addasrwydd, effeithiolrwydd, doethineb, ansawdd, gwerth da ac osgoi camgymeriadau a gwastraff arall, o'u barnu o safbwynt y sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd, nid dim ond sefydliad y swyddog cyfrifyddu
- rheoli cyfleoedd a risg er mwyn sicrhau'r cydbwysedd cywir sy'n gymesur â busnes y sefydliad a'i awydd i gymryd risgiau
- dysgu o brofiad, gan ddefnyddio adborth mewnol, ac o bob rhan o'r sector cyhoeddus
cyfrifyddu'n gywir am sefyllfa ariannol a thrafodion y sefydliad: er mwyn sicrhau bod y wybodaeth - ariannol gyhoeddedig yn dryloyw ac yn gyfredol; a bod effeithlonrwydd y sefydliad o ran defnyddio adnoddau yn cael ei olrhain a'i gofnodi
Pan na fydd y swyddog cyfrifyddu ar gael
Rhaid i bob sefydliad yn y sector cyhoeddus sicrhau bod swyddog cyfrifyddu ar gael i roi cyngor neu benderfynu ar fater yn ôl yr angen ar fyr rybudd.
Pan fydd y swyddog cyfrifyddu yn absennol ac na ellir cysylltu ag ef yn hawdd, dylai'r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol ddirprwyo. Os bwriedir i'r swyddog cyfrifyddu fod yn absennol am gyfnod sylweddol, gall y swyddog cyfrifyddu neu, yn ei absenoldeb, y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, wahodd Pwyllgor y Llefarydd i benodi swyddog cyfrifyddu dros dro.
Gwrthdaro buddiannau
Os bydd swyddog cyfrifyddu yn wynebu achos gwirioneddol neu bosibl o wrthdaro buddiannau, mae'n hanfodol dod o hyd i ffordd o ymdrin ag ef. Ymhlith y ffyrdd posibl o reoli'r mater hwn mae'r canlynol:
- ar gyfer achos sylweddol ond dros dro o wrthdaro buddiannau, gwahodd Pwyllgor y Llefarydd i benodi swyddog cyfrifyddu dros dro am gyfnod yr achos o wrthdaro buddiannau
- ar gyfer mân achos o wrthdaro buddiannau, datgan bod gwrthdaro buddiannau a threfnu i rywun arall heblaw'r swyddog cyfrifyddu wneud penderfyniadau ar y mater(ion) dan sylw
- ar gyfer achosion difrifol ac estynedig o wrthdaro buddiannau, ymddiswyddo
Dehongli
Bwrdd y Comisiwn fydd yr awdurdod terfynol ar ddehongli'r ddogfen hon. Bydd Ysgrifennydd Bwrdd y Comisiwn yn cynghori'r Bwrdd mewn cyfarfodydd cyffredin ar ddehongli'r ddogfen hon. Mewn cyfarfodydd pwyllgor a chyfarfodydd eraill, bydd y swyddog cyfrifol am swyddogaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol ar gyfer y cyfarfod yn cynghori ar ddehongli'r ddogfen hon.
Bydd i unrhyw ymadrodd y rhoddir ei ystyr yn neddfwriaeth lywodraethu'r Comisiwn yr un ystyr yn y ddogfen hon. Yn ogystal:
- ystyr ‘Swyddog Cyfrifyddu’ yw'r Swyddog sy'n gyfrifol ac yn atebol am gyllid a roddir yng ngofal y Comisiwn – i'r Comisiwn, y Prif Weithredwr fydd y Swyddog Cyfrifyddu
- ystyr ‘Bwrdd’ yw Bwrdd y Comisiwn Etholiadol ynghyd
y ‘Cadeirydd’ yw'r person a benodir gan Ei Fawrhydi y Brenin ar argymhelliad Tŷ'r Cyffredin - ystyr ‘Comisiwn’ yw'r Comisiwn Etholiadol
- ystyr ‘Comisiynydd’ neu ‘Aelod o'r Bwrdd’ neu ‘Aelod’ yw person a benodir gan Ei Fawrhydi y Brenin yn aelod o'r Comisiwn
- ystyr ‘Prif Weithredwr’ yw prif swyddog gweithredol y Comisiwn a Swyddog Cyfrifyddu'r Comisiwn
- ystyr ‘Cyhoeddiadau Arwyddocaol’ fel y cyfeirir atynt yn y cynllun dirprwyo yw'r Cynllun Corfforaethol, Adroddiad Blynyddol, adroddiadau Statudol, gan gynnwys adroddiadau etholiadau, Strategaethau ar gyfer ymgyrchoedd mawr i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd, ac adroddiadau polisi arwyddocaol
- ystyr ‘Swyddog Enwebedig’ yw swyddog sydd â chyfrifoldeb am gyflawni tasgau penodol o dan Reolau Sefydlog a dogfennau eraill ac iddynt rym Rheolau Sefydlog.
- ystyr ‘Swyddog’ yw rhywun a gyflogir gan y Comisiwn.
Diben
Mae'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn cefnogi'r Swyddog Cyfrifyddu i gyflawni cyfrifoldebau atebolrwydd ffurfiol. Mae'r Pwyllgor yn cynnig cyngor gwrthrychol ac yn sicrhau bod y prosesau risg, rheoli, sicrwydd a llywodraethu mwyaf effeithlon, effeithiol ac economaidd ar waith. Mae'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg hefyd yn gweithredu ar ran y Bwrdd i roi sicrwydd iddynt ar y materion hyn.
Aelodaeth
Bydd yna dri aelod o'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, gan gynnwys y Cadeirydd. Penodir y Cadeirydd gan Fwrdd y Comisiwn. Bydd Cynghorydd Annibynnol i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn cael ei benodi gan Fwrdd y Comisiwn, ond ni fydd yn aelod o'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. Gellir gwahodd y Cynghorydd Annibynnol i fynychu o leiaf un cyfarfod Bwrdd y Comisiwn, i gefnogi'r gwaith o gyflwyno cyfrifon ac adroddiad blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg i Fwrdd y Comisiwn.
3. Bydd y Bwrdd yn penodi tri o'u nifer i fod yn aelodau o'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. Ni chaniateir penodi Cadeirydd y Comisiwn Etholiadol yn aelod o'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. Mae croeso i Gomisiynwyr eraill fynychu cyfarfodydd fel arsylwyr ond ni fyddant yn cyfrif tuag at y cworwm ac ni fydd ganddynt hawl i bleidleisio. Bydd papurau'r pwyllgor ar gael i holl aelodau'r Bwrdd.
4. Bydd aelodau'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn gwasanaethu am dair blynedd, oni bai bod aelod yn peidio â bod yn Gomisiynydd Etholiadol neu'n gofyn am gael sefyll i lawr. Gellir ail-benodi aelodau am gyfnod pellach heb fod yn hirach na thair blynedd, neu hyd at ddiwedd eu tymor fel Comisiynydd (os yw hynny'n gynt).
5. Rhaid i aelodau gael rhaglen sefydlu ar eu cyfer.
Mynychwyr eraill
6. Bydd Swyddog Cyfrifyddu'r Comisiwn Etholiadol a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol, ynghyd â chynrychiolwyr o'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol ac Archwilio Mewnol, fel arfer yn mynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg drwy wahoddiad. Gall y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ofyn i unrhyw aelod arall o staff y Comisiwn fynychu ei gyfarfodydd i helpu i ystyried unrhyw fater.
7. Caiff y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ofyn i unrhyw un neu bob un o'r rhai nad ydynt yn Gadeirydd neu aelodau dynnu'n ôl, er mwyn hwyluso trafodaeth agored a gonest o faterion penodol.
Mynediad
8. Bydd gan y Pennaeth Archwilio Mewnol a chynrychiolydd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol fynediad am ddim a chyfrinachol at Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.
9. Bydd gan gynrychiolydd o'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol a'r Pennaeth Archwilio Mewnol hawl i fynychu unrhyw gyfarfod o'r Comisiynwyr Etholiadol (ac eithrio'r rhai sy'n ymwneud â phleidiau a phenderfyniadau rheoleiddio cyllid etholiadol) ar gais.
10. Bydd y Bwrdd yn penodi unigolyn sydd â chymhwyster CCAB1 neu gymhwyster cyfrifyddu cyfwerth sydd heb unrhyw gysylltiad â'r Comisiwn fel Cynghorydd Annibynnol i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. Ni fydd y Cynghorydd Annibynnol yn aelod o'r Pwyllgor nac yn pleidleisio.
Cadeirydd
11. Yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, caiff aelodau'r Pwyllgor gytuno y bydd aelod arall yn ymgymryd â rôl Cadeirydd am y tro.
Ysgrifenyddiaeth
Bydd cefnogaeth i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn cael ei ddarparu gan Ysgrifennydd Bwrdd y Comisiwn.
Cworwm
Bydd dau aelod o'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn ffurfio cworwm.
Cyfarfodydd
Bydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn cyfarfod yn rheolaidd ac o leiaf bedair gwaith y flwyddyn. Gall Cadeirydd y Pwyllgor gynnull cyfarfodydd ychwanegol yn ôl yr angen fel sy’n briodol, gan gynnwys ar gais y Swyddog Cyfrifyddu, y Pennaeth Archwilio Mewnol neu'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol.
Cyfrifoldebau
Mae'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn cefnogi'r Swyddog Cyfrifyddu i gyflawni ei ch/gyfrifoldebau atebolrwydd ffurfiol, drwy gynnig cyngor gwrthrychol a sicrhau bod y prosesau risg, rheoli a llywodraethu mwyaf effeithlon, effeithiol ac economaidd ar waith, a bod y prosesau sicrwydd cysylltiedig ar eu gorau. Bydd y Pwyllgor hefyd yn hyrwyddo moeseg a gwerthoedd priodol o fewn y sefydliad. Mae'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg hefyd yn gweithredu ar ran y Bwrdd i roi sicrwydd iddynt ar y materion hyn.
16. Mae'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn profi ac yn herio'r sicrwydd sydd ar gael i'r Swyddog Cyfrifyddu, y ffordd y mae'r sicrwydd hwn yn cael ei ddatblygu, a'r blaenoriaethau rheoli a'r dulliau rheoli y mae'r sicrwydd yn seiliedig arnynt.
17. Yn ogystal, o'r gwaith y mae'n ei wneud, bydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn datblygu gwybodaeth dda am feysydd o wendid yn y sefydliad a'u harwyddocâd. Gall hyn helpu'r Swyddog Cyfrifyddu i nodi ei b/flaenoriaethau ar gyfer gweithredu. Er mwyn cynorthwyo ei waith, darperir dangosfwrdd i'r Pwyllgor sy'n cwmpasu meysydd allweddol o'i gyfrifoldebau.
18. Bydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn adolygu'n benodol:
- Y prosesau strategol ar gyfer risg, rheoli (gan gynnwys rheoli ariannol a rheoli perfformiad sefydliadol), sicrwydd a llywodraethu (gan gynnwys polisïau corfforaethol mawr)
- y gweithgaredd a'r canlyniadau arfaethedig o fewn llywodraethu gwybodaeth a'r Asesiad Blynyddol o Reoli Risg Gwybodaeth
- y modd caiff prosiectau mawr eu rheoli ac unrhyw wersi a ddysgwyd
- y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ac argymell cymeradwyo'r Datganiad gan y Swyddog Cyfrifyddu fel y bo'n briodol
- polisïau cyfrifyddu a chyfrifon blynyddol y Comisiwn Etholiadol, gan gynnwys y broses ar gyfer adolygu'r cyfrifon cyn eu cyflwyno i'w harchwilio; y lefelau gwall a nodwyd; a llythyr cynrychiolaeth y rheolwyr i'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol
- cynlluniau ac adroddiadau'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol ac ymatebion y rheolwyr i unrhyw gynigion
- adroddiadau'r gwasanaeth archwilio mewnol ac ymatebion y rheolwyr i unrhyw gynigion, yn ogystal â chytuno ar y cynlluniau archwilio mewnol strategol a blynyddol
- sicrwydd sy'n ymwneud â'r gofynion llywodraethu corfforaethol ar gyfer y Comisiwn Etholiadol gan gynnwys cymeradwyo'r Polisi Chwythu'r Chwiban, y polisi Gwrth-dwyll a Gwrth-lwgrwobrwyo, a'r polisi ar gyfer awdurdodi hawliadau am dreuliau gan y Prif Weithredwr a'r Cadeirydd ynghyd ag adolygu treuliau awdurdodedig cyn eu cyhoeddi, gyda chyfle i godi unrhyw ymholiadau gyda’r Bwrdd
- cynigion ar gyfer tendro gwasanaethau Archwilio Mewnol, neu ar gyfer prynu gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud ag archwilio gan gontractwyr sy'n darparu gwasanaethau archwilio
19. Bydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn gwneud adroddiad blynyddol i Fwrdd y Comisiwn ar ei waith.
Cofnodion
Cymerir cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ac, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cadeirydd, cânt eu dosbarthu i aelodau'r pwyllgor. Byddant yn cael eu cymeradwyo yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, a'u cyhoeddi.
Bydd papurau a chofnodion y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ar gael i holl aelodau'r Bwrdd drwy Borth y Bwrdd.
[Fel y'i cymeradwywyd gan y Pwyllgor ar 15 Medi 2025]
Diben
Bydd y Pwyllgor yn gweithredu fel grŵp cynghori ar y graddau y mae datblygiad sefydliadol a materion AD strategol yn cefnogi cyfeiriad strategol y Bwrdd ar gyfer y Comisiwn.
Mae'r Pwyllgor Pobl, Diwylliant a Chydnabyddiaeth wedi'i sefydlu i gefnogi'r Cadeirydd, y Bwrdd a'r Prif Weithredwr fel Swyddog Cyfrifyddu (fel sy’n briodol) yn eu cyfrifoldebau o ran:
- cymeradwyo newidiadau sylweddol i strwythur sefydliadol (gan gynnwys strwythur y Tîm Gweithredol) a/neu delerau ac amodau cyflogaeth cyffredinol staff ac unrhyw effaith y newid, megis terfynu contractau
- adolygu'r polisi ar gyfer cydnabyddiaeth y Prif Weithredwr, ac argymell cydnabyddiaeth y Prif Weithredwr (ar adeg recriwtio, neu ar adeg arall os oes angen)
- cytuno ar y cylch gorchwyl trafod blynyddol ar gyfer dyfarniadau cyflogau staff, (gan gynnwys y Tîm Gweithredol), gan ystyried rhwymedigaethau'r Comisiwn dan PPERA 2000
- argymell y ffi ar gyfer yr ymgynghorydd annibynnol i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
- argymell aelodaeth Paneli Penodi ar gyfer rolau Cynghorydd Annibynnol/Cadeirydd i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, ac ar gyfer y Prif Weithredwr, i'w cymeradwyo gan y Bwrdd
Aelodaeth
Bydd y Pwyllgor yn cynnwys tri Chomisiynydd Etholiadol.
Dim ond aelodau'r Pwyllgor sydd â'r hawl i fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor. Fodd bynnag, gellir gwahodd unigolion eraill fel y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Corfforaethol, y Pennaeth Adnoddau Dynol, aelodau'r grŵp cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chynghorwyr allanol i fynychu cyfarfod cyfan neu ran o gyfarfod pryd bynnag mae hynny'n briodol.
Bydd aelodau o'r Pwyllgor Pobl, Diwylliant a Chydnabyddiaeth yn gwasanaethu am dair blynedd, oni bai bod aelod yn rhoi'r gorau i fod yn Gomisiynydd Etholiadol neu'n gofyn am gael gadael ei swydd. Gellir eu hail-benodi am gyfnod pellach heb fod dim hirach na thair blynedd.
Rhaid i aelodau gael rhaglen sefydlu ar eu cyfer.
Cadeirydd
Penodir Cadeirydd y Pwyllgor Pobl, Diwylliant a Chydnabyddiaeth gan Fwrdd y Comisiwn. Yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor Pobl, Diwylliant a Chydnabyddiaeth, gall aelodau'r Pwyllgor gytuno y bydd aelod arall yn ymgymryd â rôl Cadeirydd.
Ysgrifennydd
Bydd Ysgrifennydd y Bwrdd neu'r Rheolwr Adnoddau Dynol yn darparu cymorth gweinyddol i'r Pwyllgor.
Quorom
au sydd ei angen i gael cworwm ar gyfer trafodion busnes.
Cyfarfodydd
Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod o leiaf bedair gwaith y flwyddyn ac ar unrhyw adegau eraill yn ôl yr angen.
Cyfrifoldebau
O ran materion yn ymwneud a chydnabyddiaeth, bydd y Pwyllgor yn:
- cymeradwyo'r fframwaith ar gyfer cyfanswm y pecyn buddion (cydnabyddiaeth a buddion cyflogeion) ar gyfer holl staff y Comisiwn Etholiadol (gan gynnwys y Tîm Gweithredol); unrhyw newidiadau sylweddol i delerau ac amodau cyflogaeth cyffredinol staff ac unrhyw newidiadau cysylltiedig megis terfynu contractau
- argymell i'r Bwrdd y fframwaith ar gyfer cydnabyddiaeth y Prif Weithredwr, os yw'n wahanol i'r fframwaith sy'n berthnasol i bob aelod arall o staff
- ystyried y dylid cynnig cymhellion priodol i aelodau staff i annog perfformiad unigol a chyfunol gwell ac, mewn modd teg a chyfrifol, i gael eu gwobrwyo am eu cyfraniadau unigol at lwyddiant y Comisiwn, wrth bennu fframweithiau a pholisïau o'r fath; ac ystyried PPERA
- adolygu priodoldeb a pherthnasedd parhaus fframwaith y buddion cyfan a chynnig diwygiadau fel sy’n briodol
- argymell i'r Bwrdd unrhyw newidiadau i'r ffi ar gyfer Ymgynghorydd annibynnol y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. Rhagwelir y bydd unrhyw gynnydd yn unol â'r cynnydd a ddyfarnwyd i'r Comisiynwyr
- adolygu adroddiad blynyddol i'r Pwyllgor o unrhyw delerau, neu daliadau a wneir wrth derfynu cyflogaeth i sicrhau nad yw methiant yn cael ei wobrwyo a bod y ddyletswydd i liniaru colledion yn cael ei chydnabod yn llwyr. Bydd Cadeirydd y Pwyllgor yn cael gwybod ymlaen llaw am wneud telerau a thaliadau o'r fath (e.e. cytundebau cyfaddawdu)
- adolygu dangosyddion perfformiad allweddol y gweithlu, canlyniadau arolwg staff blynyddol, a dangosyddion lles staff.
- gofyn i’r Comisiwn am unrhyw adroddiadau neu arolygon y mae'n eu hystyried yn angenrheidiol i'w helpu i gyflawni ei rwymedigaethau, er enghraifft adroddiadau meincnodi cyflog neu wybodaeth ynghylch cydnabyddiaeth mewn cwmnïau eraill
- adrodd i'r Bwrdd ar waith y Pwyllgor yn flynyddol
O ran Adnoddau Dynol, bydd y Pwyllgor yn gweithredu fel grŵp cynghori yn ôl y gofyn ar faterion megis:
- y dull gweithredu cyffredinol a chwmpas y strategaeth Adnoddau Dynol, yn enwedig mewn perthynas â dylunio sefydliadol, ail-strwythuro sylweddol neu raglenni newid
- materion mawr yn ymwneud ag undebau llafur neu gysylltiadau diwydiannol sy'n effeithio ar y Comisiwn cyfan
- datblygiad sefydliadol sy'n ymwneud â chred, gwerthoedd, diwylliant ac effeithiolrwydd y Comisiwn
- dull gweithredu’r Comisiwn, o fewn ei weithlu, ac mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- Goruchwyliaeth strategol o'r materion mewnol yn y Strategaeth a Chynllun Gweithredu Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
- iechyd a diogelwch, gan gynnwys lles staff y Comisiwn, darparu cymorth i'r Cadeirydd wrth recriwtio'r Prif Weithredwr (gan gynnwys argymell cyfansoddiad ac aelodaeth y Panel Penodiadau i'r Bwrdd i'w gymeradwyo)
Bydd y Pwyllgor yn adolygu ei gylch gorchwyl ei hun yn flynyddol
Cofnodion
Bydd yr Ysgrifennydd yn cofnodi trafodion a phenderfyniadau holl gyfarfodydd y pwyllgor, gan gynnwys enwau'r rhai sy'n bresennol.
Bydd cofnodion cyfarfodydd pwyllgor yn cael eu dosbarthu'n brydlon i'r Cadeirydd a holl aelodau'r Pwyllgor. Ar ôl cymeradwyo Cadeirydd y pwyllgor, bydd y cofnodion yn cael eu dosbarthu i holl aelodau'r Bwrdd (oni bai bod gwrthdaro buddiannau yn bodoli) yn ei gyfarfod nesaf fydd ar gael, er gwybodaeth. Cytunir ar y cofnodion yn ffurfiol yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.
[Fel y'i cymeradwywyd gan y Pwyllgor ar 20 Mawrth 2025]
Cyflwyniad
Mae'r Comisiwn Etholiadol yn gorff annibynnol a sefydlwyd gan Senedd y DU, ac mae ei brif swyddogaethau wedi'u nodi yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) fel y'i diwygiwyd.
Ei nod yw uniondeb a hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd.
Mae Comisiynwyr, a'r Comisiwn fel corff, yn atebol i'r Senedd. O fewn y Comisiwn, mae Comisiynwyr yn atebol i'r Cadeirydd. Disgwylir i Gomisiynwyr weithredu bob amser i hyrwyddo nodau ac amcanion y Comisiwn, a chynnal ei ddidueddrwydd.
Pwrpas y cod hwn yw darparu canllawiau clir ar y safon ymddygiad a ddisgwylir ohonoch chi fel Comisiynydd Etholiadol, ar bwysigrwydd cyfrifoldeb ar y cyd, ac ar gynnal y safonau uchaf o uniondeb, gonestrwydd, didueddrwydd a gwrthrychedd sy'n rhan annatod o'ch rôl fel Comisiynydd. Dyma'r safonau a nodir yn Egwyddorion Nolan (Atodiad 6). Mae'r cyfrifoldeb ar Gomisiynwyr i ddatgan unrhyw un o'r materion y cyfeirir atynt yn y Cod, neu adrodd am unrhyw newid yn eu hamgylchiadau a allai effeithio ar eu sefyllfa.
Dylai Comisiynwyr Etholiadol ddarllen y cod, llofnodi a dyddio'r datganiad ar ddiwedd y ddogfen a'i ddychwelyd i Ysgrifennydd Bwrdd y Comisiwn. Pan fydd yna ddiweddariadau sylweddol i'r Cod, gwahoddir Comisiynwyr i lofnodi'r Cod sydd wedi'i ddiweddaru. Cadwch gopi o'r cod er eich gwybodaeth.
Gwrthdaro buddiannau
Rhaid i waith y Comisiwn gael ei wneud yn rhydd rhag unrhyw awgrym o ddylanwad amhriodol, boed yn ariannol, personol neu wleidyddol. Mae hyn yn hanfodol i gynnal hyder y cyhoedd yn y Comisiwn yn gyffredinol, ac yn enwedig yn ei rôl fel rheoleiddiwr. Rhaid i ni allu sicrhau pobl bod gwrthdaro buddiannau yn cael eu hadnabod a'u rheoli yn brydlon, yn dryloyw ac yn ddiogel; a bod y wybodaeth sydd gennym yn cael ei thrin yn briodol.
Y cwestiwn allweddol i'w ofyn bob amser wrth asesu a ddylid cofnodi buddiant, rhodd, math o letygarwch neu gyfarfod yw: a yw'n effeithio ar waith y Comisiwn Etholiadol neu ganfyddiad rhesymol y cyhoedd o fy rôl fel Comisiynydd Etholiadol?
Disgwylir i bob Comisiynydd weithredu drwy dynnu ar eu profiad a'u gwybodaeth er budd gwaith y Comisiwn. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod gwrthdaro buddiannau gwirioneddol a phosibl (go iawn neu y gellid eu canfod yn rhesymol) yn cael eu datgelu er mwyn sicrhau y gellir eu cofnodi ac y gellir rheoli unrhyw niwed posibl i enw da, naill ai i chi neu'r Comisiwn.
Gall methiant i ddatgan buddiant a gweithredu'n briodol effeithio ar ddilysrwydd penderfyniad. Y prawf ym mhob mater yw - a fyddai arsylwr teg a gwybodus yn dod i'r casgliad bod yna bosibilrwydd gwirioneddol o ragfarn? Nid yw’r mater yn ymwneud yn unig ag a oes rhagfarn, ond yn hytrach a allai fod yna amheuaeth resymol o ragfarn? Rhaid gwneud penderfyniadau mewn ffordd ddiduedd heb i unrhyw farn gael ei ffurfio ymlaen llaw (neu'r canfyddiad bod yna farn wedi’i ffurfio) os nad yw’r safbwyntiau a thystiolaeth wedi'u clywed eto.
Mae'n ofynnol i chi ddatgan pob buddiant a allai gynrychioli gwrthdaro â'ch rôl yn y Comisiwn, er enghraifft penodiadau allanol â thâl a di-dâl, ymgynghoriaeth, ymddiriedolaethau, cyfarwyddiaethau, rolau cynghori a gwirfoddol. Cewch ymgynghori â chydweithwyr y Comisiwn, ac yn enwedig y Cadeirydd, cyn derbyn penodiadau eraill a allai effeithio ar eich rôl naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, neu mewn unrhyw ffordd sy’n gwrthdaro â buddiannau'r Comisiwn.
Os gofynnwyd i chi roi cyngor neu benderfynu ar faterion sy'n ymwneud â gwaith y Comisiwn, a gellid eu hystyried yn effeithio ar ddidueddrwydd y Comisiwn, dylech ystyried yn ofalus a ddylid derbyn y cais. Gofynnir i chi gadw hyn mewn cof yn arbennig mewn perthynas â cheisiadau gan:
- aelodau o bleidiau gwleidyddol, eu swyddogion neu aelodau
- grŵp neu unigolyn sy'n ymgyrchu mewn etholiad neu refferendwm (neu lle gellid gweld bod ganddynt gysylltiad â'r uchod).
Mewn achosion eraill, os ydych chi'n cwrdd â rhywun y gellid ei ystyried yn ddylanwadol neu'n arwyddocaol (e.e. gweinidog neu AS) ym maes gweithgarwch y Comisiwn Etholiadol, neu os bydd rhywbeth yn dod i'r amlwg mewn sgwrs sy'n ymwneud â gweithgareddau'r Comisiwn, dylech, o fewn rheswm, ystyried rhoi gwybod am gyfarfodydd o'r fath i'r Cadeirydd.
Mae yna rai gweithgareddau gwleidyddol y cewch eich gwahardd rhag ymgymryd â nhw yn ôl PPERA. Gweler Atodiad 1 am ragor o fanylion. Mae Comisiynydd yn rhoi'r gorau i ddal swydd dan PPERA pan ddigwyddai digwyddiadau penodol.
Gellir diswyddo os yw Pwyllgor y Llefarydd yn fodlon bod un neu fwy o’r seiliau wedi'u torri.
Eich cyfrifoldeb chi yw dwyn achosion gwirioneddol neu bosibl o wrthdaro buddiannau, boed ydy’r rheini yn achosion go iawn neu wedi’u canfod yn rhesymol, i sylw’r Cadeirydd, y Prif Weithredwr neu Ysgrifennydd Bwrdd y Comisiwn cyn gynted ag y cewch wybod amdanynt.
Os byddwch yn datgelu buddiant yn ystod cyfarfod y Bwrdd, bydd yn cael ei gofnodi yn y cofnodion, ac efallai y bydd gofyn i chi dynnu'n ôl o'r drafodaeth neu'r penderfyniad dan sylw. Os ydych yn ymwybodol o achos o wrthdaro buddiannau cyn cyfarfod, efallai y cewch eich gwahardd rhag cael dogfennau cysylltiedig. Os yw'r gwrthdaro buddiannau yn ei gwneud hi’n ofynnol i chi dynnu'n ôl rhag ystyried y mater, ni ddylech geisio trafod y mater gyda'r rhai sy’n gwneud penderfyniadau neu ddylanwadu arnynt.
Mae yna ganllawiau manylach ar adnabod achosion gwirioneddol neu bosibl o wrthdaro buddiannau ac ar sut fydd y Bwrdd yn rheoli'r risgiau cyfreithiol a risgiau i enw da yn Atodiad 8.
Rhaid i chi lenwi ffurflen 'Datganiad o fuddiannau' ar eich penodiad, a'i diweddaru wrth i'ch amgylchiadau newid. Anfonir nodiadau atgoffa atoch chi o bryd i'w gilydd yn gofyn i chi ei diweddaru. Mae cofrestr o fuddiannau yn cael ei chynnal gan yr Ysgrifenyddiaeth a'i chyhoeddi ar wefan y Comisiwn. Gellir dod o hyd iddi ar y dudalen hon.
Mae yna rai seiliau y gall Comisiynydd roi'r gorau i'w swydd neu gael ei ddiswyddo. Nodir y seiliau yn llawn yn Atodlen 1, paragraffau 3(3)-(5) o PPERA. Mae'r rhain yn cynnwys cael eich dyfarnu'n euog o drosedd; bod yn fethdalwr heb ei ryddhau (neu fod ystâd y Comisiynydd wedi'i atafaelu yn yr Alban ac nad yw'r Comisiynydd wedi'i ryddhau); bod cyfnod moratoriwm dan orchymyn rhyddhau o ddyled sy'n gymwys mewn perthynas â'r Comisiynydd (dan Ran 7A Deddf Ansolfedd 1986); neu wedi gwneud trefniant neu gontract cyfansoddiad gyda chredydwyr y Comisiynydd, neu wedi cael gweithred ymddiriedolaeth ar eu cyfer. Mae'r seiliau hefyd yn cynnwys Comisiynydd yn cael ei restru gan ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid yn ei ffurflen ariannol i'r Comisiwn fel rhoddwr o £7,500 neu fwy. Mae nodyn ar wahân ar hyn yn Atodiad 1A.
Drwy lofnodi datganiad y Cod Ymddygiad, rydych chi'n nodi nad oes unrhyw un o'r seiliau hyn yn berthnasol i chi. Os oes yna newid yn eich amgylchiadau sy'n ymwneud ag unrhyw un o'r seiliau hyn, rhaid i chi roi gwybod amdanynt i Ysgrifennydd Bwrdd y Comisiwn, neu'r Cadeirydd neu'r Prif Weithredwr.
Ceir canllawiau ar ddatgan buddiannau yn Atodiad 2 y cod.
Rhoddion a lletygarwch
Yn ystod eich rôl fel Comisiynydd Etholiadol, mae’n bosibl y cewch gynnig anrhegion a lletygarwch, ac yn wir gall hynny fod yn agwedd ar rwydweithio. Fodd bynnag, disgwylir i Gomisiynwyr arsylwi safonau eithriadol o uchel o onestrwydd ac uniondeb personol, ac osgoi unrhyw gyhuddiadau o gael eu dylanwadu yn ormodol. Mae yna wastad risg y gall derbyn anrhegion neu letygarwch ddenu beirniadaeth a’ch gadael chi a'r Comisiwn yn agored i amheuaeth o ddylanwad gormodol.
Dyma’r egwyddorion sy'n sail i ddatganiadau y dylid eu cadw mewn cof:
- Ystyried sefyllfaoedd lle gellir dehongli buddiant fel gwrthdaro
- Comisiynwyr Etholiadol unigol sy’n gyfrifol am ddatgan buddiannau
- Caiff penderfyniadau Bwrdd y Comisiwn eu gwneud dan egwyddor cyfrifoldeb ar y cyd a dylai Comisiynwyr sicrhau bod hyn yn cael ei gynnal
Mae cofrestru rhoddion a lletygarwch, a buddiannau, yn helpu i sicrhau hyder y cyhoedd yn y Comisiwn, ac yn cynnal atebolrwydd a thryloywder wrth wneud penderfyniadau. Mae hyn yn helpu i osgoi unrhyw ragfarn neu ddylanwad gwirioneddol neu ganfyddedig.
Mae'n ofynnol i chi gofnodi'r holl anrhegion a lletygarwch a gynigir neu a dderbynnir yn eich rhinwedd fel Comisiynydd Etholiadol, gan gynnwys unrhyw rai a wrthodir. Fe'ch annog i wrthod unrhyw anrhegion a gynigir i chi lle bo'n ymarferol, ond weithiau byddai gwneud hynny yn achosi tramgwydd, gan gynnwys pan fo rhodd o werth isel.
Dylid anfon datganiadau o roddion a lletygarwch wedi’u cwblhau at Ysgrifennydd Bwrdd y Comisiwn, wedi’u llofnodi gan y Cadeirydd, a dylid eu hadrodd o bryd i'w gilydd i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. Caiff y gofrestr o roddion a lletygarwch ei chyhoeddi ar y dudalen hon ar wefan y Comisiwn ar ôl pob Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.
Gofynnir i chi hefyd ddatgelu rhoddion a lletygarwch a dderbyniwyd fel rhan o unrhyw rolau nad ydynt yn ymwneud â’r Comisiwn (yn hytrach na'r rhai o natur breifat neu deuluol), er mwyn tryloywder a chysondeb, yn enwedig os ydynt gan unigolyn neu sefydliad a allai fod yn gysylltiedig â gwaith y Comisiwn (megis gwleidydd, sefydliad ymgyrchu, neu lobïwr), neu gysylltiadau â chwmnïau sy'n cyflenwi nwyddau neu wasanaethau y mae'r Comisiwn yn debygol o’u defnyddio (TG, ymchwil, archwilio, ymgynghoriaeth), ac mae'r rhain yn cael eu cofnodi ond ni chânt eu cyhoeddi.
Ceir canllawiau manwl ar anrhegion a lletygarwch ynghlwm yn Atodiad 3 y cod.
Cyfrinachedd ac atebolrwydd personol
Mae gennych ddyletswydd gyffredinol o gyfrinachedd dan gyfraith gyffredin i'r Comisiwn, sy'n ei gwneud yn ofynnol i chi ddiogelu gwybodaeth y Comisiwn yn gyfrinachol (gweler hefyd Adran 5 isod ar drin gwybodaeth). Ni ddylech heb awdurdod ddatgelu gwybodaeth swyddogol sydd wedi'i chyfathrebu'n gyfrinachol o fewn y Comisiwn neu a dderbyniwyd yn gyfrinachol gan eraill. Mae hyn yn berthnasol yn ystod eich penodiad fel Comisiynydd ac ar ei ôl, ac i wybodaeth lafar ac ysgrifenedig.
Ar ôl eich cyfnod fel Comisiynydd, dylech osgoi gwneud unrhyw ddatganiadau cyhoeddus sy'n cyfeirio at eich bod wedi bod yn Gomisiynydd yn y fath ffordd a fyddai'n arwain pobl i feddwl bod yr hyn rydych chi'n ei ddweud yn cynrychioli polisi cyfredol y Comisiwn neu'n cario cymeradwyaeth ymhlyg y Comisiwn. (Os oes angen, dylech wneud ymwadiad penodol i sicrhau na allai unrhyw un fod mewn unrhyw amheuaeth mewn perthynas â hyn.) Os ydych yn awyddus i wneud datganiad cyhoeddus am y Comisiwn pan nad ydych bellach yn Gomisiynydd, efallai y byddwch yn dod i'r casgliad, yn dibynnu ar y cyd-destun, ei bod yn briodol rhybuddio Cadeirydd presennol y Comisiwn yn gyntaf.
Yn ogystal, mae yna ddeddfwriaeth benodol sy’n berthnasol i wybodaeth a gedwir gan y Comisiwn. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
Mae Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (a'r rheoliadau cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon5) yn ei gwneud yn drosedd datgelu i unigolyn anawdurdodedig manylion a gynhwysir yn y cofrestrau o etholwyr y mae gan Gomisiynwyr a staff y Comisiwn fynediad atynt. Y gosb am wneud hynny ar hyn o bryd yw dirwy ddiderfyn yng Nghymru a Lloegr, neu ddirwy o hyd at £5,000 yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae PPERA yn gosod gofyniad ar Gomisiynwyr a staff i beidio â datgelu cynnwys adroddiadau rhoddion neu drafodion penodol (e.e. benthyciad) gan dderbynwyr a chyfranogwyr rheoledig yng Ngogledd Iwerddon. Os byddwch yn datgelu'r wybodaeth hon yn anghyfreithlon ac yn cael eich canfod yn euog o drosedd, efallai y byddwch yn wynebu dirwy ddiderfyn neu gael eich carcharu am hyd at 51 wythnos6.
Efallai y gofynnir i chi wneud sylwadau ar faterion i'r wasg neu ateb cwestiynau. Os cysylltir â chi, cyfeiriwch eich sylwadau at y Tîm Cysylltiadau â'r Cyfryngau sy'n gyfrifol am helpu i reoli a chydlynu ymatebion y Comisiwn (mae modd cysylltu â’r tîm cyfryngau ar 020 7271 0704 yn ystod oriau swyddfa, neu y tu allan i oriau ar 07789 920414). Yn y cyfamser, argymhellir peidio â gwneud sylwadau nac ateb cwestiynau oni bai eich bod wedi cael eich awdurdodi i wneud hynny. (Gweler hefyd paragraff 3.6 o'r Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol, yn ymwneud â chyfrifoldeb ar y cyd).
Gweler y nodyn ynghylch ystyriaethau i'w hystyried pe bai trydydd parti yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Comisiynydd mewn rhinwedd bersonol (yn wahanol i gamau yn erbyn y Comisiwn).
Arall – trin gwybodaeth a diogelwch chwythu'r chwiban, llwgrwobrwyo, adnoddau
Trin gwybodaeth, diogelwch a defnyddio TG
Mae Rheolau Sefydlog y Comisiwn yn nodi, ym mharagraff A57: 'ni chaniateir i unrhyw Gomisiynydd ddefnyddio gwybodaeth a gafwyd wrth gyflawni eu dyletswydd er budd personol na cheisio cyfle i ddefnyddio gwasanaeth cyhoeddus o'r fath i hyrwyddo eu buddiannau preifat eu hunain neu bartïon eraill. Dylai Comisiynwyr osgoi ymddwyn mewn modd a allai roi enw drwg i'r Comisiwn.’
Mae gan y Comisiwn Etholiadol nifer o bolisïau sy'n llywodraethu'r defnydd o offer TG a thrin gwybodaeth yn briodol, sydd ar gael ar fewnrwyd y Comisiwn. Mae'r rhain yn cynnwys y Polisi Defnydd Derbyniol, y Polisi Cyfryngau Cymdeithasol a'r Polisi Diogelwch Gwybodaeth. Ceir canllawiau cryno ar reoli gwybodaeth a diogelwch yn Atodiad 5 y Cod hwn.
Crynhoir rhai pwyntiau allweddol isod:
- Mae'r defnydd cynyddol o e-gyfathrebu at ddefnydd busnes a phersonol yn gofyn am fwy o ymwybyddiaeth o faterion diogelwch, cyfrinachedd a pha wybodaeth y gellir ei chyhoeddi.
- Dylech fod yn ymwybodol y gallai unrhyw beth sy’n cael ei rannu ar wefannau cyfryngau cymdeithasol allanol adlewyrchu ar y Comisiwn a'i waith a dylech ystyried yn ofalus yr hyn sy'n cael ei rannu mewn rhinwedd bersonol ar y llwyfannau canlynol er enghraifft:
- X
- YouTube
Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr a gallwch bob amser gysylltu â thîm y wasg y Comisiwn os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â hyn gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.
Gwnewch yn siŵr nad yw unrhyw ddefnydd o'r cyfryngau cymdeithasol yn:
- Cwestiynu didueddrwydd gwleidyddol y Comisiwn
- Cyflwyno gwrthdaro buddiannau â gweithgareddau'r Comisiwn
- Torri cyfrinachedd y bobl a'r wybodaeth sy'n gysylltiedig â'r Comisiwn
Dylech fewngofnodi i'ch cyfrifiadur rhithwir gan ddefnyddio datrysiad gweithio cartref y Comisiwn i gael mynediad at wybodaeth y Comisiwn. Bydd staff y Ddesg Gymorth TG yn eich helpu i sefydlu hyn. Ar hyn o bryd cefnogir mynediad o gyfrifiaduron Windows ac Apple Mac. Mae defnyddio'r datrysiad gweithio gartref yn golygu bod yr holl ddata yn aros o fewn rhwydwaith y Comisiwn ac felly'n ddiogel. Mae hefyd yn golygu bod gennych fynediad i'r holl systemau meddalwedd sydd ar gael.
Efallai y gofynnir i Gomisiynwyr, o bryd i'w gilydd, chwilio eu cyfrifon e-bost am wybodaeth a allai fod yn berthnasol i geisiadau dan y Deddfau Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth. Gall hyn gynnwys chwilio eich cyfrifon e-bost personol os yw'r cyfrif wedi cael ei ddefnyddio i gynhyrchu negeseuon e-bost fel rhan o'ch rôl gyda’r Comisiwn yn y gorffennol. Mae gweithdrefn Rhyddid Gwybodaeth fewnol y Comisiwn yn rhoi rhagor o fanylion.
Os yw cwmpas cais yn cynnwys cyfathrebiadau y gellid eu cadw mewn cyfrifon personol y Comisiynydd, gofynnir i chi wneud chwiliad yn eich cyfrifon e-bost personol gan ddefnyddio allweddeiriau priodol.
Ni ddylid defnyddio cyfrifon e-bost personol ar gyfer busnes y Comisiwn a dylid cyfeirio unrhyw anawsterau a geir gan Gomisiynwyr wrth ddefnyddio cyfrifon e-bost y Comisiwn neu gyfleusterau TG y Comisiwn at y Ddesg Gymorth TG.
Chwythu'r chwiban
Os ydych yn credu ei bod yn ofynnol i chi weithredu mewn modd sydd yn:
- anghyfreithlon, yn wahaniaethol, yn amhriodol neu'n anfoesegol
- torri amodau’r Cod hwn
- gallu cynnwys camweinyddu, twyll neu gamddefnyddio arian cyhoeddus posibl;
anghyson â'r Cod mewn unrhyw ffordd neu os:
- rydych chi'n credu bod tystiolaeth o ymddygiad afreolaidd neu amhriodol yn y sefydliad ond nad ydych wedi bod yn rhan ohono’n bersonol
- oes yna dystiolaeth o weithgarwch troseddol neu anghyfreithlon gan eraill
- ydyw’n ofynnol i chi weithredu mewn ffordd sydd, i chi, yn codi mater sylfaenol o gydwybod, yna dylech gyfeirio eich pryderon ar unwaith at y Prif Weithredwr, Cadeirydd y Comisiwn, neu Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.
Llwgrwobrwyo
Bydd llwgrwobrwyo (trosedd) yn digwydd dan amgylchiadau sy'n cynnwys:
- Cynnig, rhoi, ceisio neu dderbyn unrhyw gymhelliant neu wobr (boed yn ariannol neu fel arall);
- Tuag at unigolyn neu gwmni neu ganddynt, lle bynnag y maent wedi'u lleoli a pha un a ydynt yn swyddog neu gorff cyhoeddus neu unigolyn neu gwmni preifat;
- Gan unrhyw weithiwr unigol, Aelod o'r Bwrdd / Comisiynydd, sy'n gweithredu ar ran y Comisiwn;
pan mai bwriad gweithredu o'r fath yw cyflawni perfformiad amhriodol o swyddogaeth neu weithgaredd perthnasol mewn perthynas â’r Comisiwn, unigolyn neu gwmni.
Os byddwch yn darganfod neu'n amau llwgrwobrwyo sy'n ymwneud ag unrhyw Gomisiynydd, aelod o staff, unigolyn neu gwmni, dylech roi gwybod am eich pryderon ar unwaith i'r Prif Weithredwr, Cadeirydd y Comisiwn, neu Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. Mae'r polisi gwrth-dwyll a gwrth-lwgrwobrwyo cyfunol yn Atodiad 7. Mae'r polisi yn berthnasol i staff y Comisiwn.
Diogelu adnoddau cyhoeddus
Mae gennych ddyletswydd i ddiogelu adnoddau cyhoeddus ac i ddefnyddio'n gyfrifol unrhyw adnoddau cyhoeddus sydd ar gael i chi fel Comisiynydd Etholiadol. Mae polisi teithio a chynhaliaeth y Comisiwn (sy'n berthnasol i Gomisiynwyr a staff) i'w weld ar y fewnrwyd.
Ceir y canllawiau ar gyfer hawlio ffioedd a theithio a chynhaliaeth, sy'n nodi sut i gwblhau hawliadau, yn Atodiad 4.
Adolygwyd a chymeradwywyd y Cod Ymddygiad gan y Bwrdd ar [25 Tachwedd 2025]
Datganiad
Rwyf wedi darllen ac yn cytuno â'r egwyddorion a'r gweithdrefnau yng nghod ymddygiad y Comisiwn Etholiadol ar gyfer Comisiynwyr.
Rwy'n deall mai fy nghyfrifoldeb i yw gwneud datganiadau o fuddiannau a rhoddion a lletygarwch yn ôl yr angen ac y bydd unrhyw achos o dorri amodau'r cod hwn yn cael ei gymryd o ddifrif.
Rwy'n cytuno i fod yn rhwym gan ddarpariaethau'r cod hwn, gan gynnwys fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd.
……………………………………………..Llofnodwyd
……………………………………………..Enw llawn (prif lythrennau bloc)
…………………………...........................Dyddiad
Llofnodwch a dychwelwch at Head of Governance, Electoral Commission, 3 Bunhill Row, London EC1Y 8YZ
Cwmpas
Mae'r cod teithio a threuliau hwn yn berthnasol i bob Comisiynydd ac unrhyw gynghorydd annibynnol. Dylid ei ddarllen ar y cyd â'r adrannau perthnasol ym Mholisi Teithio a Chynhaliaeth y Comisiwn.
Dylai Comisiynwyr ymarfer barn gadarn wrth ystyried unrhyw wyriadau oddi wrth y cod hwn. Dylid trafod unrhyw wyriad posibl oddi wrth y cod hwn ymlaen llaw gydag Ysgrifennydd y Bwrdd a'r Cyfarwyddwr Arweiniol. Y Swyddog Cyfrifyddu sydd â'r disgresiwn terfynol wrth awdurdodi gwariant, yn dilyn ei ch/gyfrifoldebau personol am stiwardiaeth arian cyhoeddus.
Egwyddorion
Mae'r egwyddorion canlynol yn berthnasol mewn perthynas â theithio a threuliau:
- mae'r Comisiwn yn gwasanaethu'r DU gyfan. Mae Comisiynwyr yn teithio i gynrychioli a deall y cymunedau a'r cenhedloedd
- mae'r Comisiwn yn ceisio sicrhau gwerth am arian, gan ystyried cost, fforddiadwyedd, effaith amgylcheddol, dyletswydd gofal, llesiant ac effeithlonrwydd gweithredol
- mae'r trefniadau yn dryloyw, gydag atebolrwydd clir, ac maen nhw’n adlewyrchu gwerthoedd y Comisiwn; ac
- mae gwariant yn cydymffurfio â gofynion CThEF.
Cyfrifoldebau'r Comisiynwyr
Rhaid i Gomisiynwyr:
- fod yn ymwybodol o'r cod teithio a threuliau hwn a chydymffurfio ag ef
- sicrhau bod unrhyw gostau yn rhesymol, wedi’i gyfiawnhau’n gyhoeddus ac yn deillio o fusnes gwirioneddol a hanfodol y Bwrdd yn unol â'r egwyddorion yn a.3 uchod
- dewis y dull teithio mwyaf cost effeithiol wrth ystyried amser, prisiau a milltiroedd
- gweithio gyda'r tîm Cymorth Busnes i drefnu teithio a llety, oni bai bod trefniadau amgen yn darparu gwell gwerth am arian
- sicrhau bod yr holl hawliadau a wneir yn gywir ac wedi'u hategu gan dderbynebau perthnasol, lle bo hynny'n briodol; a
- cyflwyno derbynebau o fewn rheolau'r Comisiwn o ddyddiad y gost, fel arfer o fewn 1 mis.
Hawliadau am dreuliau - teithio
Rhaid i hawliadau teithio gydymffurfio â Pholisi Teithio a Chynhaliaeth y Comisiwn a chael eu cyfiawnhau gyda'r canlynol:
- bod pwrpas y teithio wedi’i gofnodi ac yn bodloni gwerth am arian yn unol â'r egwyddorion yn a.3 uchod
- dylai’r dull teithio fod yr un mwyaf economaidd posibl o fewn yr egwyddorion yn a.3 uchod. Ni ddylid defnyddio teithio dosbarth cyntaf. Dylai Comisiynwyr ystyried gwerth am arian ond gallant hefyd ystyried effeithlonrwydd a diogelwch wrth wneud y dewis hwn.
Hawliadau am dreuliau – llety a chynhaliaeth
Dylai Comisiynwyr hawlio am gost llety dros nos a chynhaliaeth o fewn Polisi Teithio a Chynhaliaeth y Comisiwn a dylid eu cyfiawnhau gyda thystiolaeth o'r gwariant sy'n angenrheidiol i fodloni ymrwymiad y Comisiwn.
Bydd y Swyddog Cyfrifyddu yn pennu'r lefelau rhesymol o letygarwch ar gyfer ciniawau busnes gyda Bwrdd y Comisiwn o gwmpas adeg cyfarfod Bwrdd, a fydd yn cael ei ariannu gan y Comisiwn.
Cyflwyno hawliadau
Mae'r Comisiwn naill ai'n talu'n uniongyrchol neu'n ad-dalu'r aelod o'r Bwrdd am y costau rhesymol a achoswyd, o fewn y terfynau a nodir ym mholisi Teithio a Chynhaliaeth y Comisiwn. Dylid cyflwyno hawliadau i'w hawdurdodi gan ddefnyddio dull priodol y Comisiwn.
Cyhoeddi treuliau
Mae treuliau'r bwrdd yn fater o ddiddordeb y cyhoedd a byddant yn cael eu cyhoeddi yn gryno ar wefan y Comisiwn mewn ôl-ddyledion fel rhan o ymrwymiad y Comisiwn i atebolrwydd.
- 3. Noder y diwygiad diweddar gan Orchymyn Diwygio Etholiadau Llywodraeth Leol yr Alban 2022 a estynnodd pŵer a145 i gwmpasu etholiadau lleol yn yr Alban. ↩ Back to content at footnote 3