Ffurflenni cais am bleidlais bost gan bleidiau ac ymgyrchwyr
Crynodeb
Gall pleidiau ac ymgyrchwyr annog pleidleiswyr i bleidleisio drwy'r post drwy anfon ffurflenni cais am bleidlais bost. Gallai hyn fod yn ffurflen bapur a anfonir drwy'r post, neu'n wefan gyda gwybodaeth.
Nid yw pleidiau yn torri unrhyw reolau os ydynt yn annog pleidleiswyr i wneud cais i bleidleisio drwy’r post, a dylent fod yn rhydd i annog pleidleiswyr i fwrw eu pleidlais yn y ffordd sydd fwyaf cyfleus iddynt. Mae gwybodaeth am hyn yn y Cod Ymddygiad ar gyfer etholiadau cyffredinol Senedd y DU, etholiadau lleol yn Lloegr ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr, a’r Cod Ymddygiad ar gyfer etholiadau Senedd yr Alban, etholiadau cynghorau’r Alban, etholiadau lleol yng Nghymru ac etholiadau Senedd Cymru.
Cod Ymddygiad i ymgyrchwyr
Mae Cod Ymddygiad ar gyfer etholiadau cyffredinol Senedd y DU, etholiadau lleol yn Lloegr ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr, a Chod Ymddygiad ar gyfer etholiadau Senedd yr Alban, etholiadau cynghorau’r Alban, etholiadau lleol yng Nghymru ac etholiadau Senedd Cymru.
Mae'r ddau yn cynnwys gwybodaeth am:
- cofrestru etholiadol
- pleidleisio drwy'r post
- pleidleisio drwy ddirprwy
- Tystysgrifau Awdurdod Pleidleisiwr
- gorsafoedd pleidleisio
Mae llawer o bleidiau wedi ymrwymo i'r Cod Ymddygiad ar gyfer ymgyrchwyr, ond cod gwirfoddol ydyw ac nid yw'n rhywbeth y gallwn ei orfodi.
Ar gyfer pleidleisio drwy'r post, mae'r cod yn esbonio pa wybodaeth y dylai plaid ei chynnwys os bydd yn penderfynu anfon ffurflenni cais am bleidlais bost at bleidleiswyr.
Er enghraifft, rhaid iddi fod yn glir i ble y dylai'r pleidleisiwr anfon y ffurflen gais wedi'i chwblhau. Dylid darparu cyfeiriad y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn y cyngor lleol yn glir fel y cyfeiriad dewisol, a chaniateir i bleidiau ddarparu cyfeiriadau ychwanegol hefyd.
Gallai'r cyfeiriad ychwanegol fod ar amlen, y gellid ei thalu ymlaen llaw. Cyn belled â bod cyfeiriad y Swyddog Cofrestru Etholiadol wedi'i gynnwys rhywle yn y wybodaeth fel y cyfeiriad dewisol, caniateir amlenni fel hyn.
Mae'r cod hefyd yn esbonio y dylai pleidiau anfon unrhyw ffurflenni wedi'u llenwi at y Swyddog Cofrestru Etholiadol o fewn dau ddiwrnod gwaith o'u derbyn.
Nid oes gennym ffordd o fonitro p'un a anfonir ffurflenni at y Swyddog Cofrestru Etholiadol neu beidio, ond gallai plaid golli pleidlais os na fydd yn eu hanfon. Cyn belled â bod pleidleisiwr wedi'i gofrestru i bleidleisio, byddai'n dal yn gallu pleidleisio'n bersonol ar y diwrnod pleidleisio pe na bai ei gais am bleidlais bost yn cael ei brosesu.
Dyluniad ffurflenni cais am bleidlais bost
O dan gyfraith etholiadol, mae gennym ni ran i'w chwarae wrth ddylunio rhai ffurflenni etholiadol. Nid yw ffurflenni cais am bleidlais bost yn un o'r rhain, a'r cyfan sydd raid i'r ffurflenni hyn ei wneud yw cynnwys yr wybodaeth gywir i alluogi'r Swyddog Cofrestru Etholiadol i benderfynu ar y cais.
Mae hyn yn golygu y gallai ffurflenni gan bleidiau edrych yn wahanol i ffurflenni cais eraill am bleidlais bost (fel un rydych chi wedi’i lawrlwytho gennym ni, er enghraifft).
Defnydd o ddata
Gallai pleidiau benderfynu cynnwys opsiynau cyswllt dewisol ar y ffurflen y maent yn ei hanfon, fel y gall pleidleiswyr optio i mewn. Mae hyn er mwyn i'r blaid allu anfon deunyddiau ymgyrchu ychwanegol a nodiadau atgoffa i bleidleisio at y pleidleisiwr.
Nid yw'r dewis hwn yn ymwneud ag a fydd y ffurflenni'n cael eu hanfon at y Swyddog Cofrestru Etholiadol ai peidio. Pe bai rhywun yn optio allan, dylai'r blaid anfon ei ffurflen at y Swyddog Cofrestru Etholiadol o hyd o fewn dau ddiwrnod gwaith (fel y nodir yn y Cod).
Os ydych chi’n poeni am y defnydd o’ch data neu GDPR, dylech gysylltu â’r blaid neu’r ICO.
Ymateb i adborth pleidleiswyr
Rydym wedi cael adborth sylweddol gan bleidleiswyr am ffurflenni cais am bleidlais bost gan bleidiau. Rydym yn casglu'r adborth hwn a byddwn yn ei ystyried ar ôl yr etholiadau fel rhan o'n gwerthusiad etholiad arferol.
Dysgwch fwy am sut rydym yn adrodd ar etholiadau.
Gwneud cais am bleidlais bost
Os ydych am bleidleisio drwy’r post ond nad ydych am ddefnyddio ffurflen gais gan blaid neu ymgyrchydd, gallwch lawrlwytho ffurflen oddi wrthym.
Gallwch hefyd wneud cais am bleidlais bost ar-lein ar gyfer rhai etholiadau.
Pecynnau pleidleisio - pleidlais bost
Mae timau etholiadau cynghorau lleol yn prosesu ceisiadau am bleidlais bost, ac yn gyfrifol am anfon pecynnau pleidleisio drwy'r post cyn etholiadau. Nid yw pleidiau ac ymgyrchwyr yn rhan o'r rhan hon o'r broses.
Mae newidiadau yn Neddf Etholiadau Llywodraeth y DU ynghylch pleidiau ac ymgyrchwyr yn ymdrin â phleidleisiau post wedi’u cwblhau ac amlenni pleidleisiau post. Dysgwch fwy am y newidiadau hyn