Mae gan unrhyw un sy'n bresennol mewn gorsaf bleidleisio ddyletswydd i gynnal cyfrinachedd y bleidlais.1
Yn benodol, rhaid sicrhau na chaiff y wybodaeth ganlynol ei datgelu:
• enw neu rif etholiadol y rhai sydd wedi neu heb bleidleisio • y rhif neu farc adnabod unigryw arall ar y papur pleidleisio
Hefyd, rhaid i unrhyw un sy'n bresennol mewn gorsaf bleidleisio sicrhau nad yw'n ceisio canfod sut mae pleidleisiwr wedi pleidleisio na phwy y mae ar fin pleidleisio drosto.
Gall asiant pleidleisio farcio ar ei gopi ef o'r gofrestr etholwyr y pleidleiswyr hynny sydd wedi gwneud cais am bapur pleidleisio. Os bydd yr asiant pleidleisio yn gadael yr orsaf bleidleisio yn ystod yr oriau pleidleisio, bydd angen iddo adael y copi wedi'i farcio o'r gofrestr yn yr orsaf bleidleisio er mwyn sicrhau na thorrir gofynion cyfrinachedd.
Gall unrhyw un y'i dyfernir yn euog o dorri'r gofynion cyfrinachedd wynebu dirwy anghyfyngedig, neu hyd at chwe mis yn y carchar.
Yng Nghymru, i gael rhagor o wybodaeth, darllenwch gofynion cyfrinachedd gorsafoedd pleidleisio yn Saesneg ac yn Gymraeg.
Yn Lloegr, i gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ofynion cyfrinachedd gorsafoedd pleidleisio.