Bydd angen i chi ystyried a yw'n briodol neu'n angenrheidiol i'r hysbysiadau etholiad amrywiol barhau i gael eu cyhoeddi ar eich gwefan ar ôl i gyfnod deiseb yr etholiad ddod i ben.
Pan fo pob hysbysiad yn cyflawni diben penodol, h.y. nodi pwy fydd yn ymgeisydd yn yr etholiad, unwaith y bydd yr etholiad drosodd, a bod y cyfle i gwestiynu'r etholiad hwnnw wedi mynd heibio, ni fydd iddo unrhyw ddiben pellach mwyach. Felly, dylech naill ai ddileu hysbysiadau o'r fath a gyhoeddwyd ar eich gwefan, neu ddileu'r data personol sydd ynddynt, pan fydd dyddiad cau deiseb yr etholiad hwnnw wedi mynd heibio.
Mae deddfwriaeth diogelu data yn caniatáu cadw data personol am fwy o amser os caiff y data eu prosesu at ddibenion archifo er budd y cyhoedd yn unig, neu at ddibenion gwyddonol, hanesyddol neu ystadegol ac yn amodol ar weithredu mesurau diogelu priodol. Ar gyfer canlyniadau etholiad, er enghraifft, dylech gadw'r rhain ar eich gwefan gan eu bod o ddiddordeb i'r cyhoedd ac at ddibenion hanesyddol ac ystadegol.
Storio'r papurau enwebu
Rhaid i chi gadw'r papurau enwebu yn ddiogel a chaniatáu i'r bobl a restrir yn ein canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu ar Bresenoldeb wrth gyflwyno papurau enwebu.
Ar ôl yr adeg honno, dylech storio'r papurau enwebu yn ddiogel am flwyddyn ar ôl yr etholiad.
Ffurflenni cyfeiriad cartref
Rhaid i ymgeisydd gwblhau ffurflen cyfeiriad cartref fel rhan o'r broses enwebu. Rhaid i ffurflenni cyfeiriad cartref gael eu storio'n ddiogel am 21 diwrnod gwaith ar ôl datgan y canlyniad.1
Rhaid iddynt gael eu dinistrio yn ddiogel ar y diwrnod gwaith nesaf ar ôl y cyfnod 21 diwrnod. Fodd bynnag, os cyflwynir deiseb etholiadol yn ymwneud â'r etholiad o fewn y 21 diwrnod calendr, rhaid i'r ffurflenni cyfeiriad cartref gael eu cadw'n ddiogel nes bod gweithrediadau'r ddeiseb yn cael eu cwblhau (gan gynnwys unrhyw apêl sy'n deillio o'r gweithrediadau hynny). Yna rhaid iddynt gael eu dinistrio'n ddiogel y diwrnod gwaith nesaf ar ôl i'r gweithrediadau neu'r apêl ddod i ben.