Ar ôl yr etholiad, rhaid i chi ddychwelyd yr ernes i'r unigolyn a'i rhoddodd, neu ei gynrychiolydd personol, os bydd yr ymgeisydd yn cael mwy na 5% o gyfanswm nifer y pleidleisiau a fwriwyd i'r holl ymgeiswyr.
Rhaid i chi ddychwelyd yr ernes ar y diwrnod gwaith nesaf ar ôl i ganlyniad yr etholiad gael ei ddatgan fan bellaf1
.
Os byddwch yn dychwelyd ernes ar ffurf siec, ystyrir ei bod wedi ei dychwelyd ar y diwrnod y caiff y siec ei phostio.
Bydd unrhyw ymgeiswyr nad ydynt wedi cael 5% o gyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd i'r holl ymgeiswyr yn colli eu hernes.
Rhaid i chi anfon unrhyw ernesau a gollwyd at Ei Fawrhydi. Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn darparu mwy o wybodaeth am y broses hon.