Dylech sefydlu tîm prosiect er mwyn eich helpu i gyflawni'ch swyddogaethau fel Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu. Dylai'r tîm prosiect gynnwys y staff allweddol perthnasol i'ch helpu ym mhob swyddogaeth benodol, gan gynnwys annog a chydgysylltu cyfranogiad yn yr etholiad drwy'r ardal heddlu gyfan a sicrhau bod anerchiadau etholiadol ymgeiswyr yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth.
Ar wahân i chi, dylai eich tîm prosiect gynnwys:
Swyddogion Canlyniadau eraill yn ardal yr heddlu
lle nad yw Swyddog Canlyniadau Lleol yn Swyddog Cofrestru Etholiadol yn ogystal, y Swyddog Cofrestru Etholiadol
unrhyw ddirprwyon a benodir
aelodau eraill o staff etholiadol
unrhyw bersonél allweddol eraill sy'n briodol yn eich barn chi (er enghraifft, cydweithwyr o dîm cyfathrebu eich cyngor neu eich Pwynt Cyswllt Unigol (SPOC) lleol)
Dylai fod gan y tîm prosiect gylch gwaith clir a dealltwriaeth o'r tasgau i'w cynnal. Yn ystod y cam cynllunio, dylid paratoi amserlen o gyfarfodydd, a dylid cadw cofnod o bob cyfarfod fel trywydd archwilio o'r hyn a drafodwyd ac o unrhyw benderfyniadau a wnaed. Lle y bo'n bosibl, dylech gadeirio unrhyw gyfarfodydd ffurfiol a gynhelir gan y tîm prosiect.