cyfanswm nifer y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd
cyfanswm nifer y pleidleisiau a wrthodwyd
nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd wedi'u categoreiddio yn ôl y rheswm dros ei wrthod
Ailgyfrifo'r canlyniad
Cyn gynted ag y byddwch wedi cyfrifo canlyniad y cyfrif, dylech hysbysu'r ymgeiswyr a'r asiantiaid etholiad sy'n bresennol am y cyfansymiau a gyfrifwyd gennych a rhoi cyfle iddynt fodloni eu hunain bod eich cyfrifiadau yn gywir.2
Gall asiantiaid etholiad ofyn i chi ailgyfrifo'r cyfansymiau. Gallwch wrthod cais o'r fath os byddwch yn ystyried ei fod yn afresymol.
Ailgyfrifon
Gall Swyddogion Canlyniadau Lleol ailgyfrif pleidleisiau o dan amgylchiadau penodol ar ôl cwblhau'r cyfrif.3
Unwaith y bydd y canlyniad wedi cael ei ddatgan, ni ellir ailgyfrifo'r pleidleisiau a gyfrifwyd.
Gall ymgeiswyr, asiantiaid etholiad a'r asiantiaid cyfrif hynny a awdurdodwyd yn benodol i wneud cais am ailgyfrif wneud cais i'r Swyddog Canlyniadau Lleol ailgyfrif y pleidleisiau. Ni all unrhyw asiantiaid cyfrif eraill nac unigolion sy'n bresennol yn y cyfrif wneud cais am ailgyfrif. Gall y Swyddog Canlyniadau Lleol wrthod y cyfryw gais os bydd yn ystyried ei fod yn afresymol.
Dylai unrhyw brotocol rydych wedi'i lunio ar gyfer sut y dylai Swyddogion Canlyniadau Lleol gyfathrebu â chi yn ystod y prosesau dilysu a chyfrif gynnwys manylion yr hyn y dylent ei wneud os bydd cais am ailgyfrif: er enghraifft, efallai y byddwch am ofyn i Swyddogion Canlyniadau Lleol eich hysbysu am yr holl geisiadau a gânt am ailgyfrif neu gallech ofyn iddynt eich hysbysu pan fyddant yn ystyried gwrthod cais am ailgyfrif.
Gallwch gyfarwyddo Swyddog Canlyniadau Lleol unigol i ailgyfrif y pleidleisiau ar gyfer ardal bleidleisio benodol, ond dim ond os oes gennych reswm dros amau cywirdeb cyfrif y pleidleisiau yn yr ardal bleidleisio honno. Ni allwch gyfarwyddo ailgyfrif llawn o'r holl bleidleisiau yn ardal yr heddlu.4