Dylech sicrhau bod yr holl brosesau yn dryloyw ac yn digwydd o flaen pawb sydd â'r hawl i fod yno, gyda gwybodaeth yn cael ei rhoi i'r rhai sy'n bresennol ar y prosesau i'w dilyn.
Dim ond y bobl ganlynol sydd â hawl i fod yn bresennol ar adeg cyfrifo'r canlyniad:1
chi a'ch clercod
Swyddogion Canlyniadau Lleol a chlerc a ddewisir gan bob un ohonynt
ymgeiswyr ac un person arall a ddewisir gan bob ymgeisydd
asiantiaid etholiad (gall unrhyw is-asiant a benodir ar gyfer yr ardal lle y cynhelir y cyfrifiad o'r canlyniad fod yn bresennol pan na fydd yr asiant etholiad yn bresennol
cynrychiolwyr o'r Comisiwn Etholiadol
arsylwyr achrededig
Dim ond os ydych yn fodlon nad amherir ar effeithlonrwydd y cyfrifiad, a'ch bod wedi ymgynghori â'r asiantiaid etholiad neu o'r farn y byddai'n anymarferol gwneud hynny, y gallwch ganiatáu i bobl eraill fod yn bresennol.
Rhaid i chi roi hysbysiad ysgrifenedig i asiantiaid etholiad o'r amser a'r lleoliad lle bydd y broses o goladu canlyniadau yn dechrau. Dylech hefyd roi gwybod am unrhyw drefniadau diogelwch sydd mewn lle yn ogytsal a ymddygiad sydd yn ddisgwyliedig gan y mynychwyr, yn enwedig wrth ddarparu cyhoeddiadau ar lafar.
Rhaid i chi ddarparu cyfleusterau rhesymol i'r rhai hynny sydd â hawl i fod yn bresennol er mwyn goruchwylio'r broses o goladu canlyniadau. Dylech hefyd sicrhau y gall unrhyw un arall sydd â'r hawl i fod yn bresennol weld popeth sy'n digwydd yn glir, a hefyd sicrhau na fyddant yn gallu ymyrryd â gwaith eich staff.