Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu yn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr

| Argraffu'r canllawiau llawn

Y broses goladu

Mae'r gyfraith yn nodi'r broses o goladu canlyniadau y mae'n rhaid ei dilyn. Mae'r camau allweddol fel a ganlyn:

Coladu'r ffigurau dilysu

  • Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau llywodraeth leol neu'r Swyddog Canlyniadau Lleol (fel y bo'n briodol) ddilysu'r cyfrifon papurau pleidleisio ar gyfer ei ardal bleidleisio a llunio datganiad ar ganlyniad y broses ddilysu.1
  • Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau llywodraeth leol neu'r Swyddog Canlyniadau Lleol (fel y bo'n briodol) hysbysu'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu am ei ddatganiad dilysu.2
  • Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu goladu'r holl ffigurau dilysu ar gyfer ardal yr heddlu er mwyn canfod cyfanswm y papurau pleidleisio sy'n mynd ymlaen i'r cyfrif ar gyfer yr ardal heddlu gyfan.3
  • Pan gaiff y pleidleisiau eu cyfrif mewn lleoliad gwahanol i'r man y cynhaliwyd y broses ddilysu, gallwch gyfarwyddo Swyddogion Canlyniadau Lleol i gynnal gweithdrefnau dilysu penodol pellach mewn perthynas â'r papurau pleidleisio a'r dogfennau sy'n ymwneud ag etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.4

Coladu cyfansymiau'r cyfrif

  • Pan fydd y cyfrif wedi'i gwblhau, rhaid i'r Swyddog Canlyniadau Lleol rannu'r ffigurau â'r ymgeiswyr a'r asiantiaid sy'n bresennol. Gall ymgeiswyr, asiantiaid etholiad a'r asiantiaid cyfrif hynny sydd wedi'u hawdurdodi'n benodol i wneud hynny, ofyn am ailgyfrif.5  
  • Pan fydd yr ymgeiswyr a'r asiantiaid wedi cael cyfle i wirio'r ffigurau (a phan fydd unrhyw ailgyfrif wedi'i gwblhau), rhaid i'r Swyddog Canlyniadau Lleol lunio datganiad o gyfansymiau lleol yn cynnwys nifer y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd a chyfanswm y papurau pleidleisio a wrthodwyd, a datganiad o bapurau pleidleisio a wrthodwyd wedi'u categoreiddio yn ôl y rheswm dros eu gwrthod.6
  • Rhaid i bob Swyddog Canlyniadau Lleol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, hysbysu'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu am y datganiad o gyfansymiau lleol.7
  • Cyn y gall y Swyddog Canlyniadau Lleol hysbysu'r ymgeiswyr a'r asiantiaid am gynnwys y datganiadau o bapurau pleidleisio a wrthodwyd a chyfansymiau lleol a chyhoeddi hysbysiad, rhaid iddo fod wedi cael awdurdod gan y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu.
  • Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu goladu'r cyfansymiau lleol ar gyfer ardal yr heddlu a dderbyniwyd gan Swyddogion Canlyniadau Lleol. Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu dderbyn yr holl gyfansymiau lleol ar gyfer ardal yr heddlu, rhaid iddo gyfrifo cyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd yn ardal yr heddlu. 
  • Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu rannu'r ffigurau perthnasol â'r asiantiaid etholiad sy'n bresennol a rhaid iddo roi cyfle rhesymol iddynt fodloni eu hunain ynghylch cywirdeb y cyfrifiad. Gall asiant etholiad wneud cais am ailgyfrif ond gall y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu wrthod gwneud hynny os yw'r cais yn afresymol yn ei farn ef.8
  • Pan fydd yr asiantiaid wedi cael cyfle i wirio'r ffigurau (a phan fydd unrhyw ailgyfrifiad wedi'i gwblhau), rhaid i'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu ddatgan y canlyniad fel a ganlyn. 

Mae rhagor o ganllawiau ar y prosesau y bydd angen i chi eu dilyn ar ôl datgan y canlyniad, gan gynnwys rhoi hysbysiad cyhoeddus o'r canlyniad, yn ein canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu ar Ar ôl yr etholiad

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023