Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Newidiadau i'r trefniadau ar gyfer pleidleisio absennol cyn etholiad

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud newidiadau i drefniadau pleidleisio absennol presennol, neu ganslo pleidlais bost bresennol yw 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.  

Efallai y bydd unigolyn yr anfonir ei bleidlais bost ato'n gynnar yn amserlen yr etholiad yn ei chael cyn y dyddiad hwn, ond yna'n penderfynu nad yw am bleidleisio drwy'r post mwyach. Bydd dal yn gallu newid ei drefniadau pleidleisio absennol fel eu bod ar waith yn yr etholiad ar yr amod bod ei gais yn cyrraedd erbyn y dyddiad cau ac nad yw wedi dychwelyd ei bapur pleidleisio drwy'r post eto. Bydd angen i chi gael system ar waith sy'n eich galluogi i nodi'n brydlon a oes papur pleidleisio drwy'r post wedi'i ddychwelyd eto.
 
Ni chaniateir i etholwr sydd wedi cael ei becyn pleidleisio drwy'r post ac sydd eisoes wedi dychwelyd ei bapur pleidleisio drwy'r post a gwblhawyd ganslo na newid ei drefniadau pleidleisio absennol ar gyfer yr etholiad hwnnw.  

Gall etholwr sydd eisoes wedi dychwelyd ei bapur pleidleisio drwy’r post wedi’i gwblhau barhau i wneud cais i wneud newidiadau i’w drefniadau pleidleisio absennol ond ni fydd y newidiadau hyn yn digwydd tan unrhyw etholiad yn y dyfodol. 

Yr eithriad i hyn yw pan fo’r papur pleidleisio wedi’i ddychwelyd fel un sydd wedi’i ddifetha neu wedi’i golli cyn i’r dyddiad cau ar gyfer newidiadau fynd heibio. 

Os yw’r papur pleidleisio wedi’i ddychwelyd fel un sydd wedi’i ddifetha neu wedi’i golli cyn i'r terfyn amser ar gyfer newidiadau fynd heibio, yna gall yr etholwr wneud newidiadau o hyd i’r trefniadau pleidlais absennol ar gyfer yr etholiad lle cyhoeddwyd y papur pleidleisio.

Mae hyn hefyd yn wir yn achos etholwr sy'n pleidleisio drwy ddirprwy, lle mae gan ei ddirprwy bleidlais bost a'i fod eisoes wedi pleidleisio ar ran yr etholwr drwy ddychwelyd ei bleidlais bost wedi'i chwblhau.1

Dychwelyd unrhyw bapur pleidleisio drwy'r post sy’n berthnasol wrth benderfynu p’un a all etholwr wneud newidiadau i’w drefniadau pleidleisio drwy’r post ai peidio er mwyn iddynt ddod i rym yn yr etholiadau. 

Bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn gweinyddu'r newidiadau i unrhyw drefniadau pleidleisio absennol, a rhaid iddynt roi gwybod i chi mewn pryd er mwyn iddynt ddod i rym yn yr etholiad, pryd bynnag y byddant wedi caniatáu'r canlynol2 :2    

  • canslo pleidlais bost
  • newid o bleidlais bost i bleidlais drwy ddirprwy
  • newid o bleidlais drwy ddirprwy i bleidlais bost
  • cais am i bapur pleidleisio drwy'r post gael ei anfon i gyfeiriad gwahanol
  • canslo cais i benodi dirprwy

Dylech roi gwybod i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol pan fydd papurau pleidleisio drwy’r post yn cael eu hanfon a’r dyddiad cau terfynol ar gyfer canslo a newid, a chysylltu â nhw i benderfynu sut y bydd unrhyw geisiadau am newidiadau i drefniadau pleidleisio absennol a gwybodaeth am bapurau pleidleisio drwy’r post a ddychwelwyd yn cael eu cyfnewid, fel 

  • bod y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn gallu gwirio a oes papur pleidleisio drwy’r post wedi’i ddychwelyd
  • bod y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn gwybod p’un a gallant ganiatáu cais am newidiadau neu gais i ganslo mewn pryd ar gyfer yr etholiad
  • eich bod yn gallu canslo’r papur pleidleisio drwy’r post os yw’r cais wedi’i ganiatáu

Bydd angen i chi gasglu unrhyw bapurau pleidleisio a gafwyd cyn y dyddiad cau ar gyfer pleidleisio absennol ac a ganslwyd wedyn gan yr etholwr. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar gasglu pleidleisiau post a ganslwyd.      

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Mawrth 2025