Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Pleidleisio drwy ddirprwy

Bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn rhoi rhestr i chi o'r holl etholwyr sydd, erbyn 5pm, chwe diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio1 , wedi penodi dirprwy i bleidleisio ar eu rhan.1  Rhaid i chi roi'r rhannau perthnasol o'r rhestr hon o ddirprwyon i Swyddogion Llywyddu.2  

Bydd rhestr ar wahân yn cynnwys manylion dirprwyon pleidleisio drwy'r post.3  Rhaid nodi ‘A’ yn erbyn enw'r etholwr ar gofrestr yr orsaf bleidleisio oherwydd os bydd etholwr wedi penodi dirprwy a bod ei ddirprwy wedi gwneud cais i bleidleisio drwy'r post, ni all bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio mwyach.4   

Gellir penderfynu ar geisiadau am ddirprwy a dderbynnir gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol (lle nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd) cyn y dyddiad cau sy'n gofyn am ddilysu ID hyd at a chan gynnwys y diwrnod pleidleisio.

Efallai y bydd angen i chi wneud newid i'r gofrestr brintiedig os yw dirprwy wedi gwneud cais i bleidleisio drwy'r post a phenderfynir ar y cais yn agos at y bleidlais. Mae ein canllaw ar gofrestrau gorsafoedd pleidleisio a rhestrau pleidleisio absennol yn cynnwys rhagor o wybodaeth am newidiadau y gellir eu gwneud i'r gofrestr ar ôl iddynt gael eu hargraffu.

Cyfyngiadau ar bleidleisio drwy ddirprwy

Ni all unigolyn gael mwy nag un dirprwy sydd wedi'i benodi ar unrhyw adeg.5

Ni all unigolyn bleidleisio fel dirprwy yn yr un etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu mewn unrhyw ardal bleidleisio Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar ran mwy na phedwar etholwr (ac o'r rhain ni all mwy na dau etholwr fod yn etholwr domestig).6  

Mae'n drosedd:

  • i berson benodi dirprwy yn fwriadol sydd eisoes yn gweithredu fel dirprwy ar gyfer dau neu fwy o etholwyr domestig7
  • i berson sydd wedi'i gofrestru fel pleidleisiwr gwasanaeth benodi dirprwy yn fwriadol sydd eisoes yn gweithredu fel dirprwy ar gyfer pedwar neu fwy o etholwyr (ac o'r rhain ni all mwy na dau etholwr fod yn etholwr domestig)8
  • i bleidleisio fel dirprwy i fwy na dau etholwr domestig9
  • i bleidleisio fel dirprwy ar gyfer mwy na phedwar etholwr (ac o'r rhain ni all mwy na dau etholwr fod yn etholwr domestig)10
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Chwefror 2024