Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Hysbysiad o leoliad gorsafoedd pleidleisio

Fel Swyddog Canlyniadau lleol, chi sy'n gyfrifol am gyhoeddi'r hysbysiad o leoliad gorsafoedd pleidleisio.

Rhaid i chi, heb fod yn hwyrach na dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad etholiad, 6 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio, baratoi a chyhoeddi hysbysiad yn nodi'r canlynol 

  • lleoliad pob gorsaf bleidleisio yn yr ardal bleidleisio 
  • disgrifiad o'r pleidleiswyr sydd â'r hawl i bleidleisio yno

Dylai fod gennych brosesau prawfddarllen cadarn ar waith er mwyn sicrhau nad oes unrhyw wallau yn yr hysbysiad o leoliad gorsafoedd pleidleisio.  

Rhaid i chi roi copi o'r hysbysiad o leoliad gorsafoedd pleidleisio a disgrifiadau o bleidleiswyr sydd â'r hawl i bleidleisio yno i bob asiant etholiadol cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad. 

Dylech gysylltu â Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu er mwyn trafod sut y dylid rheoli'r broses o ddarparu'r hysbysiad o leoliad gorsafoedd pleidleisio i asiantiaid ac is-asiantiaid yn ymarferol, gan gynnwys p'un a gaiff yr hysbysiadau ar gyfer pob ardal bleidleisio yn ardal yr heddlu eu dosbarthu'n ganolog gan y Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu. 

Dylech fod yn barod i sicrhau bod yr hysbysiadau hyn ar gael i unrhyw arsyllwyr achrededig ar gais.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2024